Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Addysg ddewisol yn y cartref - diogelu a hyrwyddo lles y plentyn

O dan Adran 175(1) Deddf Addysg 2002 mae gan yr ALI ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.

Mae'r adran hon yn nodi: 'Bydd awdurdod addysg lleol yn gwneud trefniadau i sicrhau bod y swyddogaethau a roddwyd iddo yn ei rol fel awdurdod addysg lleol yn cael eu harfer gyda'r bwriad o ddiogelu a hyrwyddo lles plant.'

Mae Deddf Plant 2004 ('Deddf 2004') yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer datblygu gwasanaethau plant fel a nodwyd yn 'Mae Pob Plentyn yn Bwysig: Newid i Blant'.

Mae Adran 10 Deddf 2004 yn nodi fframwaith statudol ar gyfer trefniadau cydweithredol i'w dilyn gan awdurdodau lleol gyda'r bwriad o weall lles plant yn eu hardal.

Mae Adran 11 Deddf 2004 yn nodi'r trefniadau i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Fodd bynnag, nid yw'r adran hon yn rhoi unrhyw ddyletswyddau neu gyfrifoldebau ychwanegol ar awdurdodau lleol sydd y tu hwnt i ofynion Adran 175(1) Deddf Addysg 2002. Diweddarwyd a chyhoeddwyd Arweiniad Statudol ar Wneud Trefniadau i Ddiogelu a Hyrwyddo Lles Plant o dan Adran 11 Deddf Plant 2004 yn Ebrill 2007.

Nid yw penderfyniad rhiant i addysgu yn y cartref yn sail ynddo'i hun i bryderu am les y plentyn. Fodd bynnag, yn yr un modd a phlant sy'n cael eu haddysgu yn yr ysgol, efallai bydd materion lles plant yn codi mewn perthynas a phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Os daw materion lles plant i'r golwg wrth weithio gyda phlant a theuluoedd, bydd rhaid rhoi gwybod i Swyddog diogelu'r ALI yn syth a gweithredu'n briodol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2021