Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyddiad cyflwyno cais wedi'i estyn ar gyfer cynigion i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin

Mae mwy o amser ar gael i sefydliadau yn Abertawe wneud cais am hyd at £16.2 miliwn o gyllid.

swansea from the air1

swansea from the air1

Mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am yr arian, sy'n cael ei gynnig yn lleol gan Gyngor Abertawe fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, bellach wedi'i estyn i ganol nos, nos Fercher 29 Mawrth.

I fod yn gymwys ar gyfer y cyllid galwad agored ehangach cyffredinol gwerth £8m, mae'n rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod eu cynlluniau arfaethedig yn cyd-fynd â themâu allweddol y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys  gwella cymunedau trefol a gwledig, a chefnogi busnesau bach.

Yn ogystal â'r alwad agored gyffredinol, mae ceisiadau ar agor yn awr ar gyfer prosiectau sy'n ffurfio rhan o elfennau Sgiliau a Lluosi'r pecyn ariannu cyffredinol.

Mae'r cyllid gwerth £3m sy'n ymwneud â sgiliau yn arian ar gyfer prosiectau sy'n bwriadu cyflwyno hyfforddiant hanfodol, technegol a galwedigaethol wedi'i dargedu ynghyd â chefnogaeth ar gyfer ailhyfforddi a gwella sgiliau i oedolion 19+ oed yn unol â'r angen sgiliau lleol a blaenoriaethau economaidd rhanbarthol.

Y gofyniad craidd ar gyfer prosiectau sy'n gysylltiedig â'r thema Lluosi, gwerth £5.2m, yw cyflwyno cefnogaeth sgiliau rhifedd hyblyg i oedolion 19+ oed nad oes ganddynt gymhwyster Lefel 2 neu uwch mewn mathemateg.

Ni all ceisiadau am gyllid ddyblygu'r prosiectau angori canlynol y mae'r cyngor eisoes wedi'u cyhoeddi fel rhan o becyn ariannu cyffredinol, sy'n werth £38.4m i'r ddinas.

  • Pecyn o gynlluniau i gefnogi busnesau Abertawe gan gynnwys grantiau dechrau busnes, grantiau twf, grantiau lleihau carbon, hyfforddiant i fusnesau symud tuag at ddod yn garbon sero net, a chronfa datblygu eiddo masnachol.
  • Prosiect cyflogadwyedd llwybrau at waith a fydd yn cynnwys cymorth i bobl 16 oed ac yn hŷn sy'n anweithgar yn economaidd ac sydd wedi bod yn ddi-waith am amser hir, lleoliadau gwaith â thâl a galwad agored am gyllid grant gwerth £2m er mwyn darparu cymorth cyflogadwyedd arbenigol.
  • Trawsnewid lleoedd ar draws y sir, gyda phrosiectau wedi'u clustnodi i gynnwys cyllid grant ar gyfer adeileddau hanesyddol, gwelliannau i bentrefi a chanol trefi bach, a gweithgareddau a llwybrau adfywio a arweinir gan dreftadaeth.
  • Prosiect angori diwylliant a thwristiaeth a fydd yn cynnwys datblygu rhwydwaith creadigol, sgiliau digidol a chymorth i fusnesau yn y sector hwnnw.
  • Prosiect cefnogi cymunedau a fydd yn darparu cyllid grant ar gyfer prosiectau cymunedol a phrosiectau'r trydydd sector.
  • Rhoi hwb i ardaloedd gwledig drwy ddarparu cyllid ar gyfer datblygu cymunedol gwledig, gweithgareddau ar thema newid yn yr hinsawdd a chymorth i fusnesau gwledig.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Rydym yn cael lefel galonogol iawn o ymatebion a diddordeb gan ymgeiswyr posib, ond mae adborth y sefydliadau hyn yn dangos bod angen mwy o amser arnynt i fireinio eu cynigion.

"I ddiwallu eu hanghenion, mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais bellach wedi'i estyn i ganol nos, nos Fercher 29 Mawrth a allai hefyd helpu i ddenu ymgeiswyr eraill."

Ewch i https://www.abertawe.gov.uk/gffg i gael rhagor o arweiniad, gwybodaeth gefndir, meini prawf ymgeisio a ffurflenni. Gall sefydliadau sy'n chwilio am ragor o wybodaeth a chymorth e-bostio  SPF@abertawe.gov.uk hefyd.

 

Close Dewis iaith