Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofrestru i wneud cais ar-lein ar gyfer derbyniadau ysgol gyda Dinas a Sir Abertawe

Canllawiau ar gyfer cwblhau cais ar-lein am dderbyniadau i'r dosbarth derbyn neu flwyddyn 7.

Cyn i chi allu cwblhau cais ar-lein neu olygu cais cyfredol, bydd angen i chi gofrestru gyda chyfeiriad e-bost dilys. Fe'ch cynghorir i ddarllen  a roddir i rieni ym mis Medi cyn gwneud eich cais.

Pwysig
Os ydych chi wedi cofrestru ar y wefan hon o'r blaen, gallwch fewngorfnodi gyda'ch cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair gwreiddiol. Gwiriwch Fy Nghyfrif i sicrhau eu bod yn gyfoes ac yn gywir. Os ydych chi wedi newid eich cyfeiriad e-bost ers eich cais blaenorol, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost gwreiddiol ac yna rhowch eich cyfeiriad e-bost newydd yn Fy Nghyfrif.

Sylwer: Peidiwch â defnyddio'r botymau Nôl a Nesaf ar frig y ffenest ar eich gwe-borwr. Gall gwybodaeth rydych wedi'i chwblhau fynd ar goll os ydych yn defnyddio'r botymau hyn. Yn lle hynny, defnyddiwch y botymau Nôl a Nesaf ar waelod y we-dudalen.

Cofrestru ar gyfer Cyfrif Porth One Citizen

Cyn i'r rhiant, y gofalwr, y gwarcheidwad neu'r person ifanc allu mewngofnodi i borth Hunanwasanaeth One Citizen, rhaid iddynt greu cyfrif drwy gofrestru gyda'u hawdurdod lleol. I gofrestru ar gyfer cyfrif porth Hunanwasanaeth one Citizen, rhaid i'r rhiant gwblhau'r weithdrefn ganlynol:

1. Agorwch yr URL ar gyfer porth Hunanwasanaeth One Citizen, a anfonwyd gan yr awdurdod lleol, mewn gwe-borwr i arddangos hafan Porth One Citizen.

2. Cliciwch y botwm Cofrestru ar y bar llywio neu cliciwch y ddolen Cofrestrwch ar y panel Mewngofnodi i arddangos y tab Cofrestru / Manylion Diogeledd.

3. Rhowch yr wybodaeth y gofynnir amdani ar y tab Manylion Diogeledd; mae'n rhaid llenwi pob maes.

4. Cliciwch y botwm Nesaf i arddangos y tab Amdanoch Chi.

5. Rhowch yr wybodaeth y gofynnir amdani ar y tab Amdanoch Chi; mae'n rhaid llenwi pob maes.

6. Cliciwch y botwm Nesaf i arddangos y tab Manylion Cyswllt.

7. Rhowch gôd post a chliciwch Chwilio am Gyfeiriad; mae hwn yn faes gorfodol. Os na allwch ddod o hyd i'ch cyfeiriad, gallwch deipio Nodi'r Cyfeiriad â Llaw, gweler isod.

8. Mae'r rhifiau ffôn cartref, ffôn symudol a ffôn gwaith ar waelod y dudalen yn ddewisol, ond rydym yn argymell nodi o leiaf un.

9. Cliciwch y botwm Cyflwyno Cofrestriad; byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn i chi roi eich cyfrif ar waith drwy gadarnhau eich cyfeiriad e-bost.

10. Cliciwch y ddolen yn eich e-bost i gadarnhau eich cyfeiriad e-bost a chwblhau'r cofrestriad. Gallwch nawr fewngofnodi i borth Hunanwasanaeth One Citizen, gan ddefnyddio'r cyfrinair a grëwyd gennych chi wrth gofrestru.

Mewngofnodi i wneud cais newydd neu olygu cais cyfredol Mewngofnodi i wneud cais newydd neu olygu cais cyfredol