Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefniadaeth Ysgolion - Dogfen ymgynghori ar y cynnig i gyfuno ysgolion cynradd Blaen-y-maes a Phortmead (disgyblion)

Ym mis Medi 2027 (dwy flynedd a hanner o nawr), mae'r cyngor am gyfuno Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Portmead i greu un ysgol fawr fel y gall pawb rannu athrawon a syniadau.

Beth mae'r cyngor am ei wneud?

  • Ym mis Medi 2027 (dwy flynedd a hanner o nawr), mae'r cyngor am gyfuno Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Portmead i greu un ysgol fawr fel y gall pawb rannu athrawon a syniadau. Bydd y plant yn parhau i gael eu haddysgu yn eu hysgolion arferol am y tro. 
  • Rydym am wneud hyn i'n helpu gyda chynlluniau ar gyfer y dyfodol yn 2031 (6 blynedd o nawr), gan ein bod am agor ysgol newydd sbon ar dir ger Ysgol Gynradd Blaen-y-maes. Mae hyn yn golygu y bydd plant sydd yn nosbarthiadau meithrin a derbyn ar hyn o bryd yn mynd i'r adeilad ysgol newydd yn hytrach na'r ysgol y maent yn mynd iddi ar hyn o bryd. Bydd plant mewn grwpiau blwyddyn hŷn yn yr ysgol gyfun pan fydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu.   

Pam mae'r cyngor am wneud hyn?

  • Drwy gyfuno'r ddwy ysgol cyn bod yr ysgol newydd yn barod, bydd yn golygu y gall athrawon helpu ei gilydd a dod yn un tîm cyn symud i'r ysgol newydd.
  • Hefyd, mae'n golygu ein bod ni'n gallu gweithio gyda chi a'ch athrawon i gynllunio ar gyfer yr ysgol newydd.

Beth byddai'r cynnig hwn yn ei olygu?

  • Yn 2027, bydd Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Portmead yn dod yn un ysgol, ond bydd yn parhau i ddefnyddio'r un adeiladau ag y rhai a ddefnyddir ar hyn o bryd, felly ni fydd llawer yn newid i'r disgyblon.
  • Mae'n debygol y bydd gennych yr un athrawon a staff eraill yn gweithio gyda chi.
  • Yn 2031, y cynllun yw y bydd yr ysgol yn symud o'r hen adeiladau i'r safle ysgol newydd ger Ysgol Gynradd Blaen-y-maes.

Wyddech chi?

Mae CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn) yn gytundeb byd-eang sy'n dweud bod gan bob plentyn a pherson ifanc hawliau.  Yn ôl Erthygl 12 o CCUHP, mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i fynegi barn ac i'w llais gael ei glywed pan wneir penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.  Rydym yn credu y dylai hyn gynnwys penderfyniadau am eich ysgol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Bydd cynghorwyr yn cwrdd ar 18 Medi i ddarganfod yr hyn a ddywedodd pobl yn ystod y cyfnod ymgynghori.  Yna byddant yn penderfynu a fyddant yn symud i gam nesaf y cynnig.

  • Os byddant yn penderfynu symud ymlaen, gelwir y cam nesaf yn gyfnod 'Hysbysiad Statudol'.  Bydd hysbysiad yn cael ei anfon at dy rieni/ofalwyr a phobl eraill sy'n gysylltiedig â'r ysgol.  Bydd yr hysbysiad yn esbonio cynnwys y cynnig a'r hyn y gall pobl ei wneud os nad ydynt am i'r cynnig gael ei roi ar waith.  

  • Bydd cynghorwyr yn cwrdd eto ar ôl hynny i drafod yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud am yr hysbysiad ac i benderfynu beth i'w wneud nesaf. 

Sut gall disgyblion fynegi eu barn ar y syniad?

Ysgrifennu at:
Helen Morgan-Rees,
Cyfarwyddwr Addysg,
Neuadd y Ddinas,
St Helen's Crescent,
Abertawe
SA1 4PE
neu anfona e-bost i trefniadaethysgolion@abertawe.gov.uk 

  • Bydd dy athrawon yn siarad â thi er mwyn clywed dy farn a gallant ateb unrhyw gwestiynau sydd gennyt a rhoi adborth i'r cyngor.

Lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori disgyblion yma. (Word doc, 35 KB)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mawrth 2025