Toglo gwelededd dewislen symudol

Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol

Arweiniad ar gyfer sefdliadau ac awdurdodau cyhoeddus yn Ninas a Sir Abertawe.

Ysgrifennwyd yr arweiniad hwn ar gyfer crewyr polisïau er mwyn helpu i ymgorffori ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau dynol mewn modd strategol.

Cynnwys 

  1. Ynglŷn â Hawliau Dynol
  2. Pam y mae Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol? 
  3. Cyflwyno 'Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol' 
  4. Gwreiddio Hawliau Dynol 
  5. Cydraddoldeb ac Atal Gwahaniaethu 
  6. Grymuso Pobl 
  7. Cyfranogiad 
  8. Atebolrwydd 
  9. Rhoi Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol ar waith 
  10. Gwreiddio hawliau dynol yn ymarferol
  11. Cydraddoldeb ac Atal Gwahaniaethu ar waith 
  12. Grymuso Pobl ar waith 
  13. Cyfranogi ar waith 
  14. Atebolrwydd ar waith

Ynglŷn â Hawliau Dynol

Mae hawliau dynol yn gwarantu rhyddid sylfaenol ac yn bodloni anghenion sylfaenol yr holl ddynoliaeth. Fe'u hategir gan barch tuag at urddas y ddynoliaeth. Mae hawliau dynol yn rhwymo'r llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus ar bob lefel yn y DU ac yn darparu fframwaith moesegol i sefydliadau gynllunio, gwneud penderfyniadau a chymryd camau.

Camsyniad yw meddwl mai'r unig hawliau dynol y'u gwarentir i unigolion yn y DU yw'r rhai sy'n cael eu hamlinellu yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Y ffaith yw bod nifer o gytundebau rhyngwladol ar hawliau dynol ('cytundebau craidd') yn cynnwys gwarantau ar hawliau dynol, yn ogystal â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae'r hawl gan bawb elwa ar yr ystod lawn o hawliau dynol y mae'r cytundebau ar hawliau dynol yn eu gwarantu ac sy'n rhwymo'r DU drwy gyfraith ryngwladol.

Os hoffech ddysgu mwy am hawliau dynol rhyngwladol, gallwch archwilio gwefan Swyddfa Uwch Gomisinydd y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol, sef: Swyddfa Hawliau Dynol y CU (ohchr.org)

Pan fo'r arweiniad hwn yn cyfeirio at hawliau dynol, cyfeirio y mae at yr ystod lawn o hawliau dynol y'u gwarentir gan y cytundebau hawliau dynol sy'n rhwymo'r DU drwy gyfraith ryngwladol. 

Dylai unrhyw sefydliad neu awdurdod cyhoeddus sy'n ymrwymo i hyrwyddo hawliau dynol ac i fabwysiadu Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol fod yn ymwybodol a meddu ar ddealltwriaeth (sylfaenol o leiaf) o'r 'hawliau dynol craidd' sy'n cael eu gwarantu drwy gyfraith (gweler yma i gael mwy o wybodaeth), yn ogystal â´r hawliau sy´n cael eu gwarantu gan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (gweler yma i gael gwybodaeth).

Pam Fod Yna Ddull Gweithredu ar Hawliau Dynol?

Gwnaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (gweler yma i gael mwy o wybodaeth am y Bwrdd) ymrwymiad i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol. Ystyr hyn yw y bydd angen i ni wneud popeth y gallwn ar y cyd i sicrhau bod hawliau dynol yn flaenoriaeth wrth arfer ein hamrywiol swyddogaethau a rolau fel awdurdodau cyhoeddus neu sefydliadau lleol. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol arnom oll i gymryd camau gweithredu i wneud y canlynol:

  • Parchu Hawliau Dynol: ystyr hynny yw y gwnawn bopeth o fewn ein gallu i beidio ag ymyrryd â'r broses o fwynhau hawliau dynol sy'n cael eu gwarantu i bawb drwy gyfraith ryngwladol a chyfraith y DU.
  • Diogelu Hawliau: drwy geisio sicrhau nad yw eraill yn tresmasu ar hawliau dynol unigol, gan gynnwys pobl eraill, ond hefyd awdurdodau a busnesau lleol. 
  • Gwireddu Hawliau: lle bynnag y bo modd ac y bo'n rhesymol, byddwn yn cymryd camau gweithredu ac yn dyrannu adnoddau i hwyluso'r broses o fwynhau hawliau dynol neu eu mwynhau'n well.

Mae'r Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol yn ddull o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau sy'n cydlynu´r prosesau o wneud penderfyniadau a chymryd camau gweithredu fel bod canolbwyntio eglur ar hawliau dynol a bod hynny'n gymorth i sicrhau bod y partneriaid a'r awdurdodau perthnasol sy'n cefnogi'r ymrwymiad i'r Ddinas Hawliau Dynol yn parchu, diogelu a gwireddu'r hawliau hynny.

Tra bo Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol yn tynnu sylw at hawliau dynol yn y broses o wneud penderfyniadau ar bolisïau a chyflenwi gwasanaethau, nid yw'n hepgor ffactorau eraill rhag cael eu hystyried. Mantais allweddol y Dull Gweithredu ar Hawliau dynol yw sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a sefydliadau eraill yn rhoi sylw cywir i hawliau dynol.

Mae Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol yn cyflwyno pump egwyddor i'r prosesau cynllunio a chyflenwi gwasanaethau, sef: 

  • Plannu hawliau dynol. 
  • Cydraddoldeb ac Atal Gwahaniaethu. 
  • Grymuso deiliaid hawliau
  • Cyfranogiad deiliaid hawliau.
  • Atebolrwydd deiliaid hawliau.

Esbonnir yr egwyddorion hyn isod. Mae'n werth nodi yn y fan hon bod llawer o awdurdodau a sefydliadau yn Abertawe eisoes yn meddu ar bolisïau, gweithdrefnau ac arferion sy'n gyson â'r Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol. Yn aml, y cyfan y bydd mabwysiadu'r egwyddorion a ddisgrifir isod yn ei wneud fydd fframio'r polisïau hyn ac yn y blaen o fewn Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol, gan alluogi eu disgrifio'n well, er enghraifft, at ddibenion atebolrwydd ac adrodd. Gallai cymhwyso egwyddorion y Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol i'r broses o fonitro a gwerthuso, er enghraifft, ddatgelu lle bo'r dull gweithredu'n llai amlwg, neu nad ydyw'n cael ei fabwysiadu'n gyson, neu lle bo'n gwbl absennol. Yn hyn o beth, gall Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol hyrwyddo arfer da ym maes hawliau dynol ynghyd â chlustnodi bylchau lle bo angen i'r arferion presennol wella neu fod angen cyflwyno arferion newydd i sicrhau cydymffurfio â hawliau dynol.

Er dibenion ymarferol, mae egwyddorion Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol yn darparu fframwaith cyson a chydlynol i'w gymhwyso er mwyn: 

  • Clustnodi blaenoriaethau i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau er mwyn bodloni angen lleol. Gan mai bwriad hawliau dynol yw eu bod o fudd i'r sawl sydd o dan yr anfantais fwyaf a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, mae Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol yn darparu mecanwaith i flaenoriaethu adnoddau cyfyng i ddiwallu angen brys a dybryd.
  • Darparu gwybodaeth am weithgareddau a gyflenwir gan sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys cynllunio a chyflenwi gwasanaethau i ganolbwyntio ar grwpiau penodol o ddeiliaid hawliau. Rhoddir hawliau penodol i ystod o grwpiau drwy gyfraith ryngwladol i fynd i'r afael â gwahaniaethu hirsefydlog (e.e. plant, pobl anabl, menywod, lleiafrifoedd ar sail hil). Mae cymhwyso Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol i ganolbwyntio ar hawliau grwpiau penodol yn cefnogi sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus i drechu gwahaniaethu. 
  • Sefydlu targedau a dangosyddion ar gyfer polisi, cymryd camau gweithredu a chanlyniadau i fesur a chadarnhau cynnydd o ran gwireddu hawliau dynol.
  • Clustnodi'r angen am dystiolaeth i ddarparu gwybodaeth am fonitro a dadansoddi polisïau, cymryd camau gweithredu a chanlyniadau, gan gynnwys tystiolaeth gan y deiliaid hawliau eu hunain. 
  • Ymgysylltu pobl â'r gwasanaethau cynllunio a'r broses o fonitro a dadansoddi polisïau, cymryd camau gweithredu a chanlyniadau i sicrhau bod profiadau o fywyd pobl yn darparu gwybodaeth i ddatblygu'r polisi parhaus a chyflenwi gwasanaethau.F

