Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Corfforaethol

Mae'r Cynllun Corfforaethol yn disgrifio gweledigaeth y cyngor dros Abertawe, ein 6 blaenoriaeth allweddol (amcanion lles ac amcanion gwella) a gwerthoedd ac egwyddorion ein sefydliad a fydd yn sylfaen i gyflwyno'n blaenoriaethau a'n strategaeth gyffredinol.

Adnewyddwyd y Cynllun Corfforaethol a'i gyflwyno ar gyfer 2024/2025.

Roedd hyn yn dilyn adolygiad blynyddol o amcanion lles yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r penderfyniad i ddisodli 'gwaith addas' gyda 'gwaith teg' fel rhan o amcan llesiant 'Cymru Lewyrchus' yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, sy'n cydnabod rôl ganolog gwaith teg wrth gyflawni dyfodol mwy cynaliadwy.

Mae amcanion lles y Cynllun Corfforaethol yn parhau i gynnwys:

  • Diogelu pobl rhag niwed - er mwyn sicrhau bod ein dinasyddion yn ddiogel rhag niwed a chamfanteisio.
  • Gwella Addysg a Sgiliau - fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.
  • Trawsnewid ein Heconomi a'n Hisadeiledd - fel bod gan Abertawe ganol dinas defnydd cymysg, ffyniannus ac economi leol a fydd yn cefnogi ffyniant ein dinasyddion.
  • Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau - fel y gall pob person yn Abertawe gyflawni ei botensial.
  • Cyflawni ar Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd - fel ein bod yn cynnal ac yn gwella natur a bioamrywiaeth yn Abertawe, yn lleihau ein hôl troed carbon ac yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
  • Trawsnewid a Chadernid Ariannol - fel ein bod ni a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu'n gynaliadwy ac yn addas i'r dyfodol.

Cynllun Corfforaethol 2023 / 2028

Cyflwyno Abertawe Lwyddiannus a Chynaliadwy.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Ionawr 2025