Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwblhau cais ar-lein ar gyfer derbyniadau ysgol gyda Dinas a Sir Abertawe

Canllawiau ar gyfer cwblhau cais ar-lein am dderbyniadau i'r dosbarth derbyn neu flwyddyn 7.

Fe'ch cynghorir i ddarllen  a roddir i rieni ym mis Medi cyn gwneud eich cais.

Sylwer: Peidiwch â defnyddio'r botymau Nôl a Nesaf ar frig y ffenest ar eich gwe-borwr. Gall gwybodaeth rydych wedi'i chwblhau fynd ar goll os ydych yn defnyddio'r botymau hyn. Yn lle hynny, defnyddiwch y botymau Nôl a Nesaf ar waelod y we-dudalen.

Os ydych yn golygu cais cyfredol neu'n gwneud newidiadau i gais ar ôl ei gyflwyno, rhaid i chi AILGYFLWYNO eich cais cyn y dyddiad cau.

Cwblhau Cais Newydd

Ar ôl mewngofnodi, byddwch yn gweld Hafan Derbyniadau Ar-lein.

1. I ddechrau eich cais am le ysgol, dewiswch Lleoedd Ysgol. Os oes gennych fwy nag un plentyn, un cyfrif yn unig fydd angen arnoch.

2. Nawr dylech weld yr hafan Lleoedd Ysgol sy'n cael ei ddangos isod. Os ydych eisoes wedi ychwanegu plant drwy wasanaeth arall neu'r eicon Fy Nheulu, cânt eu dangos yma, neu, i ddechrau cais newydd, cliciwch ar y botwm Ychwanegu Plentyn.

Os oes gennych fwy nag un plentyn, bydd angen i chi gwblhau cais ar wahân i bob plentyn. Gallwch ddychwelyd i'r dudalen hon ar unrhyw adeg ac ychwangeu mwy o geisiadau.

3. Ar y sgrîn Ychwanegu Plentyn, bydd angen i chi roi enwau cyfreithiol eich plentyn, ei ryw, ei ddyddiad geni a'r berthynas â'r plentyn. Gallwch naill ai glicio ar y cyfeiriad a ddangosir i gadarnhau ei fod yn byw gyda chi neu cliciwch yn y blwch isod i ychwanegu cyfeiriad newydd.

4. Wedi i chi roi'r holl wybodaeth, cliciwch Ycwanegu Plentyn i gadarnhau'r manylion ac eir â chi yn ôl i'r hafan Lleoedd Ysgol.

5. Dylai eich plentyn ymddangos yn awr ar yr hafan Lleoedd Ysgol. Gallwch ddechrau cais newydd drwy glicio ar Dechrau cais newydd neu os oes angen i chi ychwanegu mwy o blant, cliciwch eto ar Ychwanegu Plentyn ac ailadrodd y broses uchod.

Gwneud cais

6. Wrth glicio Dechrau cais newydd, eir â chi i'r dudalen Dewis Grŵp Trosglwyddo. Os nad oes Grŵp Trosglwyddo'n ymddangos, efallai ei bod yn rhy hwyr i chi wneud cais neu nid yw dyddiad geni eich plentyn o fewn yr amrediad - cysylltwch â'r adran drbyniadau y naill ffordd neu'r llall. Dewiswch y lle ysgol rydych yn dymuno gwneud cais amdano, ac yna mae'r sgrîn nesaf i'w harddangos yn amrywio, gan ddibynnu ar yr opsiwn a ddewisoch:

Os dewisoch chi Newid ysgol ar unwaith / yn y dyfodol agos, caiff y dudalen Trosglwyddo yn ystod y Flwyddyn Ysgol ei harddangos.

  • Dewiswch reswm o'r maes rheswm dros newid ysgol.
  • Rhowch y dyddiad yr hoffech chi i'ch plentyn ddechrau yn yr ysgol newydd, yna cliciwch y botwm Cadarnhau. Bydd y gronfa ddata'n gwirio i weld pa flwyddyn ysgol fyddai eich plentyn yn gymwys iddi yn yr ysgol newydd.
  • Cliciwch y botwm Nesaf i ddangos y sgrîn Chwilio am blentyn.

