Arweiniad ar hawliau dynol
Mae arweiniad poced ar hawliau dynol a pham y maent yn bwysig i fywydau pob dydd pobl yn Abertawe ar gael yma.
Arweiniad ar Hawliau Dynol - fersiwn hawdd ei darllen
Beth yw Hawliau Dynol?
Mae Hawliau Dynol yn rheolau sy'n amddiffyn pobl. Dyma'r hawliau a'r rhyddid sylfaenol sy'n perthyn i bob person yn y byd, o enedigaeth tan farwolaeth. Mae pob un ohonom wedi'n geni gyda Hawliau Dynol ac er y gallant fod yn gyfyngedig weithiau, ni ellir cymryd eich hawliau oddi wrthych.
Yn y DU diogelir rhai o'n Hawliau Dynol gan gyfraith y DU. Er bod gennym hawliau eraill sydd wedi'u gwarantu gan gyfraith ryngwladol y mae'r DU yn rhwymedig iddynt, nid yw'r rhain yn rhan o gyfraith y DU, er enghraifft Confensiwn Hawliau'r Plentyn.
Pa hawliau sydd gen i yn y DU?
Mae cyfraith y DU yn gwarantu'r Hawliau Dynol sy'n cael eu nodi yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol*. Y rhain yw:
Yr hawl i fywyd
Ni all neb geisio dod â'ch bywyd i ben. Dylai Awdurdodau Cyhoeddus (Llywodraeth, awdurdodau lleol, yr Heddlu) ystyried eich hawl i fywyd wrth wneud penderfyniadau a allai eich rhoi mewn perygl neu sy'n effeithio ar eich disgwyliad oes.
Rhyddid rhag artaith a thriniaeth annynol neu ddiraddiol
Does gan neb yr hawl i'ch brifo chi, yn feddyliol neu'n gorfforol. Mae'n rhaid i Awdurdodau Cyhoeddus eich amddiffyn os yw rhywun yn eich trin fel hyn.
Rhyddid rhag caethwasiaeth a llafur gorfodol
Mae gennych yr hawl i beidio â chael eich trin fel caethwas. Ni ellir eich gwneud i weithio am ddim.
Yr hawl i ryddid a diogelwch
Mae gennych yr hawl i ryddid. Ni ddylech gael eich arestio na'ch rhoi dan glo heb reswm da. Os cewch eich arestio, rhaid i'r heddlu ddod â chi gerbron llys.
Yr hawl i dreial teg
Rydych yn ddieuog nes y cewch eich profi'n euog. Mae gennych yr hawl i amddiffyn eich hun a chael cymorth cyfreithiol. Dim ond llys all ddweud os ydych yn euog o drosedd.
Dim cosb heb gyfraith
Gellir eich cael yn euog o drosedd dim ond os oedd y drosedd honno yn erbyn y gyfraith pan gwnaethoch ei chyflawni.
Parch at eich bywyd preifat a theuluol, eich cartref a'ch gohebiaeth
Mae gennych yr hawl i fyw eich bywyd yn eich ffordd eich hun, heb unrhyw ymyriad.
Rhyddid meddwl, cred a chrefydd
Mae gennych yr hawl i gredu beth bynnag y dymunwch. Ni all eraill ddweud wrthych beth i'w gredu.
Rhyddid mynegiant
Mae gennych yr hawl i ddweud eich dweud a choleddu'ch barn eich hun.
Rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu
Mae gennych yr hawl i ddod at eich gilydd gyda phobl eraill mewn ffordd heddychlon.
Yr hawl i briodi a dechrau teulu
Mae gennych yr hawl i briodi a dechrau teulu. Mae'r gyfraith yn y wlad hon yn dweud sut ac ar ba oedran y gall hyn ddigwydd.
Diogelu rhag gwahaniaethu mewn perthynas â'r hawliau hyn a'r rhyddid hwn
Mae gan bawb hawliau cyfartal. Ni ddylech gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, eich crefydd, eich rhyw, eich oedran, eich barn wleidyddol, eich anabledd neu unrhyw beth arall
Protocol 1, Erthygl 1: Yr hawl i fwynhau eich eiddo mewn heddwch
Mae gennych yr hawl i fwynhau'r pethau rydych chi'n berchen arnynt. Ni all unrhyw un ymyrryd â phethau rydych chi'n berchen arnynt na'r ffordd rydych chi'n eu defnyddio, heb reswm da iawn.
Protocol 1, Erthygl 2: Yr hawl i addysg
Mae gennych yr hawl i ddefnyddio ysgolion a cholegau.
Protocol 1, Erthygl 3: Yr hawl i gymryd rhan mewn etholiadau am ddim
Rhaid i etholiadau fod am ddim ac yn deg. Rhaid iddynt fod yn bleidleisiau cyfrinachol, mae hyn yn golygu nad yw'n fusnes i neb arall sut rydych yn pleidleisio.
Protocol 13, Erthygl 1: Diddymu'r gosb marwolaeth
Ni ellir eich dedfrydu i farwolaeth am unrhyw drosedd.
troednodyn
* Drafftiwyd y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) ym 1950 gan y Cyngor Ewropeaidd. Mae'n gonfensiwn rhyngwladol
i amddiffyn hawliau dynol a rhyddid gwleidyddol yn Ewrop. Mae'r DU yn dal i gymryd rhan yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Beth mae'n ei olygu i mi?
