Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am le mewn ysgol (Medi 2024)

Gwnewch gais am le mewn ysgol yn Abertawe ar gyfer dosbarth derbyn neu flwyddyn 7 ym mis Medi 2024.

Ydych chi wedi ystyried addysg Gymraeg ar gyfer eich plentyn? Mae rhagor o wybodaeth am y manteision i'w chael yma..

 

Rhestrir isod y dyddiadau agor ar gyfer derbyn ceisiadau.

Gofynnir i rieni ddarllen y  a cais ar-lein - arweiniad i ddefnyddwyr yn ofalus cyn dechrau'r broses.

Rhestrir isod y dyddiadau agor ar gyfer derbyn ceisiadau
Gwneud cais am le yn:Dyddiad cyntaf ar gyfer ceisiadauDyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Derbyn2 Hydref 202324 Tachwedd 2023
Blwyddyn 72 Hydref 202324 Tachwedd 2023

 

Mae'r system ar-lein ar gyfer y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 (Medi 2024) bellach ar gau.
Cysylltwch â'r Tîm Derbyn am ffurflen hwyr: derbyniadau@abertawe.gov.uk

Sylwer, os byddwch chi'n aros tan y dyddiad olaf i gyflwyno'ch cais ac yn cael anhawster wrth gwblhau'r ffurflen, ni fydd unrhyw gymorth technegol ar gael ar ol 4.00pm ar y diwrnod cau (24 Tachwedd 2023).

Dyddiadau pwysig i'w cofio ar gyfer Addysg Gynradd 2024 / 2025

Mae'r amserlen hon ar gyfer rhieni sy'n gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn ar gyfer mis Medi 2024.

Dyddiadau pwysig i'w cofio ar gyfer Addysg Uwchradd 2024 / 2025

Mae'r amserlen hon ar gyfer rhieni sy'n gwneud cais am le ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2024.

Cais Ar-lein - Arweiniad i Ddefnyddwyr

Canllawiau ar gyfer cwblhau cais ar-lein am dderbyniadau i'r dosbarth derbyn neu flwyddyn 7 ym mis Medi 2024.

Cwestiynau cyffredin am wneud cais ar-lein ar gyfer lle mewn ysgol

Cwestiynau cyffredin ynghylch gwneud cais ar-lein am le mewn dosbarth Derbyn ac ym Mlwyddyn 7.

Pryd byddaf yn gwybod a fu fy nghais am le mewn dosbarth derbyn neu Flwyddyn 7 yn llwyddiannus ai peidio?

Wrth wneud eich cais ar-lein gofynnir i chi ddewis a ydych yn dymuno cael gwybod am ganlyniad eich cais drwy e-bost neu drwy lythyr.
Close Dewis iaith