Cyflywyno 'Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol'

Fel y nodir uchod, dyma egwyddorion Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol:

  • Plannu Hawliau Dynol
  • Cydraddoldeb ac Atal Gwahaniaethu 
  • Grymuso Pobl
  • Cyfranogi 
  • Atebolrwydd

Ni fwriedir defnyddio'r egwyddorion hyn mewn unrhyw drefn benodol. Yn hytrach, dylid meddwl amdanynt a'u defnyddio gyda'i gilydd i ddarparu gwybodaeth am gynllunio, gwneud penderfyniadau a chyflenwi gwasanaethau. Mae'n anochel bod yna rywfaint o orgyffwrdd. Er enghraifft, mae grymuso pobl i wneud penderfyniadau a gwneud dewisiadau'n debyg iawn i ddarparu cyfleoedd i wneud cyfranogiad o ran penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, a dim ond os y darperir cyfleoedd i gyfranogi yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar egwyddor atal gwahaniaethu a chydraddoldeb y bydd cyfranogi yn cyfrannu at y broses o wireddu hawliau dynol yn well. Serch hynny, mae'r egwyddion gorgyffyrddol hyn yn atgyfnerthu ei gilydd ac yn cyfrannu at ddull gweithredu cyfannol, cydlynol a chynhwysfawr i wireddu hawliau dynol.

Plannu Hawliau Dynol

Dylai hawliau dynol fod yn ganolog i gyflenwi gwasanaethau a chynllunio. Mae angen integreiddio'r broses o ystyried y cytundebau hawliau dynol craidd rhyngwladol a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ym mhob agwedd o wneud penderfyniadau drwy weithdrefnau a chymryd camau gweithredu. Yn y modd mwyaf syml, mae'n ofynnol cydnabod yr hawliau dynol perthnasol (a gymerwyd o'r cytundebau craidd perthnasol a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol) fel fframwaith i gyflenwi gwasanaethau a chynllunio. Ni ddylai hawliau dynol fod yn destun ailfeddwl, ond dylent fod yn brif ystyriaeth y rhoddir blaenoriaeth gyfartal iddynt mewn cymhariaeth â buddiannau dybrys eraill pan wneir penderfyniadau ac y cymerir camau gweithredu. 

DS - fel rhagarweiniad i fabwysiadu Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol, dylai sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus adolygu'r cytundebau craidd perthnasol a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i benderfynu pa hawliau yw'r rhai mwyaf perthnasol i faes eu gwaith (gweler y dolennau uchod). Dylid ail-wneud y broses hon yn rheolaidd i sicrhau bod canolbwyntio yn dal i fod ar yr hawliau dynol mwyaf perthnasol.

Cydraddoldeb ac Atal Gwahaniaethu

Mae cydraddoldeb yn ymwneud â sicrhau bod cyfle cyfartal gan bawb i wneud y gorau o'u bywydau a'u doniau ac nad oes rhaid i neb ddioddef cyfleoedd gwael mewn bywyd oherwydd gwahaniaethu. Mae cydraddoldeb yn golygu trin pawb yn deg a darparu cyfleoedd ac adnoddau iddynt yn unol â'u hanghenion, yn gyfartal ag eraill, gan sicrhau y gallant ddatblygu a ffynnu i'w llawn botensial.

Mae hyrwyddo cydraddoldeb yn golygu cymryd camau i drechu gwahaniaethu. Ni ddylai fod unrhyw wahaniaethu yn erbyn buddiant unigolion neu grwpiau ar sail unrhyw nodweddion a ddiogelir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Dylai sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus fod yn ymwybodol o effaith niweidiol gwahaniaethu lluosog, pan fo rhywun yn wynebu gwahaniaethu ar fwy nag un sail.

Grymuso Pobl

Dylai hawliau dynol rymuso pobl. Dylid gweld hawliau dynol fel hawlogaethau - ac nid ydynt yn opsiynol. Mae grymuso'n golygu chwyddo galluoedd pobl fel unigolion fel y gallant achub mantais yn well ar hawliau.

Dylid rhoi gwybodaeth i bobl gynyddu eu dealltwriaeth am hawliau dynol a rhoi mynediad at adnoddau i'w galluogi i wneud defnydd o'r hawliau yn eu bywyd beunyddiol. Mae grymuso'n golygu gwaredu rhwystrau ar wybodaeth neu adnoddau sy'n galluogi pobl i ddeall ac arfer eu hawliau. Mae grymuso'n ymwneud â galluogi pobl i wneud dewisiadau ac i effeithio ar ganlyniadau iddynt hwy eu hunain a'u teuluoedd. Mae grymuso'n newid y berthynas rhwng deiliaid hawliau ac awdurdodau. Mae hyn yn golygu trosglwyddo rhai pwerau neu bob un o'r pwerau i wneud penderfyniadau i'r deiliaid hawliau, fel y gallant roi cyfeiriad i'w bywydau a rheoli eu bywydau'n well, yn enwedig felly mewn meysydd lle nad oedd y gallu hwnnw ar gael iddynt yn flaenorol.

Cyfranogi

Mae cyfranogi'n golygu gwrando ar bobl a chymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth mewn modd ystyrlon. Dylid cefnogi pawb i fynegu eu barn yn rhydd, cyn belled ag y bo hynny'n gyson ag egwyddorion eraill hawliau dynol, gan gynnwys atal gwahaniaethu. Dylent gael eu clywed a dylid gwrando arnynt. Dylid cymryd eu barn o ddifrif wrth wneud penderfyniadau a chymryd camau gweithredu sy'n effeithio ar eu bywydau yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Dylid rhoi gwybodaeth lawn i bobl a chyfleoedd i fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau. Dylai fod yn eglur sut y gwnaethant ddylanwadu ar benderfyniadau a sut y cymerwyd eu barn i ystyriaeth gydag adborth ar gael bob amser. Ni ddylid ystyried cyfranogi fel petai'n ddiwedd ynddo'i hun, ond yn broses sy'n ddiogel, yn alluogol ac yn gynhwysol ac sy'n cefnogi ymgom rhwng y deiliaid hawliau a'r sawl sy'n gyfrifol am gynllunio a chyflenwi gwasanaethau.

Atebolrwydd

Mae hawliau dynol yn esgor ar rwymedigaethau sy'n gofyn am atebolrwydd. Dylai sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus fod yn atebol am benderfyniadau a chamau gweithredu sy'n effeithio ar fywydau pobl. Dylid rhoi gwybodaeth i bobl a dylid rhoi mynediad iddynt at weithdrefnau sy'n eu galluogi i holi a herio gwneuthurwyr penderfyniadau.

Mae atebolrwydd yn gofyn am fonitro effeithiol ar safonau hawliau dynol ynghyd â chamau unioni effeithiol lle y methir bodloni'r safonau hynny. Er mwyn i hynny fod yn effeithiol, mae angen i'r broses o wneud penderfyniadau fod yn dryloyw ac mae angen rhoi rhesymau am y penderfyniadau a'r camau gweithredu.

Rhoi Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol ar Waith

Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth am arferion sy'n rhoi effaith i bob un o egwyddorion y Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol. Fel y nodir uchod, gallai sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus fod eisoes yn gweithredu llawer o'r arferion o dan sylw isod. Yn y fath achos, dylid canolbwyntio ar sicrhau bod yr arferion hynny'n gynaliadwy.
Fel yn achos egwyddorion Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol, mae'n anochel y bydd gorgyffwrdd yn rhai o'r arferion a argymhellir isod. Bydd rhai ohonynt yn cyfeirio at ddwy neu fwy o egwyddorion. Mae egwyddion gorgyffyrddol yn atgyfnerthu ei gilydd ac yn cyfrannu at ddull gweithredu cyfannol, cydlynol a chynhwysfawr i wireddu hawliau dynol.

