Classic Ibiza Swansea
Nos Wener Friday 19 Gorffennaf Parc Singleton
![Classic Ibiza Swansea](/image/17452/Classic-Ibiza-Swansea/standard.jpg?m=1719928380890)
Caneuon dawns poblogaidd yn cael eu perfformio gan gerddorfa fyw o dan y sêr...
Mae Abertawe'n paratoi i gael blas ar Ibiza ym mis Gorffennaf wrth i gyngerdd awyr agored, sy'n addo bod yn barti gorau'r haf, ddod i Barc Singleton.
Bydd Classic Ibiza, cerddorfa fyw gyda 32 o gerddorion yng nghwmni DJs a chantorion yn ailddychmygu rhai o ganeuon dawns mwyaf poblogaidd y 30 o flynyddoedd diwethaf. Byddwch yn clywed caneuon fel 'Insomnia', 'Sandstorm','Levels' a 'Born slippy' yn cael eu perfformio gan gerddorfa wych!
Yn ogystal â pherfformiad gan y brif act, Classic Ibiza, ac act gynorthwyol wadd arbennig i'w chyhoeddi, bydd pawb sy'n dod i'r gyngerdd yn profi safle sy'n debyg i ŵyl gerddoriaeth lawn, gyda stondinau colur pefr, diddanwyr byw sy'n crwydro a nifer o farrau a siopau bwyd stryd.