Canolfan Dylan ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol
Mae Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol.
Mae'r arddangosfa barhaol am Dylan Thomas a'r cyfleuster dysgu yn y ganolfan wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr amgueddfa fach orau yng ngwobrau Kids in Museums 2023.
Mae'r gwobrau'n dathlu profiadau rhagorol i blant a theuluoedd.
Mae'r cyngor yn cynnal arddangosfa Dwlu ar y Geiriau'r ganolfan a'r rhaglen ymgysylltu, sy'n cynnig cyflwyniad y gall ymwelwyr ymgolli ynddo i'r bardd Thomas o Abertawe.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, y Cyng. Elliot King, "Roedd Thomas yn ysgrifennydd chwareus ac rydym am rannu ei frwdfrydedd â'n hymwelwyr ifanc a'u hysbrydoli i ddwlu ar eiriau."
Trwy ei harddangosfeydd rhyngweithiol, ei deunyddiau clyweledol, ei lwybr i blant a'i harteffactau gwreiddiol, gall ymwelwyr â'r ganolfan o bob oedran archwilio etifeddiaeth gyfoethog ac amrywiol y bardd, yn ogystal â'i gysylltiadau â'r byd ehangach.
Roedd y teuluoedd a enwebodd y ganolfan am y wobr yn llawn canmoliaeth amdani. Dyma rai o'r sylwadau:
- "Dyma un o'r lleoedd mwyaf addas i blant rydyn ni wedi ymweld ag ef."
- "Rydym wedi'n synnu ar yr amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael! Mae'r staff mor hyfryd."
Trefnir y gwobrau gan elusen Kids in Museums. Cyhoeddir yr enillwyr ym mis Hydref.
Llun Canolfan Dylan Thomas.