Plannu Hawliau Dynol ar Waith

Y modd o roi'r egwyddor hon ar waith:

  • Cyfeirio'n bendant at hawliau dynol penodol fel fframwaith i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau ym mhob dogfen bolisi arwyddocaol. Dylai hyn ddod oddi wrth lefel uchaf awdurdod, er enghraifft, datganiad polisi, mabwysiadu siartr neu adduned (neu offeryn arall). 
  • Sicrhau bod yr arweinwyr a'r staff, y mae gofyn iddynt roi'r ymrwymiad ar waith, yn ymwybodol o'r ymrwymiad hwn ac yn gyfarwydd â'r hawliau dynol perthnasol.
  • Gwneud archwiliad ar y cychwyn ac wedyn yn rheolaidd o bob datganiad polisi arwyddocaol neu ddogfennau eraill i asesu cydymffurfiaeth â'r uchod.
  • Blaenoriaethu diogelu hawliau dynol ar ffurf comisiynu ac ymgorffori egwyddorion Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol ledled y cylch comisiynu.
  • Clustnodi unigolion allweddol a/neu sefydlu tîm sydd â'r cyfrifoldeb o hyrwyddo hawliau dynol ac o weithredu fel eiriolwyr dros hawliau dynol. 
  • Datblygu strategaeth neu gynllun sy'n amlinellu sut y mae'n bwriadu sicrhau y cymerir hawliau dynol i ystyriaeth ar bob lefel gwneud penderfyniadau i hwyluso Dull Gweithredu cydlynol ar Hawliau Dynol ar draws pob gweithgarwch a chyda sefydliadau allanol. 
  • Clustnodi arbenigedd ar hawliau dynol a sicrhau bod hynny ar gael i gefnogi'r staff i weithredu hawliau dynol ym maes eu cyfrifoldeb. 
  • Gwneud gwerthusiad cychwynnol a pharhaus o lefelau gwybodaeth a dealltwriaeth ym maes hawliau dynol ymhlith staff ar bob lefel.
  • Blaenoriaethu hyfforddiant am hawliau dynol ar gyfer yr holl staff, gyda dwysedd yr hyfforddiant yn briodol i'r cyd-destun a rôl yr aelod staff penodol.
  • Cyflwyno gweithdrefnau i roi effaith i hawliau dynol. Gallai'r rhain gynnwys: 
    • Datblygu cynllun cyfathrebu ar gyfer y staff sy'n amlinellu'r modd y mae'r sefydliad yn bwriadu datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hawliau dynol. 
    • Datblygu a gwneud defnydd o ddangosyddion perfformiad sy'n adlewyrchu hawliau dynol (e.e. dylid ymgorffori hyn ym maes cynllunio busnes, cyllidebu a chynllunio strategol arall). 
    • Asesiad o effaith hawliau dynol h.y. prawfesur unrhyw benderfyniadau cyllidebol a pholisi o ran eu heffaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar wahanol grwpiau (e.e. grwpiau â nodweddion a ddiogelir ac integreiddio hyn i'r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb); 
    • Cyflwyno gweithredu hawliau dynol fel eitemau sefydlog ar agenda cyfarfodydd strategaethau allweddol; 
    • Gwneud ei bod yn ofynnol adrodd am gynnydd gweithredu hawliau dynol wrth grwpiau neu gyfarfod polisïau strategol.
  • Dylai fod ymrwymiad eglur i sicrhau y dyrennir adnoddau dynol ac ariannol digonol i gefnogi'r sefydliad er mwyn gweithredu hawliau dynol.

Astudiaeth Achos 1
Enw'r prosiect: Hyfforddiant Hawliau Dynol i Arweinwyr 
Egwyddor sy'n berthnasol i'r gwaith hwn: Plannu
A oes cyswllt rhwng y gwaith hwn ac un o flaenoriaethau'r HRC? Oes, Cynyddu Ymwybyddiaeth o Hawliau Dynol 

Cefndir a chyd-destun y gwaith:

Mae'r gyfraith Hawliau Dynol yn rhoi dyletswydd cyfreithiol ar swyddogion cyhoeddus (a'r sawl sy'n cyflenwi swyddogaethau cyhoeddus) ledled y DU i barchu, diogelu a gwireddu hawliau dynol ym mhopeth y gwnânt bob dydd. Mae hyn yn golygu nyrsys, meddygon, athrawon, staff gofal, swyddogion heddlu, swyddogion tai a'r sawl sy'n comisiynu ac yn arwain y gwasanaethau hynny. Hefyd, pan fyddwn ni a'n hanwyliaid yn cael mynediad at y gwasanaethau hyn, mae'n golygu bod hawliau gennym y mae'n rhaid eu cynnal.
Yn 2022, dechreuodd rhaglen i uwchsgilio uwch-arweinwyr a'r sawl sydd â'r pŵer i ddylanwadu ar wneud penderfyniadau a chyflenwi gwasanaethau. Ceisiai'r hyfforddiant a gyflenwyd gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain (BIHR) gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth arweinwyr am Hawliau Dynol.
Cymerodd 61 o bobl ran yn yr hyfforddiant gan gynnwys cyfranogwyr o blith Cynghorwyr, uwch-arweinwyr a chynrychiolwyr cydraddoldeb o Gyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe a chynrychiolwyr â phrofiad bywyd o faterion hawliau dynol penodol, e.e. anabledd.

Pam y mae'r gwaith hwn yn berthnasol i'r egwyddor hon o blannu?

Fel Dinas Hawliau Dynol, mae Abertawe'n anelu at greu diwylliant o barch tuag at hawliau dynol. Dylai hawliau dynol fod yn ganolog i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau. Gwyddom nad yw hynny'n digwydd ond pan fydd swyddogion cyhoeddus yn gwybod hynny ac yn defnyddio'r gyfraith Hawliau Dynol ac y grymusir pobl, cymunedau ac ymgyrchwyr i wybod a mynnu eu hawliau. 
Mae gwasanaethau cyhoeddus Abertawe wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau dynol a mabwysiadu Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol ac maent wedi cydnabod yn hynny o beth ei bod yn hanfodol cynyddu eu dealltwriaeth o'r hawliau dynol sy'n cael eu gwarantu gan gyfraith ryngwladol, nid yn unig o ran deall y gyfraith, ond y modd y gallai hawliau dynol yn Abertawe gael eu heffeithio a sut mae adnabod ac ymateb i faterion hawliau dynol wrth eu harfer bob dydd.

Bu'r hyfforddiant hwn yn fan cychwyn i symud y gyfraith hawliau dynol i fywyd pob dydd, gan gefnogi gwneuthurwyr penderfyniadau i wella ac adlewyrchu ar bolisïau ac arferion er mwyn cynyddu parch tuag at hawliau, lle bo arnynt angen hynny.

Astudiaeth Achos 2
Enw'r prosiect: Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc Abertawe 
Egwyddor sy'n berthnasol i'r gwaith hwn: Plannu
A oes cyswllt rhwng y gwaith hwn ac un o flaenoriaethau'r HRC? Oes, Cynyddu Ymwybyddiaeth o Hawliau Dynol, Trechu Gwahaniaethu, Plant a Theuluoedd sy'n Agored i Niwed 

Cefndir a chyd-destun y gwaith:

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (UNCRC) yn amlinellu'r hawliau sydd gan bob plentyn 0-18 oed i sicrhau eu bod yn iach, yn hapus ac yn ddiogel. Cytunodd Cyngor Abertawe ym mis Medi 2013 y dylid plannu hawliau dynol plant o fewn fframwaith polisïau'r Cyngor ac y dylid rhoi dyletswydd ar Gabinet y Cyngor i roi 'sylw dyladwy' i'r UNCRC wrth wneud penderfyniadau. Mae hyn yn golygu: pan fo Cyngor Abertawe'n datblygu strategaethau neu bolisïau newydd, yn adolygu neu'n newid strategaethau a pholisïau presennol, neu'n datblygu neu'n newid gwasanaethau'r Cyngor, rhaid rhoi ystyriaeth i'r modd y mae'r penderfyniadau hynny'n effeithio ar hawliau plant yn Abertawe. Polisi trosfwaol Cyngor Abertawe yw'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc sy'n amlinellu sut y mae'n bwriadu mesur a sut y bydd yn mesur y modd y mae hawliau plant yn dod yn rhai go iawn yn Abertawe. 

