Sinema Awyr Agored: Dirty Dancing
Nos Sadwrn 27 Gorffennaf, Cae Lacrosse, Parc Singleton


Bydd sinema awyr agored Abertawe ar y Cae Lacrosse, Parc Singleton yn dangos Dirty Dancing nos Sadwrn 26 Gorffennaf.
Gwybodaeth am y ffilm: Mae Dirty Dancing, ffilm sydd wedi'i gosod ym 1963, yn adrodd stori serch Frances 'Baby' Houseman (Jennifer Grey) a Johnny Castle (Patrick Swayze). Mae 'Baby' yn cwrdd â'r hyfforddwr dawnsio Johnny mewn parti dawnsio cyfrinachol ar gyfer staff cyrchfan, gan gychwyn eu stori serch. Yna mae'r stori'n eu dilyn drwy gydol tymor y gwyliau wrth iddynt geisio cuddio eu perthynas rhag y bobl o'u cwmpas cyn i'r brif sioe dalent gael ei chynnal ar ddiwedd y tymor. Mae'r sioe dalent yn cynnwys yr olygfa ddawnsio eiconig rhwng 'Baby' a Johnny i gyfeiliant y gân 'I've had the time of my life'.