Cyrtiau Tennis y Mwmbwls: dweud eich dweud
Mae'r cyrtiau tennis cyhoeddus wrth ymyl Oyster Wharf y Mwmbwls yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan dimau adeiladu sy'n gweithio ar y prosiect amddiffynfeydd môr.
Unwaith y bydd y cynllun wedi'i gyflawni (2025) a'r prom yn wyrddach, yn fwy hygyrch ac yn fwy atyniadol, disgwylir i'r cyrtiau gael eu dychwelyd i ni.
Rydym yn ymwybodol o amrywiaeth o farn ynghylch sut gall lleoliad y cyrtiau tennis wasanaethu'r gymuned, preswylwyr lleol ac ymwelwyr orau yn y blynyddoedd i ddod. Ni chaiff penderfyniad ei wneud ar ei ddyfodol nes yr ystyrir barn preswylwyr a busnesau'r Mwmbwls, ynghyd â barn ymwelwyr. Nid oes newidiadau yn yr arfaeth ar gyfer ardal y lawnt fowlio gyfagos.
Mae'r arolwg hwn yn gyfle i chi ddweud eich dweud ar y ffordd orau o ddefnyddio lleoliad y cyrtiau tennis yn y dyfodol yn eich tyb chi.
Cyfle i ddweud eich dweud ar-lein nawr
Mae copïau caled o'r arolwg ar gael yn Llyfrgell Ystumllwynarth
Dyddiad cau: 11.59pm, 31 Ionawr 2025
Unwaith y mae'r Cyngor wedi ystyried yr holl ymatebion, rydym yn bwriadu cyhoeddi cynllun cychwynnol ar gyfer y lleoliad - i'w drafod ymhel.
Os hoffech gael yr wybodaeth hon mewn fformat gwahanol e.e. print bras, e-bostiwch chwaraeonaciechyd@abertawe.gov.uk