Yn 2019, dechreuodd y gwaith o ddatblygu fersiwn o'r cynllun sydd wedi'i diweddaru, i'w chynllunio ar y cyd â plant, pobl ifanc, teuluoedd, aelodau o'r cyhoedd, aelodau Rwydwaith Hawliau Plant Abertawe ac Aelodau Cyngor Abertawe. Mae'r fersiwn hon yn ymgorffori 'Dull Hawliau Plant' Comisiynydd Plant Cymru sy'n amlinellu pump egwyddor allweddol (yr un rhai a ddefnyddir i fesur Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol). Mae'r egwyddorion hynny fel a ganlyn:

  • Plannu
  • Cydraddoldeb ac Atal Gwahaniaethu
  • Grymuso
  • Cyfranogi
  • Atebolrwydd

Mae'r Cynllun Hawliau Plant yn cael ei fonitro a'i oruchwylio gan Gynghorwyr Abertawe. Rhoddir, Craffir a Chyflwynir Adroddiad Blynyddol ar Gynnydd i'r Cyngor Llawn sy'n amlinellu'r gwaith a wnaed i blannu dull o weithredu ledled y Cyngor cyfan ar hawliau dynol plant.

Yn 2020/21, cwblhawyd gwaith ymgysylltu â 463 o randdeiliaid (roedd 238 ohonynt yn blant a phobl ifanc) i bennu natur llwyddiant yng nghyd-destun cynnal y Cynllun a datblygwyd cynllun gweithredu o hynny. Gall y cynllun gweithredu hwnnw sicrhau y medr cludwyr dyletswydd Abertawe barhau i fod yn atebol am y gwaith a wnaed i sicrhau hawliau dynol plant gydol y flwyddyn. Rhwydwaith Hawliau Plant Abertawe sydd i fonitro'r cynllun gweithredu hwn, sef Rhwydwaith amlasiantaethol a luniwyd o blith mwy na 80 o wasanaethau sy'n cydweithio â phlant a phobl ifanc yn Abertawe. Mae dull partneriaethol o weithredu hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau dull cydweithredol o weithredu er mwyn plannu hawliau dynol plant ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.

Pam y mae'r gwaith hwn yn berthnasol i'r egwyddor hon o blannu?

Mae'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn deillio o awdurdod ar y lefel uchaf yn Abertawe. Mae'r datganiad polisïau yn amlinellu'r dyletswyddau sydd ar y gwneuthurwyr penderfyniadau uchaf i wneud trefniadau i sicrhau y cydnabyddir, y perchir ac y gwireddir hawliau dynol plant.

Nid yw'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn sefyll ar ei ben ei hun ac mae dolen gyswllt rhyngddo â llawer o bolisïau eraill sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc, e.e. polisi addysg, polisi diogelu, y polisïau a amlinellir i wrando ar bobl yn Abertawe, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Mae'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn darparu fframwaith lle y gall Cyngor Abertawe lunio dull o weithredu ledled y Cyngor cyfan ar blannu hawliau. Yr uchelgais yw bod pawb sy'n gweithio yng Nghyngor Abertawe yn gyfrifol am barchu, deall a phlannu hawliau dynol plant drwy'r UNCRC.

Er mwyn gwir blannu hawliau, ni ddylai hawliau dynol fod yn destun ailfeddwl, ond dylent fod yn brif ystyriaeth y rhoddir blaenoriaeth gyfartal iddynt mewn cymhariaeth â buddiannau dybrys eraill pan wneir penderfyniadau ac y cymerir camau gweithredu. Yn hynny o beth, er mwyn plannu hawliau dynol plant, rhaid rhoi sylw hefyd i bob egwyddor arall. Mae hyn yn golygu:

  • Sicrhau bod pobl yn gwybod am hawliau dynol plant; 
  • Sicrhau bod y staff yn gwybod sut y mae cymhwyso hawliau dynol plant yn eu gwaith beunyddiol;
  • Sicrhau y clywir plant, pobl ifanc a'u teuluoedd ym maes penderfyniadau sy'n effeithio arnynt ac y gallant ffurfio a dylanwadu ar bolisïau a gwasanaethau;
  • Sicrhau bod cyfle gan BOB plentyn a pherson ifanc gael mynediad at eu hawliau a bod pobl yn gwybod sut mae sicrhau hynny;
  • Sicrhau yr adroddir am gynnydd a bylchau er mwyn bod yn atebol. 

Mae alinio â'r pump egwyddor a fabwysiadwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ac â dull gweithredu Abertawe o ddod yn Ddinas Hawliau Dynol yn darparu cysondeb o ran iaith a mesur. Mae gwneud hynny'n galluogi meddwl mewn modd cydgysylltiedig, adnoddau cydgysylltiedig a neges gyson am yr hyn yw hawliau dynol i bawb a sut y bwriadwn, fel un awdurdod ac un genedl, fynd i'r afael â materion hawliau dynol.

Cydraddoldeb ac Atal Gwahaniaethu ar waith

Y modd o roi'r egwyddor hon ar waith:

  • Cynnwys ymrwymiad eglur i hyrwyddo cydraddoldeb a threchu gwahaniaethu (gan gynnwys gwahaniaethu lluosog) ym mob datganiad polisi arwyddocaol. 
  • Gwneud yr holl staff yn ymwybodol y gall gwahaniaethu arwain at ganlyniadau annheg ac anghyfartal a dylid sicrhau bod dealltwriaeth helaeth gan y staff a defnyddwyr gwasanaethau o oblygiadau gwahaniaethu.
  • Sicrhau bod y staff yn deall yr angen i gymryd i ystyriaeth effaith penderfyniadau ar genedlaethau'r dyfodol, gan gynnwys effeithiau gwahaniaethu.
  • Ei gwneud yn ofynnol y darperir gwasanaethau sydd wedi'u comisiynu mewn modd nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn unigolion na grwpiau. 
  • Casglu data perthnasol, gan gynnwys data wedi'u dadgyfuno, i alluogi clustnodi gwahaniaethu neu anghydraddoldeb wrth wireddu hawliau dynol i glustnodi grwpiau y gwahaniaethir neu efallai y gwahaniaethir yn eu herbyn. 
  • Datblygu blaenoriaethau, targedau a rhaglenni gweithredu priodol i leihau gwahaniaethu yn erbyn grwpiau eithriedig, grwpiau ar gyrion cymdeithas, grwpiau o dan anfantais a grwpiau agored i niwed ynghyd â hyrwyddo cydraddoldeb i'r grwpiau hyn. 
  • Cynnwys asesiad o effaith hawliau dynol mewn unrhyw asesiad effaith ar gydraddoldeb lle na fo gweithdrefn ar wahân ar gyfer asesiad o effaith hawliau dynol.
  • Sicrhau cynnwys y deiliaid hawliau yn y broses o brawfesur pob penderfyniad cyllidebol sy'n effeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol arnynt.

Astudiaeth Achos 3
Enw'r prosiect:
Gwasanaeth Prawf
Egwyddor sy'n berthnasol i'r gwaith hwn: Cydraddoldeb ac Atal Gwahaniaethu 
A oes cyswllt rhwng y gwaith hwn ac un o flaenoriaethau'r HRC? Oes, Trechu Tlodi, Plant a Theuluoedd Agored i Niwed, Trechu Gwahaniaethu, Cam-drin a Thrais Domestig 

Cefndir a chyd-destun y gwaith:

O ran ei natur, mae'r Gwasanaeth Prawf yn gwasanaethu pobl agored iawn i niwed. Gan gydnabod hynny, datblygodd y Gwasanaeth ystod o ddarpariaethau gwasanaeth sy'n ychwanegu gwerth ac yn cefnogi pobl sy'n profi anghydraddoldeb/gwahaniaethu i gael mynediad at eu hawliau.