Os dewisoch chi opsiwn heblaw am Newid ysgol ar unwaith / yn y dyfodol agos, caiff y sgrîn Chwilio am blentyn ei harddangos, sy'n cael ei dangos isod.

7. Ar y dudalen Manylion Ychwanegol Plentyn atebwch bob cwestiwn a chliciwch Nesaf. Symudwch y llithrydd i ddewis.

8. Ar y dudalen Manylion Cyfeiriad, y cyfeiriad cyfredol sy'n cael ei ddangos yw'r un a nodwyd yn flaenorol gennych chi.

Os nad yw hyn yn gywir, rhaid ei ddiweddaru gan ddefnyddio teilsen Fy Nheulu sydd ar yr Hafan Derbyniadau Ar-lein.

9. Os ydych yn symud cartref cyn i'ch plentyn ddechrau yn yr ysgol rydych yn gwneud cais amdani, bydd angen i chi gwblhau adran Symud Cartref? y dudalen hon.

10. Os yw'r plentyn yn aelod o deulu lluoedd arfog neu weision y Goron sy'n symud i'r ardal, bydd angen i chi symud y llithrydd priodol i Ydy, a ddangosir uchod. Cliciwch y botwm Nesaf i arddangos y dudalen Ysgol Bresonnol y Plenyn.

11. Mae cyllun y dudalen Ysgol Bresennol y Plenyn yn newid gan ddibynnu ar a oes ysgol bresennol wedi'i chofnodi ar gyfer y plentyn.

Mae'r ddelwedd ganlynol yn dangos sut olwg fydd ar y sgrîn os oes ysgol eisoes wedi'i chofnodi.

Os yw ysgol bresennol y plentyn yn gywir, cliciwch y botwm Nesaf i arddangos y dudalen Chwilio am Ysgolion o Ddewis.

12. Os ydych am newid ysgol bresennol y plentyn, cliciwch y botwm Newid Ysgol Bresennol i ddiddymu'r ysgol honno o'r cais, yna gwnewch y canlynol i ddewis ysgol newydd.

13. Os nad oes ysgol wedi'i chofnodi (naill ai am eich bod wedi clicio ar y botwm Newid Ysgol Bresnnol neu am nad oedd ysgol eisoes wedi'i nodi yn y gronfa ddata):

  • Rhowch y meini prawf chwilio yn y meysydd yn yr adran Chwilio am Ysgol ac yna cliciwch y botwm Chwilio i arddangos rhestr o ysgolion sy'n cyd-fynd â'r meini prawf hynny.

  • Cliciwch ar ysgol i'w dewis.
  • Cliciwch y botwm Nesaf i arddangos y dudalen Chwilio am Ysgolion o Ddewis.

Os ydych yn cyflwyno cais am le mewn ysgol uwchradd (blwyddyn 7-11) mae'n rhaid i chi hefyd gyflwyno adran y pennaeth i'w chwblhau gan bennaeth ysgol bresennol eich plentyn. Cyfrifoldeb rhiant yw lawrlwytho, llenwi a dychwelyd y ffurflen hon. Ni chaiff y cais ei brosesu nes caiff adran y pennaeth ei chwblhau a'i dychwelyd.

Sylwer: Os na allwch ddod o hyd i ysgol bresennol y plentyn yn y chwiliad, gallwch roi enw'r ysgol yn y maes Yn cael ei addysgu ar hyn o bryd yn.

14. Dewiswch ysgol o ddewis.

  • Rhowch y meini prawf chwilio yn y meysydd yn yr adran Chwilio am Ysgol ac yna cliciwch y botwm Chwilio i arddangos rhestr o ysgolion sy'n cyd-fynd â'r meini prawf hynny.
  • PWYSIG! Os ydych yn chwilio am ysgolion drwy gôd post, rhaid i cih yschwanegu côd post yr ysgol, nid eich un chi. Os nad yw eich ysgol wedi'i rhestru yn y chwiliad côd post, diddymwch y Côd post a newid Lleoliad Ysgolion i'ch awdurdod lleol a rhoi rhan o enw'r ysgol.
  • Cliciwch ar ysgol i'w dewis. Rhesymau dros y dewis: Caiff y dudalen Brodyr a Chwiorydd ei harddangos.

