Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithio Abertawe

Chwilio am waith? Gallwn eich helpu chi.

Man getting some job advice

Gweithio Abertawe.
Gall Abertawe'n Gweithio gynnig:

  • Cynlluniau gweithredu cyflogaeth wedi'u personoli 
  • Hyfforddiant i ddiwallu'ch anghenion 
  • Datblygu CV, sgiliau cyfweliad, cefnogaeth gyda cheisiadau am swyddi 
  • Profiad gwaith, lleoliadau, prentisiaethau a chyfleoedd am swyddi 
  • Cefnogaeth yn y gwaith

Cysylltwch heddiw ar 01792 578632, e-bostiwch gweithioabertawe@abertawe.gov.uk a dewch o hyd i ni ar Facebook neu Twitter.

Mae ein hwb cyflogaeth ar y dde wrth i chi ddod allan o'r orsaf fysus ac i mewn i'r Cwadrant (gyferbyn â Trespass/Superdrug).

Gofyn am help

Eich taith i fod yn fwy cyflogadwy.

Arweiniad cryfderau a gwendidau

Gallwn eich helpu i weld lle mae angen gwneud newidiadau.

Sut dwi'n cyflwyno fy hun?

Mae gennym lawer o awgrymiadau gwych fel y gallwch greu argraff dda gyda'ch ffurflen gais, mewn cyfweliad neu ar eich diwrnod cyntaf yn y gwaith.

Arweiniad ar gynllunio a chyrraedd nodau

Gallwn eich helpu gyda chynllunio fel y gallwch gyrraedd eich nodau.

Arweiniad gwybodaeth, sgiliau a galluoedd

Ar ôl datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd, efallai bydd angen help arnoch o hyd i wybod sut i'w defnyddio er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa.

Datblygiad proffesiynol parhaus

Gall Abertawe'n Gweithio helpu i ddadansoddi'ch rôl, eich cyfrifoldebau a'ch ffiniau eich hun yn y sefydliad.
Close Dewis iaith