Pobl sydd heb ddigon o arian i gael mynediad at eu hawliau dynol sylfaenol: Mae'r Gwasanaeth Prawf wedi gwneud cysylltiadau a llunio perthynas â'r Adran Gwaith a Phensiynau fel bod cynrychiolwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau'n mynychu'r swyddfeydd prawf yn rheolaidd i gefnogi pobl sydd angen hynny i gael cyngor am fudd-daliadau. Mae hyn yn golygu y gellir rhoi cyngor i bobl sydd heb ddigon o arian i gael mynediad at eu hawliau dynol sylfaenol (bwyd, tai, dillad, tanwydd) ynglŷn â sut mae gwneud hynny. Ar ben hyn, comisiynodd y Gwasanaeth Prawf yr Ymddiriedolaeth Nelson, sy'n cydweithio â menywod ar brawf, i roi cymorth iddynt hawlio budd-daliadau priodol.

Pobl sy'n wynebu'r perygl o aildroseddu ac y mae arnynt angen cymorth i gael mynediad at eu hawliau dynol sylfaenol: Rheoli Integredig Troseddwyr (IOM) yw'r modd amlasiantaethol o gydlynu cymorth ar gyfer pobl agored i niwed sy'n troseddu neu sy'n wynebu'r perygl o droseddu. Gallai hyn gynnwys pobl ddi-gartref, gweithwyr rhyw, troseddwyr blaenorol a phobl eraill yn Abertawe sy'n agored i niwed. Mae IOM yn gymorth i wella ansawdd bywyd mewn cymunedau drwy ostwng effaith negyddol troseddu ac aildroseddu, lleihau nifer y bobl sy'n dioddef troseddu a gwella hyder y cyhoedd yn y system cyfiawnder troseddol. Mae'r gwasanaethau prawf yn darparu adnoddau uniongyrchol i bobl sydd ynglwm wrth IOM, megis offer hanfodol i'r cartref, mynediad ac atgyfeiriadau at fanciau bwyd, cyflenwi parseli banciau bwyd yn ystod ymweliadau â'r cartref. Mae banc bwyd a ariennir gan elusen yn bodoli o fewn y gwasanaeth Prawf lle bo'r staff yn prynu o siop fwyd fechan a defnyddir yr elw i brynu eitemau bwyd i droseddwyr sy'n adrodd ac sydd mewn angen. Mae partneriaeth ar y cyd â hwb yr elusen 'Include' yn galluogi rhoddion ar ffurf pethau ymolchi, condomau ac ati ar gyfer troseddwyr, lle bo angen. 

Plant a Theuluoedd Agored i Niwed sy'n methu â chael mynediant at eu hawliau dynol sylfaenol: Mae cysylltiadau partneriaethol da â gwasanaethau, gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol, gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar, gwasanaethau ieuenctid a'r heddlu yn flaenoriaeth i'r Gwasanaethau Prawf ac mae buddion hynny'n cynnwys:

  • Galluogi bod gwiriadau diogelu'n cael eu gwneud yn gynnar h.y. yng nghyfnod y llysoedd neu neilltuo'r troseddwr. 
  • Gellir clustnodi, rhannu a gweithredu'n gyflym ar unrhyw newidiadau i'r amgylchiadau sy'n effeithio ar allu teuluoedd i ffynnu yng nghyfarfodd y partneriaethau, megis cynhadledd deuluol drwy gyfarfodydd MAPPA a MARAC.
  • Lleolir Swyddog Cysylltu â Dioddefwyr o fewn y Swyddfa Brawf un diwrnod yr wythnos. 
  • Gwneir cysylltiadau da â rhaglenni ymyrraeth gynnar megis Dechrau'n Deg i gefnogi teuluoedd ifanc;
  • Gwneir cysylltiadau da â thimau ieuenctid ymyrraeth gynnar i ddarparu proses bontio o ieuenctid i oedolyn sydd o ansawdd.
  • Gwneir defnydd i'r eithaf o unedau mamau a babanod ar gyfer y menywod hynny sydd mewn angen i gefnogi menywod agored i niwed a'u plant i ffynnu;
  • Gwnaed cysylltiadau da â ffoaduriaid a hostelau;
  • Datblygwyd gwaith agos â Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig i feithrin perthynas â dioddefwyr cam-drin domestig a rhoi cymorth cywir iddynt (gweler isod i gael mwy o fanylion)

Trechu gwahaniaethu ar gyfer grwpiau y gwyddys iddynt wynebu gwahaniaethu: mae'r Gwasanaeth Prawf yn cynnig ystod o wasanaethau a chyfleoedd i ddatblygu'r staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phobl sydd â 'nodweddion gwarchodedig', a gwyddys bod y rhain yn fwy tebygol o wynebu gwahaniaethu: 

  • Asesiad cynnar yng nghyfnod y llys i glustnodi unrhyw rwystrau a allai effeithio ar allu'r person i gymryd rhan, e.e. cyfieithu, cynnig siarad Cymraeg, mynediad, cymorth gydag anabledd.
  • Mae ymdrin â hyfforddiant amrywioldeb yn orfodol i'r holl staff.
  • Cynnig awdur benyw i wneud adroddiadau llys a/neu neilltuo tîm benywaidd. Mae cynhadledd fisol fraenaru menywod yn clustnodi'r menywod mwyaf agored i niwed ac mae'n ceisio atebion a allai eu galluogi i ffynnu. Mae sesiynau adrodd menywod yn unig ar gael bob dydd Mercher 9-1pm. 
  • Prosiect yw Balchder mewn Carchardai a Phrofiannaeth (PiPP) sydd wedi'i ddatblygu i gefnogi troseddwyr neu'r sawl sydd yn wynebu perygl o droseddu sy'n dynodi eu hunain yn LGBTQIA+. 
  • Mae ym mhob un o'r adeiladau profiannaeth fynediad ar gyfer pobl sydd ag anableddau corfforol. 
  • Mae Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) ar gaethwasiaeth fodern yn bodoli i fynd i'r afael â'r mater hwn yn lleol.

JIP (prosiect intel ar y cyd) -gwaith amlasiantaethol sy'n cefnogi gwladolion tramor i hyrwyddo a deall eu hawliau a'u hawlogaethau 
Pam y mae hyn yn berthnasol i egwyddor Cydraddoldeb ac Atal Gwahaniaethu?
Mae cydraddoldeb yn ymwneud â sicrhau bod cyfle cyfartal gan bawb i wneud y gorau o'u bywydau a'u doniau ac nad oes rhaid i neb ddioddef cyfleoedd gwael mewn bywyd oherwydd gwahaniaethu. Mae hyrwyddo cydraddoldeb yn golygu cymryd camau i drechu gwahaniaethu. Ni ddylai fod unrhyw wahaniaethu yn erbyn buddiant unigolion neu grwpiau ar sail unrhyw nodweddion a ddiogelir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Yn y gwasanaethau prawf, lle y gellir eisoes wahaniaethu yn erbyn pobl yn syml oherwydd eu bod ar brawf, mae'n hanfodol cydnabod ffactorau ychwanegol a allai atal y sawl sy'n ymgysylltu â'r gwasanaeth rhag cyrraedd eu potensial a chael mynediad at eu hawliau a'u hawlogaethau. Gwnaeth y Gwasanaeth Prawf hyn wrth gydnabod bod cydraddoldeb yn golygu trin pawb yn deg a rhoi cyfleoedd ac adnoddau iddynt yn unol â'u hanghenion, yn gyfartal ag eraill, gan sicrhau y gallant ddatblygu a ffynnu i'w llawn botensial.

