Toglo gwelededd dewislen symudol

Canolfan Gymunedol Ostreme

Canolfan sy'n canolbwyntio ar gelf a chrefft, hanes a theatr yng nghanol y Mwmbwls.

Lle Llesol Abertawe - Cyngor Cymuned y Mwmbwls

Dydd Mawrth, 12.00pm - 2.00pm

Rydym ar agor ar gyfer coffi gyda ffrindiau - gallwch ddisgwyl croeso cynnes, diod boeth a theisen, ac mae'r cyfan am ddim. Mae cynghorwyr cymuned bob amser yn bresennol felly gallwch drafod unrhyw faterion lleol a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Toiledau / toiledau hygyrch
  • Mae lluniaeth ar gael
    • mae'r holl luniaeth am ddim - diodydd poeth a theisen
  • Dŵr yfed ar gael
  • Gwasanaeth benthyca llyfrau / cyfnewid llyfrau
  • Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
    • mae cynghorwyr cymuned yn bresennol, yn ogystal â Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn aml a'r Cydlynydd Ardal Leol. Byddwn yn gwneud ein gorau i helpu gydag unrhyw faterion lleol trwy gysylltu pobl â'r pwynt cyswllt cywir.
Enw
Canolfan Gymunedol Ostreme
Cyfeiriad
  • Castle Avenue
  • Y Mwmbwls
  • Abertawe
  • SA3 4BA
Gwe
https://mumbles.gov.uk/
Rhif ffôn
07724 437 865

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Medi 2024