15. Os bydd gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol o ddewis neu'r ysgol bartner ar y dyddiad cychwyn, cliciwch y botwm Oes i arddangos y sgrîn Manylion Brodyr a Chwiorydd.

  • Rhowch enw'r brawd neu'r chwaer a'r manylion cyfeiriad, yna cliciwch y botwm Nesaf i arddangos tudalen Ysgol y Brawd / Chwaer.

  • Os yw'r brawd neu'r chwaer yn mynd i ysgol wahanol i'r ysgol o ddewis a ddangosir, cliciwch y botwm Chwilio am Ysgol a defnyddiwch y meysydd chwilio i ddewis yr ysgol berthnasol.

  • Cliciwch ar ysgol i'w dewis ac yna cliciwch y botwm nesaf i arddangos y dudalen Rhesymau Dros y Dewis

16. Os na fydd gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol o ddewis neu'r ysgol bartner ar y dyddiad cychwyn, cliciwch y botwm Nac oes i arddangos y dudalen Rhesymau Dros y Dewis a ddangosir isod.

Dewiswch y rhesymau pam rydych am i'ch plentyn fynd i'r ysgol o ddewis gan ddefnyddio'r botymau togl ac yna cliciwch y botwm Nesaf.

17. Rhowch unrhyw ddewisiadau eraill sydd gennych i gefnogi'ch cais yn y maes testun rhydd Rhesymau Eraill ac yna cliciwch y botwm Nesaf i arddangos y dudalen Eich Ysgolion o Ddewis. Bydd yr ysgolion a ddewisoch yn ymddangos yn y rhestr Eich Ysgolion o Ddewis.

Os ydych am:

  • Ychwaegu mwy o ddewisiadau, cliciwch y botwm Ychwanegu ysgol o ddewis newydd ac yna ailadroddwch gamau 15 i 18. Gallwch ddewis hyd at uchafswm o dair ysgol.
  • Golygwch y rhesymau dros ddewis a roddwyd ar gyfer ysgol arbennig cliciwch y botwm Golygu.
  • I ddileu dewis yn gyfan gwbl, cliciwch y botwm Diddymu.

18. Fel arall, cliciwch y botwm Nesaf i arddangos y dudalen Crynodeb o'r Cais. Mae mwy o gamu i'w cyflawni cyn gellir cyflwyno'r cais.

  • Darllenwch y Polisi Amodau a Thelerau a Diogelu Data. Mae datganiad ar waelod y dudalen i ddangos eich bod wedi gwneud hynny.
  • Nodwch a hoffech dderbyn eich cynnig o le ysgol drwy e-bost.
  • I ragolygu a gwirio'ch cais, cliciwch ar y botwm a ddangosir isod.

19. Gosodwch y togl Cyflwyno'ch Cais i le ac yna cliciwch y botwm Cyflwyno Nawr i gyflwyno'ch cais ac arddangos sgrîn gadarnhau. Caiff cadarnhad ei anfon atoch hefyd o'ch cais am le ysgol drwy e-bost, fel a ddangosir isod.

20. Fel arall, cliciwch y botwm Dychwelyd yn Ddiweddarach i gadw'ch cais ar gyfer nes ymlaen ond rhaid i chi gyflwyno'ch cais cyn y dyddiad cau.

21. I ddychwelyd i gais a grëwyd yn flaenorol, dychwelwch i'r Hafan Derbyniadau Ar-lein a chliciwch ar Lleoedd Ysgol. Yna gallwch glicio'r ddolen Parhau â Chais o dan enw'r plentyn os nad yw'r cais wedi'i gyflwyno, neu Newid Cais os yw wedi'i gyflwyno.

Gallwch ddychwelyd i Borth One Citizen ar unrhyw adeg i newid eich cais hyd at y dyddiad cau.