Grymuso Pobl ar Waith 

Y modd o roi'r egwyddor hon ar waith:

  • Casglu data perthnasol, gan gynnwys data wedi'u dadgyfuno a data hydredol ar yr adnoddau sydd ar gael, yn enwedig felly o ran grwpiau eithriedig/grwpiau ar y cyrion neu grwpiau cymdeithasol o dan anfantais. 
  • Adolygu gwasanaethau ac adnodau i glustnodi rhwystrau i gael mynediad at hawliau dynol, gan gynnwys mewn cydweithrediad â defnyddwyr gwasanaethau, yn enwedig o ran grwpiau eithriedig/grwpiau ar y cyrion neu grwpiau cymdeithasol o dan anfantais. 
  • Datblygu blaenoriaethau, targedau a rhaglenni gweithredu priodol sy'n galluogi i bawb, fel unigolion, ddatblygu eu galluoedd a chael mynediad at adnoddau sy'n cefnogi'r broses o wireddu eu hawliau dynol.
  • Darparu cyfleoedd a gwella sgiliau i ymgysylltu â mecanweithiau a phrosesau polisïau (gan gynnwys comisiynu) ynghyd ag i ddylanwadu ar y rhain drwy gynnig hyfforddiant a gwybodaeth i'r deiliad hawliau.
  • Darparu cyfleoedd i bobl weithredu ar y cyd i ddatblygu syniadau ac argymhellion,i gymryd camau gweithredu ac i ddylanwadu ar benderfyniadau. 
  • Darparu addysg a gwybodaeth hygyrch i ddatblygu dealltwriaeth pobl o'u hawliau dynol, gan gynnwys mentrau addysgol a mentrau cynyddu ymwybyddiaeth. 
  • Darparu gwybodaeth hygyrch am y mecanweithiau a'r broses ar gyfer dal yr awdurdod/sefydliad neu staff unigol i gyfrif. 
  • Darparu gwybodaeth hygyrch am gyngor cyfreithiol proffesiynol a gwasanaethau eiriolaeth annibynnol.
  • Sicrhau y clustnodir adnoddau yn y cyllidebau i gefnogi addysg, hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i bawb.

Astudiaeth Achos 4
Enw'r prosiect: Arweiniad Hawliau yn eich Poced 
Egwyddor sy'n berthnasol i'r gwaith hwn: Grymuso
A oes cyswllt rhwng y gwaith hwn ac un o flaenoriaethau'r HRC? Oes, Cynyddu Ymwybyddiaeth o Hawliau Dynol, Trechu Gwahaniaethu 

Cefndir a chyd-destun y gwaith:

Ar 10 Rhagfyr 2021, sef y Diwrnod Hawliau Dynol, datganodd Cyngor Abertawe a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe eu bwriad i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol. Mae hon yn weledigaeth a rennir gan sefydliadau megis y Cyngor, yr heddlu, y bwrdd iechyd, y gwasanaeth tân a phrifysgolion ynhyd â busnesau a llawer o drigolion.

Mae dod yn ddinas hawliau dynol yn golygu:

  • Ymgysylltu â chymunedau a'r sawl y gwasanaethwn yn y broses o wireddu eu hawliau dynol. 
  • Adeiladu ar waith sy'n digwydd ledled y ddinas ar sail gwybodaeth sy'n deillio o ymrwymiad i hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol.
  • Gwneud hawliau dynol yn sylfaen i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau. 
  • Cydnabod bod hawliau dynol yn sylfaenol i'n polisïau a'n camau gweithredu fesul unigolyn ac ar y cyd.

'Hawliau yn eich Poced'

Arweiniad i hawliau dynol a pham y maent yn bwysig i fywydau beunyddiol pobl Abertawe yw 'Hawliau yn eich Poced' a gynhyrchwyd gan Grŵp Llywio Hawliau Dynol Abertawe. Ei nod yw rhoi gwybodaeth i'r trigolion am eu hawliau dynol, esbonio pam y maent yn bwysig, yr hyn y mae Abertawe yn ei wneud ar hyn o bryd i droi'r hawliau yn realiti a rhoi gwybodaeth am y mannau lle y gall pobl gael mynediad at gefnogaeth ym maes hawliau dynol.

Mae'r llyfrynnau ar gael yn hawdd mewn mannau cyhoeddus megis llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden a chymunedol. Mae'r llyfryn A5 yn ddwyieithog ac ar gael ar ffurf hawdd i'w ddarllen yn y Gymraeg a'r Saesneg hefyd. Mae fersiynau PDF ar gael y gellir eu lawrlwytho. Gellir eu cael drwy e-bost neu drwy eu lawrlwytho o wefannau'r cyngor a phartneriaid. Arweiniad ar hawliau dynol

Pam y mae'r gwaith hwn yn berthnasol i egwyddor grymuso?

Dylai hawliau dynol rymuso pobl. Dylid gweld hawliau dynol fel hawlogaethau - nid ydynt yn opsiynol. Mae grymuso'n golygu chwyddo galluoedd pobl fel unigolion fel y gallant achub mantais yn well ar hawliau ac ymgysylltu â'r unigolion a'r sefydliadau hynny sy'n effeithio ar eu bywydau ynhyd â dylanwadu arnynt a'u cadw'n atebol. Yn yr achos hwn, mae 'Arweiniad Hawliau yn eich Poced' yn darparu gwybodaeth hygyrch sydd â'r nod o helpu pobl i gael gwell dealltwriaeth o'u hawliau dynol. Gall yr adnodd alluogi pobl i wneud defnydd o'u hawliau yn eu bywydau pob dydd, os ydynt eisoes yn ymwybodol bod hawliau ganddynt, neu'r modd o gael mynediad atynt.

Mae'r arweiniad yn fan cychwyn i waredu rhwystrau ar wybodaeth neu adnoddau sy'n galluogi pobl i ddeall ac arfer eu hawliau. Mae'r arweiniad yn amlinellu uchelgais Abertawe i ddatblygu ei pherthynas â'r sawl sy'n byw ac yn gweithio yma, gan gydnabod bod pob person yn ddeiliad hawliau galluog a'i bod yn fuddiol iddynt gael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau a dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Astudiaeth Achos 5

Enw'r prosiect: Digwyddiadau a gwybodaeth hygyrch Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS)
Egwyddor sy'n berthnasol i'r gwaith hwn: Grymuso
A oes cyswllt rhwng y gwaith hwn ac un o flaenoriaethau'r HRC? Oes, Trechu Gwahaniaethu, Cynyddu Ymwybyddiaeth o Hawliau Dynol

Cefndir a chyd-destun y gwaith: 

Hygyrchedd Cyfathrebu Digidol a Chopi Caled:

  • Mae SCVS yn sicrhau bod yr holl ddeunyddiau sydd ar gael i'r cyhoedd, boed y rheini'n rhai digidol neu'n gopi caled, yn defnyddio ffont sydd yn 12pt fan lleiaf i sicrhau hygyrchedd. Mae ffont ein sefydliad, sef PT Sans, yn hygyrch ac mae unrhyw ffontiau ychwanegol a ddefnyddir mewn adnoddau yn rhai 'Sans serif' er mwyn gwella hygyrchedd.
  • Defnyddir testun tywyll ar gefndir golau neu destun gwyn ar gefndir tywyll i'w wneud yn fwy darllenadwy.
  • Wrth gyfathrebu'n ddigidol, lle y crëir hyperddolen i adnoddau eraill, defnyddir dolen sy'n frawddeg lawn yn hytrach na gair i gefnogi hygyrchedd darllenwyr sgriniau.
  • Mae gwefan SCVS yn defnyddio dyluniad ymatebol sy'n galluogi i ddefnyddwyr wylio gwybodaeth ar eu dewis ddyfeisiau heb golli maint y ffont, ac yn y blaen 
  • Lle y defnyddir lluniau mewn cyfathrebu digidol, ychwanegir testun Alt i alluogi i'r darllenwyr sgriniau ddisgrifio'r lluniau 

Cyfarfodydd a Digwyddiadau:

Mae SCVS yn defnyddio Pecyn Cymorth Cyd-gynhyrchu'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i arwain ein dull o weithredu o ran cyfarfodydd, digwyddiadau a gwaith a wneir fel rhan o brosiect Llais y Gymuned i sicrhau bod ein dull gweithredu yn sicrhau bod y cyfarfodydd yn hygyrch. Mae hyn yn golygu:

  • Ystyried amserau cyfarfodydd fel y gall pobl sydd ag anghenion gofalwyr ac sy'n ofalwyr eu mynychu (osgoi amserau cychwyn cynnar etc), seibiannau rheolaidd 
  • Sicrhau bod y lleoliadau yn hygyrch, cysylltiadau trafnidiaeth hawdd / parcio 
  • Lle bo angen, sicrhau bod cyfleusterau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gael, gan gynnwys dolen glywed, BSL etc
  • Cynhyrchu deunyddiau i ddiwallu gofynion hygyrchedd unigol (lliw'r papur / testun etc)
  • Dull hwylus o weithredu o ran cyfarfodydd sy'n sicrhau 'llais y gymuned' 
  • Defnyddio Llinell Iaith, lle bo rhaid, ar gyfer cyfieithu a chyfieithu ar y pryd mewn sefyllfa un i un neu grŵp bychan 
  • Sicrhau mewn rhith-gyfarfodydd bod yr offer angenrheidiol gan bobl i gymryd rhan ac y gallant gael mynediad at y platfform a ddefnyddir 
  • Ad-dalu costau sy'n gysylltiedig â mynychu

Pam y mae'r gwaith hwn yn berthnasol i'r egwyddor hon? 

