Cynlluniau a pholisïau corfforaethol
Strategaethau, cynlluniau a pholisïau corfforaethol ar gyfer Cyngor Abertawe.
Cynllun gwella corfforaethol
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob Cyngor i gyhoeddi ei gynlluniau ar gyfer gwella'r hyn a wna a sut mae'n ei wneud. Pwrpas y cynllun hwn yw nodi blaenoriaethau allweddol y Cyngor ar gyfer gwella dros y pedair blynedd nesaf.
Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol
Mae Abertawe'n Ddinas Hawliau Dynol. Dyma'r tro cyntaf i ni gyfuno'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol â'n hymrwymiadau Hawliau Dynol. Bydd y cynllun yn amlinellu sut byddwn yn parhau i fodloni'n hymrwymiadau i hawliau dynol a chydraddoldeb, a sut byddwn yn bodloni'n rhwymedigaethau cyfreithiol o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Yr iaith Gymraeg
Mae gwasanaethau'r cyngor ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac rydym yn croesawu cyswllt yn y naill iaith neu'r llall.
Polisi Ymddygiad
Mae Dinas a Sir Abertawe yn ymrwymedig i wasanaethu holl aelodau'r cyhoedd mewn modd diduedd a darparu gwasanaeth o safon i bawb sy'n cyfathrebu â ni.
Polisi Diogelu Corfforaethol
Mae polisi diogelu corfforaethol Cyngor Abertawe yn ddatganiad o disgwyliadau corfforaethol a rennir, a chofnod o'n hymrwymiad polisi. Mae'n rhoi manylion am y trefniadau mewn perthynas â chamau diogelu yn y dyfodol sydd i'w cymryd.
Strategaeth ddigidol
Mae Strategaeth Digidol 2023-28 yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes a'i nod yw cyfrannu at strategaethau partneriaeth ehangach.
Datblygu cynaliadwy
Dysgwch pam a sut mae ein cyngor yn gweithio i roi ymagwedd datblygu cynaliadwy wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud.
Newid yn yr hinsawdd a natur
Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd ac yn arwain at heriau byd-eang difrifol megis tymereddau'n codi ar draws y byd, patrymau tywydd newidiol, lefelau'r môr yn codi a mwy o dywydd eithafol.
Polisi enwi
Polisi ar gyfer enwi adeiladau, cyfleusterau, a mannau mewnol neu allanol adnabyddadwy.
Polisi cwynion
Rydym yn ymrwymedig i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion a allai fod gennych am ein gwasanaeth.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 14 Hydref 2022