Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Hyblyg ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau

Os ydych yn byw yng Nghymru ac wedi colli'ch swydd gyda Tata Steel UK, cwmni yn ei gadwyn gyflenwi, neu gontractwr cysylltiedig arall yn ddiweddar, gallwch gael mynediad at arian grant i'ch helpu i sicrhau cyflogaeth ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Gronfa Hyblyg ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau wedi'i sefydlu gan Fwrdd Pontio Tata i gefnogi pobl yng Nghymru y mae rhaglen drawsnewid gyfredol Tata Steel UK wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Ar gyfer beth y gellir defnyddio'r arian grant?

Os ydych yn gymwys, gall y grantiau ar gyfer unigolion eich helpu i dalu costau fel:

  • costau hyfforddiant
  • ffïoedd arholiadau
  • tystysgrifau a thrwyddedau sy'n ymwneud â gwaith
  • offer a chyfarpar
  • yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer pobl hunangyflogedig

Nid yw'r uchod yn rhestr gyflawn o enghreifftiau. Bydd costau cefnogi eraill yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid ar sail unigol.

Sut gallaf gael yr arian?

Os ydych yn byw yn Abertawe

E-bostiwch swanseaworking@swansea.gov.uk neu ffoniwch 01792 578632 i drefnu cyfarfod ag un o fentoriaid cyflogadwyedd Abertawe i wirio a ydych yn gymwys.

Neu gallwch alw heibio Hwb Abertawe'n Gweithio yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant neu unrhyw un o'r hybiau cymunedol lleol: Hybiau Cyflogaeth Abertawe'n Gweithio

Os ydych yn byw yn rhywle arall yng Nghymru

Cysylltwch â'ch gwasanaeth cyflogadwyedd lleol. Neu os ydych yn gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot ond rydych yn byw yn rhywle arall, gallwch hefyd fynd i un o'r lleoliadau galw heibio uchod i siarad ag un o'n hymgynghorwyr wyneb yn wyneb.

Rydym yn deall y gall colli swydd fod yn anodd iawn, ond mae croeso i chi gysylltu â ni. Rydym yma i'ch helpu i benderfynu beth yr hoffech ei wneud ac i'ch cefnogi i gymryd y cam nesaf o'ch dewis.

Pa wybodaeth y bydd angen i mi ei darparu?

Er mwyn helpu ein hymgynghorwyr i'ch cefnogi ac i ymdrin â'ch ymholiad yn gynt, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:

  • copi o'ch llythyr dileu swydd
  • prawf adnabod ffotograffig
  • eich rhif Yswiriant Gwladol

Bydd cyllid ar gael yn 2025-26 hefyd.

Gweithio Abertawe

Chwilio am waith? Gallwn eich helpu chi.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Tachwedd 2024