Dylai hawliau dynol rymuso pobl. Mae galluogi prosesau hygyrchedd mewn modd cyson fel y gwna SCVS yn golygu y gellid gweld yr hawl i gyfranogi fel hawlogaeth ac nid opsiwn. 

Mae grymuso'n golygu gwella galluoedd pobl fel unigolion. Gan ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar y sector, gall swyddogaeth gyfathrebu SCVS gysylltu grwpiau â'i gilydd, gan sicrhau bod ganddynt fynediad at wybodaeth berthnasol ac amserol i gefnogi datblygu eu grŵp. Rhennir ymgyngoriadau, cyllid, newyddion, digwyddiadau, swyddi a mwy fel y gall pobl achub maintais yn well ar hawliau ac ymgysylltu â'r unigolion a'r sefydliadau hynny sy'n effeithio ar eu bywydau ynhyd â dylanwadu arnynt a'u cadw'n atebol.

Dylid rhoi gwybodaeth i bobl i gynyddu eu dealltwriaeth o hawliau dynol ynghyd â mynediad at adnoddau i'w galluogi i wneud defnydd o'u hawliau yn eu bywydau beunyddiol. Mae grymuso'n golygu gwaredu rhwystrau ar wybodaeth neu adnoddau sy'n galluogi pobl i ddeall ac arfer eu hawliau. Yn SCVS, curadir a rhoddir cyd-destun i wybodaeth yn hytrach na'i hailddosbarthu yn y ffurf y daeth i law. Asesir gwybodaeth i egluro ar gyfer Pwy y'i bwriedir, Pam y mae'n berthnasol iddynt a Beth y dylent ei wneud o ganlyniad i dderbyn y cyfathrebiad.

Mae grymuso'n newid y berthynas rhwng deiliaid hawliau ac awdurdodau. Mae hyn yn golygu trosglwyddo rhai pwerau neu bob un o'r pwerau i wneud penderfyniadau i'r deiliaid hawliau, fel y gallant roi cyfeiriad i'w bywydau a rheoli eu bywydau'n well. Mae tîm cyfathrebu SCVS yn golygu gwybodaeth i ddangos y pwyntiau hyn yn eglur a dosbarthu'r wybodaeth drwy ddefnyddio amryw o sianelau cyfathrebu er mwyn cyrraedd y bobl y mae'r wybodaeth yn berthnasol iddynt ac yn effeithio arnynt.

Cyfranogi ar waith 

Y modd o roi'r egwyddor hon ar waith:

  • Cynnwys ymrwymiad clir i gyfranogiad plant ym mhob datganiad polisi arwyddocaol.
  • Gwneud asesiad cychwynnol a rheolaidd o gyfranogi ar draws pob maes yn swyddogaethau'r awdurdod cyhoeddus. 
  • Blaenoriaethu cyfranogiad ledled y cylch comisiynu.
  • Datblygu blaenoriaethau, targedau a rhaglenni gweithredu priodol i gynyddu cyfranogiad, yn enwedig ymysg grwpiau sydd fel arall yn eithriedig/ar y cyrion neu o dan anfantais. 
  • Rhoi rhan uniongyrchol i bobl yn y broses o gynllunio, monitro a gwerthuso cyflenwi gwananaethau ac yn y broses o brawfesur pob polisi a chyllideb sy'n effeithio'n uniongyrchol neu anuniongyrchol arnynt. 
  • Clustnodi lle a mannau diogel, gan gynnwys amser, i bobl gyfranogi.
  • Rhoi rhan i bobl yn y broses o recriwtio'r holl staff sydd â chyfrifoldebau sy'n effeithio ar eu bywydau. 
  • Rhoi adborth am ganlyniadau rhoi rhan i bobl yn unrhyw un o'r gweithdrefnau uchod, gan oroleuo mewn modd rhagweithiol unrhyw newidiadau a/neu fuddion a ddeilliodd o'u cyfranogiad.
  • Darparu gwybodaeth i gefnogi rhoi rhan i bobl yn unrhyw un o'r gweithdrefnau uchod mewn iaith ac ar ffurf briodol i oedran, aeddfedrwydd, diwylliant ac anabledd y person. 
  • Sicrhau y clustnodir adnoddau yn y cyllidebau i gefnogi cyfranogiad.

Astudiaeth Achos 6
Enw'r prosiect:
Cyfiawnder Ieuenctid
Egwyddor sy'n berthnasol i'r gwaith hwn: Cyfranogi
A oes cyswllt rhwng y gwaith hwn ac un o flaenoriaethau'r HRC? Oes. Trais a Cham-drin Domestig, Cefnogi Plant a Theuluoedd Agored i Niwed 

Cyflwyniad cryno i'r cefndir, y cyd-destun a'r gwaith a wnaed: 

Cipolwg yw'r canlynol ar berson ifanc a ddaeth i sylw'r heddlu'n gyntaf yn 2018. Er dibenion yr astudiaeth achos hon, galwn Sam arno. 

Mae Sam yn 16 mlwydd oed ac mae'n ymwneud yn helaeth â'r heddlu a gwasanaethau eraill ers 2018, gan gyflawni ymosodiadau yn yr ysgol a throseddau o natur ddomestig yn y cartref. Mae Sam yn dioddef o ADHD a phriodoleddau sbectrwm awtistig eraill. Mae Sam yn byw gyda'i fam, sef rhiant sengl sy'n brwydro ers tipyn i reoli ymddygiad Sam. Mae Sam a'i fam yn byw mewn lleoliad anghysbell iawn gydag ychydig iawn o weithgarwch cymunedol. 

Cafodd Sam sawl ymyrraeth gan y gwasanaethau dros y blynyddoedd, gan gynnwys gweithredu ym maes cyfiawnder adferol, atgyfeiriadau at Banelau Ymyrraeth Gynnar, y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Swyddfa Ieuenctid (Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid), hyfforddiant ar feddwl yn ganlyniadol a chefnogi ymwybyddiaeth o ddioddefwyr. Er iddynt fod yn ddefnyddiol, ni ymddangosai mai'r rhain oedd yr ymyriadau cywir ar gyfer Sam a gwaethygodd ei ymddygiad yn 2020/21 gyda chyhuddiadau o niwed troseddol ac achlysuron lle yr adroddwyd bod Sam wedi mynd ar goll. Nodwyd hefyd yr adeg hon bod hwyliau a chymhelliant Sam yn isel iawn ac yn peri pryder.

Yn 2022, yn sgîl derbyn Gorchymyn Penderfyniad Adferol Ieuenctid, ail-atgyfeiriwyd Sam at y Swyddfa Ieuenctid. Yno, cyfarfu Sam â swyddog a oedd yn gweithredu drwy archwilio diddordebau a dyheadau Sam. Daeth yn glir yn ystod y broses bod Sam yn dwli ar gerddoriaeth a'i fod yn dysgu chwarae'r gitâr.

