Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru

Mae'r Gymdeithas Tsienieaidd yng Nghymru (CIWA) yn sefydliad elusennol sy'n ceisio darparu gwasanaethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau preswylwyr Tsieneaidd ethnig yng Nghymru.

Lle Llesol Abertawe

Bar Crush, Llawr 1af Theatr y Grand Abertawe

Dydd Mercher, 11.00am - 2.00pm: 

  • Ionawr: 8, 15, 22 
  • Chwefror: 5, 12, 19
  • Mawrth: 5, 12, 19, 24

Cornel Te Twym:

Fe'i rheolir gan Dîm Pobl Hŷn y Chinese in Wales Association, mewn partneriaeth â Theatr y Grand i ddarparu lle cynnes, diogel, cyfforddus a hygyrch yng nghanol Abertawe, yn agos i'r brif orsaf fysus. Rydym am gael effaith gadarnhaol drwy fynd i'r afael ag iechyd a lles cyfranogwyr sy'n dirywio am eu bod yn byw mewn tlodi tanwydd ac oherwydd costau bwyd cynyddol yn ystod y gaeaf hwn - gall cyfranogwyr fanteisio ar y bwyd a'r diodydd poeth a ddosberthir yma.

Mae'n rhaid i'n cyfranogwyr targed fod yn bobl hŷn Tsieineaidd (50+/60+/70+ oed).

Darperir gemau'r cof a gemau bwrdd i'r bobl hŷn i gadw eu meddyliau'n effro yn unol â tharged y tîm i geisio atal dementia.

Yna gweinir pryd cynnes ysgafn a the Tsieineaidd awr yn ddiweddarach.

Mae lleoedd yn brin, rhaid cadw lle ymlaen llaw. Ffoniwch Arweinydd y Tîm Pobl Hŷn, Yen Yen ar 07869 820500 i gofrestru eich lle.

  • WiFi am ddim
  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau  toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
  • Gemau / gemau bwrdd
  • Mae lluniaeth ar gael:
    • Gweinir cinio ysgafn Tsieineaidd a the gwyrdd/du Tsieineaidd am 12 ganol dydd. (gair bach i'ch atgoffa: nid yw'r pryd hwn yn addas ar gyfer deiet Mwslimaidd)
    • Ar ôl cinio, mae te a bisgedi ar gael tan 1.40pm.  

Cynhyrchion mislif am ddim

Blwch cynnyrch mislif am ddim yn nhŷ bach y menywod ar y 3ydd llawr.

Diweddariadau gan Gymdeithas Tsieinëeg yng Nghymru

Llinell gymorth ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am - 9.00pm

  • Sgwrs Gwe: 9.00am - 9.00pm @CHINESEINWALES
  • Ffôn 电话号码:
    +44 1792 469919
  • E-bost 电子邮箱:
    info@chineseinwales.org.uk
  • Lleoliad 地址:
    2il lawr, Adain y Celfyddydau, Theatr y Grand Abertawe, Singleton Street, Abertawe SA1 3QJ

 

Cyfeiriad

2il lawr, Adain y Celfyddydau

Theatr y Grand Abertawe

Singleton Street

Abertawe

SA1 3QJ

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Rhif ffôn

07869820500 / 07904166373
Dim rhagor ar gael
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu