Canu yn y stryd yng nghanol y ddinas
Does dim byd fel sŵn cerddoriaeth fyw neu weld perfformwyr stryd yn diddanu'r cyhoedd er mwyn ychwanegu at yr awyrgylch wrth fynd o siop i siop yng nghanol y ddinas.
Ar hyn o bryd nid oes angen trwydded i berfformio yng nghanol y ddinas, ond gofynnwn yn garedig i berfformwyr ddilyn y Côd Canu ar y Stryd (isod) a defnyddio'r safleoedd dynodedig yn unig.
Os ydych yn berfformiwr stryd proffesiynol, yn adroddwr straeon, yn ddawnsiwr, yn gerddor brwd neu'n fyfyriwr drama, mae ein cynllun canu yn y stryd ac adloniant stryd canol y ddinas, Canu'r Dydd a Chanu'r Nos, yn llwyfan diogel a hygyrch wedi'i reoleiddio i berfformwyr er mwyn iddynt gael profiad amhrisiadwy o ddiddanu'r cyhoedd ynghyd ag ychydig o incwm drwy berfformio yn y stryd.
Mae'r cynllun hefyd, sydd wedi bod ar waith ers 2009, yn sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cydlynu, eu hyrwyddo a'u cefnogi gan gerddorion stryd a masnachwyr canol y ddinas.
Lleoliadau perfformio
Mae lleoliadau perfformio swyddogol ar gael yng nghanol y ddinas yn yr ardaloedd gyda llawer o ymwelwyr sy'n darparu cyfleoedd yn ystod y dydd a min nos.
Gitâr / coch = man canu yn y stryd
Nodyn cerddorol / glas tywyll = man canu yn y stryd mewn tywydd gwael mewn lleoliad cysgodol
- Pen uchaf Stryd Rhydychen/mynedfa Sgwâr y Castell
- Cyffordd Stryd Rhydychen a Stryd Portland
- Stryd Rhydychen Isaf - y tu allan i hen siop Poundland
- Cyffordd Sgwâr y Santes Fair/Whitewalls
- Stryd yr Undeb - gyferbyn â mynedfa'r farchnad
- Y tu allan i Orsaf Drenau Abertawe
- Blaengwrt Castell Abertawe
- Cyffordd Gwaelod Stryd y Gwynt/Stryd y Gwynt Fach
- Gorsaf Fysus Abertawe*
- Stryd Rhydychen - o dan y canopi rhwng River Island a hen siop Sports Direct*
- Cyffordd Stryd Rhydychen/Whitewalls - o dan y canopi ger hen siop Topshop*
- Sgwâr y Santes Fair - o dan y canopi ger New Look*
* lleiniau tywydd gwlyb mewn lleoliadau cysgodol
Côd Canu ar y Stryd
- Mae safleoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin, a chânt eu cylchdroi bob 2 awr os oes angen.
- Defnyddiwch gynhwysydd i gasglu rhoddion; peidiwch â mynd ati i gasglu arian neu gardota.
- Caniateir defnyddio system sain, fodd bynnag bydd angen ystyried nad yw'r sain yn rhy uchel ac yn achosi niwsans i adeiladau gerllaw.
- Mae'r Ceidwaid yna i'ch helpu! Gwrandewch ar eu cyngor gan weithio gyda nhw i gydymffurfio â'r rheolau yng nghanol y ddinas.
- Byddwch yn ymwybodol o risgiau a sicrhewch fod eich perfformiad yn ddiogel! Peidiwch â rhoi'ch hunan nac eraill mewn perygl.
- Y perfformwyr mwyaf llwyddiannus yw'r rheiny sy'n gyfeillgar ac yn broffesiynol - gwisgwch ac ymatebwch yn briodol ar bob adeg.
- Peidiwch â pherfformio dan ddylanwad neu os oes gennych gyffuriau neu alcohol.
- Mae angen trwydded masnachu ar y stryd i werthu CDs neu nwyddau wrth ganu ar y stryd, ac os hoffech wybod mwy am hyn. Bydd ffi weinyddol flynyddol yn berthnasol, yn ogystal â'n Hamodau a Thelerau, e-bostiwch citycentremanagement@abertawe.gov.uk ragor o wybodaeth.
Cefnogaeth
Mae ceidwaid canol y ddinas yn goruchwylio'r cynllun ar y safle ac yn helpu i ddelio ag unrhyw ymholiadau neu faterion a allai godi.