Medrodd y swyddog sicrhau cyllid ar gyfer gwahanol ddiddordebau cerddorol a dechreuodd ddysgu chwarae'r gitâr gyda Sam (dros dro tra bo tiwtor cerddoriaeth cymwysedig yn cael ei benodi). Sefydlwyd sesiynau i Sam ddysgu chwarae, nid i wobrwyo'i ymddygiad, ond i gynnig canolbwynt ac ymroddiad i rywbeth yr oedd Sam yn ei fwynhau, tra bo cyfle hefyd yn cael ei ddarparu i feithrin perthynas â Sam i'w annog i sgwrsio a thrafod y materion a oedd yn effeithio ar Sam a'i deulu. 

Mae Sam yn dal i fynychu'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, lle y gall barhau, gyda chymorth athro cerddoriaeth llawn amser, i fynegi ei deimladau ac ymgysylltu â'i deimladau mewn modd creadigol. O ganlyniad i ymgysylltiad parhaus, daeth mam Sam hefyd i adnabod y staff ac mae hithau yn awr yn cael cefnogaeth hefyd. 
Hyd yn hyn, ni fu mwy o adroddiadau sy'n peri pryder yn y cartref.

Pam y mae'r gwaith hwn yn berthnasol i egwyddor cyfranogi?

Mae cyfranogi yn golygu gwrando ar bobl a chymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth mwn modd ystyrlon. Dylid cefnogi pawb i fynegi eu barn yn rhydd. Yn yr enghraifft hon, drwy wrando ar yr hyn a oedd o bwys i Sam a'i fam a chymryd yr amser i fuddsoddi mewn pethau a oedd o fwynhad iddynt ac yr oedd diddordeb ganddynt ynddynt (yn hytrach na chanolbwyntio ar agweddau negyddol bywyd Sam), galluogodd hyn iddynt deimlo cysylltiad a bod rhywun yn gwrando arnynt mewn sefyllfa lle'r oedd yn hawdd teimlo ynysrwydd a dieithrwydd. Medrodd Sam ymgysylltu â gweithgarwch a oedd â goblygiadau cadarnhaol i'w fywyd a meithrin perthynas â'r gwasanaethau yr ystyriai yn negyddol tra bo'n gwneud hynny.

Wrth fod y Swyddog yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi defnyddio egwyddor cyfranogi ac wedi rhoi gwerth ar yr hyn yr oedd gan Sam i'w ddweud a'i fynegi, newidiodd y Swyddog y dull gweithredu yn achos Sam o ymyrraeth i ymgysylltu. Daeth profiad Sam yn un galluogol a chynhwysol sy'n cefnogi ymgom rhyngddo a'i fam fel deiliaid hawliau a'r gwasanaethau sy'n gludwyr dyletswyddau i'w cadw hwy ac eraill yn ddiogel a chefnogi Sam i gyrraedd ei botensial.

Atebolrwydd ar waith 

Y modd o roi'r egwyddor hon ar waith:

  • Cynnwys ymrwymiad eglur i atebolrwydd ym mhob datganiad polisi arwyddocaol neu ddogfennau eraill sy'n amlinellu gweledigaeth neu amcanion allweddol yr awdurdod (e.e. cynllun corfforaethol). 
  • Sicrhau bod atebolrwydd yn parhau hyd yn oed lle bo trydydd partïon yn comisiynu gwasanaethau. 
  • Sicrhau bod y staff yn deall eu cyfrifoldebau a'u goblygiadau i ddeiliaid hawliau drwy wneud hyn yn ddiamwys yn y polisïau a'r disgrifiadau swyddi sy'n rheoli ymddygiad y staff. 
  • Dylai goruchwylio a rheoli perfformiad y staff gynnwys cyfrifoldeb unigol am hawliau dynol, gan gynnwys defnyddio dangosyddion perfformiad unigol, fel bo'n briodol. 
  • Monitro hawliau dynol yn erbyn safonau hawliau dynol mewn modd cyson, gan ddatblygu dangosyddion hawliau dynol cymwys (a dylid datblygu'r rhain gyda chyfranogiad y deiliaid hawliau a dylid eu gwneud i fod yn berthnasol i feysydd gwasanaethau a pholisïau). 
  • Cyhoeddi adroddiadau blynyddol am berfformiad yn erbyn dangosyddion hawliau dynol a lledaenu'r canfyddiadau yn eang.
  • Annog monitro perfformiad yn annibynnol ac yn erbyn y safonau hawliau dynol, gan gynnwys drwy roi rhan i bobl sydd â phrofiad bywyd ym maes monitro a/neu adolygu/archwilio. 
  • Darparu gwybodaeth hygyrch am fecanweithiau a'r broses o wneud cwynion ac o gadw'r awdurdod neu staff unigol yn atebol.
  • Darparu gwybodaeth hygyrch am y modd o gael mynediad at gyngor, megis gwasanaethau cynghori, gwasanaethau eiriolaeth hawliau dynol neu gyngor cyffreithiol proffesiynol.

Astudiaeth Achos 7
Enw'r prosiect: Prifysgol Abertawe 
Egwyddor sy'n berthnasol i'r gwaith hwn: Atebolrwydd 
A oes cyswllt rhwng y gwaith hwn ac un o flaenoriaethau'r HRC? Oes. Cynyddu Ymwybyddiaeth o Hawliau Dynol. 

Fel sefydliad, cred Prifysgol Abertawe yn gryf y dylai fod yn atebol am unrhyw benderfyniad neu gam gweithredu sy'n effeithio ar hawliau dynol pobl. 

Sefydlodd y Brifysgol weithdrefnau cwyno i'w defnyddio gan y staff a'r myfyrwyr os byddant yn credu eu bod yn destun gwahaniaethu annheg mewn perthynas â'u gwaith neu'u hastudiaethau. Mae'r gweithdrefnau hyn yn gymorth i sicrhau bod y brifysgol yn atebol am hyrwyddo'r hawl i gydraddoldeb ac atal gwahaniaethu, ynghyd â'r hawl i amgylchfyd gwaith diogel ac iach. Maent hefyd yn gymorth i sicrhau y gall y myfyrwyr gadw'r Brifysgol yn atebol o ran y modd y mae'n sicrhau eu hawl i addysg. Hefyd, mae ein gweithdrefnau yn cynnwys amddiffyniadau sy'n sicrhau bod staff a myfyrwyr sy'n destun gweithdrefnau disgyblu yn cael eu trin yn deg, yn unol â'r hawl i brawf teg. Mae hyn yn cynnwys gweithdrefnau apêl. 

Rheolir ymchwil y brifysgol gan safonau moesegol sy'n cael eu goruchwylio gan Bwyllgorau Moeseg ar sail Cyfadran a Phwyllgor Moeseg a Llywodraethu Ymchwil y Brifysgol. 

Pam y mae'r gwaith hwn yn berthnasol i egwyddor atebolrwydd? 

Mae hawliau dynol yn esgor ar oblygiadau sy'n gofyn am atebolrwydd. Dylai gwasanaethau cyhoeddus fod yn atebol am benderfyniadau a chamau gweithredu sy'n effeithio ar fywydau pobl. Yn yr achos hwn, darperir gwybodaeth i staff a myfyrwyr a rhoddir mynediad iddynt at weithdrefnau sy'n eu galluogi i holi a herio gwneuthurwyr penderfyniadau. 

Mae atebolrwydd yn gofyn am fonitro effeithiol ar safonau hawliau dynol ynghyd â chamau unioni effeithiol lle y methir bodloni'r safonau hynny. Mae'r safonau moesegol a ddefnyddir i lywodraethu'r Brifysgol yn gymorth i sicrhau bod ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn atebol am y modd y mae ymchwil yn effeithio ar hawliau dynol megis yr hawl i breifatrwydd, uniondeb corfforol, yr hawl i fod yn ddiogel a'r hawl i ddiogelwch rhag canfanteisio am resymau economaidd a rhesymau eraill.

Datblygwyd yr Ymagwedd Hawliau Dynol egwyddorol hon gan Yr Athro Simon Hoffman a Dr Rhian Croke Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe.

Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol (PDF)

Arweiniad ar gyfer sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus yn Ninas a Sir Abertawe