Cynhyrchion mislif am ddim
Mae cynhyrchion mislif am ddim ar gael mewn nifer o leoliadau o gwmpas Abertawe.
Mae amrywiaeth o gynhyrchion ar gael ym mhob lleoliad. Cymerwch yr hyn sydd ei angen arnoch, does dim angen gofyn.
Rhoddion
Mae'r mannau casglu hefyd yn fannau rhodd lle gallwch roi cynhyrchion a chefnogi gwaith STOPP. Mae angen padiau, tamponau a phadiau leinin ysgafn o bob siâp a maint arnynt.
Ysgolion
Mae holl ysgolion uwchradd y ddinas wedi derbyn pum becyn o badiau di-blastig i bob merch fynd adref â nhw bob tymor ysgol, gyda rhagor o gyflenwadau'n cael eu cadw mewn ysgolion ac ar gyfer ysgolion cynradd.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth a rhestr o'r holl leoedd yn Abertawe lle gallwch gael cynhyrchion am ddim, ewch i wefan STOPP (Swansea Takes Period Poverty) neu'r dudalen Facebook:
Rhestr o leoedd lle gallwch ddod o hyd i gynnyrch mislif am ddim
Yr amgueddfa hynaf yng Nghymru lle gallwch ddarganfod hanes diwydiannol, morol a diwylliannol Abertawe. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan allanol.
Mae CETMA (Ymgysylltu â'r Gymuned, Technoleg, y Cyfryngau a'r Celfyddydau) yn fenter gymdeithasol sy'n darparu cyfleoedd ymgysylltu cymdeithasol, hyfforddiant, iechyd a lles drwy ddatblygu prosiectau cynaliadwy unigryw ar gyfer unigolion, sefydliadau a busnesau.
Sefydliad cymunedol nid-er-elw yng nghanol Blaen-y-maes yw'r ganolfan galw heibio. Mae'n cynnwys banc bwyd a lleoliad rhannu bwyd.
Mae Arddangosfa Dylan Thomas yn dathlu Dylan Thomas, bardd enwocaf Abertawe.
Heol Frank, Pen-lan, Abertawe, SA5 7AH. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd.
Heol Mayhill, Mayhill, Abertawe, SA1 6TD. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd ac mae'n un o Leoedd Llesol Abertawe.
Heol Longview, y Clâs, Abertawe, SA6 7HH. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd ac mae'n un o Leoedd Llesol Abertawe.
Cwmni buddiannau cymunedol brwdfrydig ac arloesol sy'n credu bod pawb yn haeddu'r cyfle i ddod o hyd i gysur mewn lle tawel, llonydd.
Canolfan gymunedol sy'n cael ei rheoli gan wirfoddolwyr, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd a chefnogaeth i gymuned Pontarddulais. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd.
Y ganolfan gymunedol ar gyfer Townhill, Mayhill a'r Gors. Gwneud y bryn yn lle cyfoethocach, iachach, hapusach a mwy diogel i fyw ynddo - siop dan yr unto ar gyfer datblygu ein cymuned leol. Cynigir cymorth bwyd trwy'r siop gymunedol.
Hwb cymunedol i bawb, gan gynnwys cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sy'n newydd i Abertawe.
Lle yng nghalon y gymuned, sy'n cael ei redeg gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Craigfelen.
Mae'r cwtsh cymunedol yn darparu cyfleoedd hygyrch i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd er mwyn newid eu bywydau er gwell.
Mae'n darparu cyfleoedd i blant a'u teuluoedd gael hwyl, rhoi cynnig ar bethau newydd, gwneud ffrindiau, dysgu, tyfu a datblygu mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Mae Eglwys Gymunedol Bont Elim yn estyn croeso cynnes i bawb, waeth beth bynnag fo'ch cefndir, o ble rydych chi'n dod a beth bynnag rydych chi'n ei gredu ynddo.
Mae'r eglwys, a leolir yn Uplands, hefyd yn lleoliad Banc Bwyd.
Fe'i lleolir yn West Cross, ac mae'r eglwys yn gartref i Brosiect Cymunedol Red, sy'n cynnal amrywiaeth o brosiectau i bobl ar draws y ddinas. Mae hefyd yn lleoliad Banc Bwyd Abertawe ac yn Lle Llesol Abertawe croesawgar.
Fe'i lleolir yn Sgeti ac mae'r eglwys yn gartref i Fanc Bwyd Sgeti. Mae hefyd yn Lle Llesol Abertawe.
Mae'r eglwys, a leolir yn ardal Gorseinon, yn lleoliad Banc Bwyd Abertawe ac yn Lle Llesol Abertawe.
Eglwys yn ardal St Thomas yn nwyrain y ddinas. Mae'n cynnig pryd cymunedol wythnosol a Lle Llesol Abertawe croesawgar.
Open and friendly church with a great mixture of ages, in the Uplands and Brynmill community.
Yn darparu hyfforddiant, cefnogaeth, mentora ac arweiniad i fenywod o bob cefndir ac oed ar draws de Cymru. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth banc bwyd wythnosol.
Elusen tai sy'n helpu i atal digartrefedd, darparu tai a chreu cyfleoedd. Mae hefyd yn darparu oergell gymunedol ym Marina Abertawe.
Mae Hub on the Hill yn lle clyd a arweinir gan y gymuned sydd â chalon fawr.
Maent yn darparu man diogel, cynhwysol i bobl gael mynediad at eiriolaeth, celfyddydau creadigol, technoleg ddigidol, addysg, cymorth cyflogaeth, hyfforddiant, gweithgareddau ymgyrchu a phrosiectau sy'n canolbwyntio ar degwch a pherthyn.
Fe'i lleolir yng nghanol Abertawe ac mae ganddo gymuned amrywiol ac amlddiwylliannol iawn. Mae'r mosg mwyaf yng Nghymru hefyd yn gartref i fanc bwyd i bobl mewn angen.
Oriel leol yw Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe sy'n ganolfan ragoriaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yn Abertawe.
Mae Prosiect Datblygu Congolaidd yn cynorthwyo newydd-ddyfodiaid yn Abertawe - gan hwyluso eu proses bontio a hwyluso'r broses o'u hintegreiddio i fywyd newydd.
Prosiect sy'n canolbwyntio ar y gymuned yng nghanol Clydach, sy'n gartref i gangen Banc Bwyd Abertawe.
Adeilad cynnes a chroesawgar yng nghanol Abertawe yw Tŷ Matthew, ac mae'n hygyrch i'r rheini sy'n ddigartref neu'n agored i niwed yn Abertawe. Darperir prydau twym ar gyfer y rheini sydd mewn angen.
Addaswyd diwethaf ar 25 Medi 2024