Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref

Nod Cyngor Abertawe yw darparu arweiniad ar gyfer rhieni sy'n ystyried neu wedi dewis rhoi Addysg Ddewisol yn y Cartref (ADdC) i'w plant. Mae Cyngor Abertawe'n parchu ac yn derbyn hawl rhieni i addysgu eu plant gartref.

Yn y ddogfen hon, mae gan 'rhiant' yr un ystyr a geir yn Adran 576 Deddf Addysg 1996. O ganlyniad, mae'n cynnwys person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn a pherson sy'n gofalu am blentyn.

Mae Tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref Cyngor Abertawe (TADdC) a sefydlwyd yn ddiweddar yn cydnabod ac yn parchu hawliau'r rhiant i addysgu eu plentyn yn y cartref. Bydd y TADdC yn ceisio datblygu perthnasoedd gweithio cadarnhaeol gyda rhwydweithiau addysgu cartref a bydd yn gweithio ar y cyd â rhieni ADdC er mwyn galluogi i blant gael y dewisiadau gorau mewn bywyd, a bydd yn ymdrechu i gefnogi plant a theuloedd drwy sicrhau bod plant yn arfer eu hawl i addysg.

Y cefndir cyfreithiol

Mae gan rieni'r hawl i addysgu eu plentyn gartref.

Am addysg ddewisol yn y cartref

Ar ôl derbyn hysbysiad fod plentyn i gael ei addysgu yn y cartref, bydd yr ALl yn ceisio cysylltu â'r rhieni/gwarcheidwad i drafod ei ddarpariaeth.

Arweiniad rhiant

Addysg Ddewisol yn y Cartref yw pan fydd rhieni'n penderfynu darparu addysg yn y cartref i'w plentyn yn hytrach na'i anfon i'r ysgol. Felly, nid yw plant sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref wedi'u cofrestru mewn ysgolion prif ffrwd nac ysgolion arbennig.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Chwefror 2025