Toglo gwelededd dewislen symudol

Casgliadau gwastraff arbennig ac eitemau swmpus

Gall casgliad arbennig fod yn eitem unigol, yn hanner llwyth neu'n llwyth cyfan ar gyfer eitemau nad ystyrir fel gwastraff cyffredinol a ddarperir i gwsmeriaid â chontract gwastraff presennol gyda'r cyngor yn unig.

Bydd swyddog masnachol yn ymweld â'ch adeilad i asesu faint o wastraff a'r math o wastraff sydd gennych i'w waredu neu fel arall, darparwch luniau a meintiau'r eitemau i'w gwaredu. Yna byddwn yn gallu pennu pris ar gyfer y casgliad. Bydd hyn yn seiliedig ar yr amser y bydd hyn yn ei gymryd, maint y cerbyd y bydd ei angen arnom a'r costau gwaredu o ganlyniad. Byddwn yn trefnu casgliad pan dderbynnir cais trwy e-bost yn cytuno i'r pris ac anfonebir y busnes am y gwasanaeth hwn.

Yn addas ar gyfer:

  • casgliadau unigol ar gyfer eitemau sy'n rhy fawr i'w rhoi mewn bin
  • celfi
  • oergelloedd/rhewgelloedd (codir tâl unigol am y rhain, gan ddibynnu ar eu maint)
  • cyfarpar cyfrifiadurol (codir tâl unigol ar gyfer setiau teledu a monitorau)

I sicrhau bod eich eitemau'n cael eu casglu mae'n rhaid i chi: 

  • roi'r eitemau a ddisgrifiwyd gennych wrth drefnu'r casgliad allan yn unig
  • rhowch yr eitemau allan i'w casglu ar ymyl y ffordd rhwng 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu a 7.00am ar fore eich diwrnod casglu
  • ceisio cadw eitemau'n sych a pheidio â'u gadael allan am amser hir ym mhob tywydd. Os ydych yn gadael eitem allan a allai amsugno dŵr (e.e. matres neu soffa), gorchuddiwch hwy. Gall eitemau gwlyb fod yn rhy drwm i'w codi ac ni chesglir hwy.

NI FYDDWN yn casglu:

  • eitemau sy'n rhy drwm i'r criw casglu eu codi'n ddiogel
  • eitemau o du mewn yr eiddo oni bai y cytunwyd ar hyn ymlaen llaw
  • gwastraff peryglus e.e. asbestos, batris ceir, paent, tiwbiau fflwroleuol etc
  • eitemau'n cynnwys gwydr neu ddrychau
  • drysau allanol
  • gosodion megis rheiddiaduron neu setiau ystafell ymolchi
  • boeleri, poteli nwy neu danciau olew.
Close Dewis iaith