Mae gan bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus, er enghraifft, awdurdodau lleol, yr Heddlu, y GIG, ddyletswydd gyfreithiol, o dan gyfraith y DU, i gydymffurfio â'r 16 o hawliau y cyfeirir atynt uchod (oni bai fod cyfraith y DU yn golygu nad oes ganddynt ddewis ond torri'ch hawliau). Mae'r ddyletswydd hon yn bwysig iawn mewn sefyllfaoedd pob dydd oherwydd mae'n golygu y gallwch:
- Siarad o blaid eich hun gan fod gennych hawliau dynol y dylid eu hamddiffyn a'u cefnogi
- Siarad â'ch gwasanaethau ynghylch a ydynt yn cyflawni'u dyletswydd gyfreithiol i barchu ac amddiffyn eich hawliau dynol
- Gweithio gyda gwasanaethau i ddod o hyd i atebion gwell heb fod angen mynd i'r llys neu ddefnyddio cyfreithiwr
Beth rydym ni'n ei wneud yn Abertawe?
Mae Abertawe'n dod yn Ddinas Hawliau Dynol. Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau cyhoeddus fel y cyngor, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân a'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ymrwymo i roi hawliau dynol a rhyddid sylfaenol eu preswylwyr wrth wraidd popeth a wnânt. Mae'r ymrwymiad hwn wedi'i warantu o dan gyfraith y DU. Byddwn yn ymchwilio i sut gallwn wella Hawliau Dynol a Chonfensiynau Rhyngwladol yma yn Abertawe.
Rydym am greu dinas lle mae pawb yn gyfartal. Grymuso pobl i ddeall eu hawliau a pharchu hawliau eraill. Cymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Bydd hyn yn creu dinas decach, fywiog, amrywiol a mwy diogel i bawb.
Ym mis Gorffennaf 2022, cydnabu Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig am y tro cyntaf fod cael amgylchedd glân, iach a chynaliadwy yn Hawl Dynol. Mae Cyngor Abertawe a'n partneriaid yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithredu ar argyfyngau newid yn yr hinsawdd a natur ac wedi llofnodi Siarter, gan ymrwymo i gydweithio i fod yn Sero Net a chreu Abertawe wyrddach erbyn 2050.et a chreu Abertawe wyrddach erbyn 2050.
Mae Cyngor Abertawe wedi gwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Pan fyddwn yn creu polisïau newydd neu'n diwygio polisïau, rydym yn sicrhau ein bod wedi ystyried yr effaith ar hawliau plant a phobl ifanc. Rydym yn ymrwymedig i greu llwyfan ar gyfer newid er mwyn sicrhau diwylliant lle mae hawliau plant yn cael eu hystyried yn ein holl waith, gan arwain at well gwasanaethau a bywydau i blant, pobl ifanc a theuluoedd yn Abertawe.
Sut i fod yn rhan o hyn
Addawch eich cefnogaeth i Abertawe ddod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru: Ddinas Hawliau Dynol
I addo'ch cefnogaeth drwy e-bost neu dros y ffôn:
E-bostiwch: hawliaudynol@abertawe.gov.uk
Ffoniwch: 01792 636000
Gwneud Addewid Hinsawdd
Addewid hinsawdd
Gallwch hefyd addo'ch cefnogaeth drwy ysgrifennu at:
Newid yn yr Hinsawdd,
Cyngor Abertawe,
Canolfan Ddinesig,
Oystermouth Road,
Abertawe
SA1 3SN.
Am wybod mwy am eich Hawliau?
Tîm Cynllun Hawliau Plant Cyngor Abertawe
Gwefan: Hawliau plant a phobl ifanc
E-bost: UNCRC@abertawe.gov.uk
Ffôn: 07929 719528
Sefydliad Hawliau Dynol Prydain (BIHR)
Mae BIHR yn darparu gwybodaeth ac adnoddau ar hawliau dynol ond nid yw'n darparu cyngor cyfreithiol na chymorth gwaith achos
Gwefan: The British Institute of Human Rights (bihr.org.uk) (Yn agor ffenestr newydd)
Ffôn: 020 3039 3646
Comisiynydd Pobl Hŷn
Cymru Gwefan: Comisiynydd Pobl Hyn Cymru (comisiynyddph.cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
Ffôn: 03442 640 670
E-bost: gofyn@comisiynyddph.cymru
Comisiynydd Plant Cymru
Gwefan: Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
Ffôn: 01792 765600
E-bost: cyngor@complantcymru.org.uk
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
Mae'n cynnig gwybodaeth i helpu pobl i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn uniongyrchol i gwestiynu sut mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni datblygu cynaliadwy.
Gwefan: Future Generations Commissioner for Wales (futuregenerations.wales) (Yn agor ffenestr newydd)
Ffôn: 02921 677 400
E-bost: cysywlltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru
Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig
Mwy am hawliau dynol a warentir gan gyfraith ryngwladol:
Gwefan: United Nations Human Rights (ohchr.org) (Yn agor ffenestr newydd)
Ffôn: +41 22 917 9220
E-bost: ohchr-InfoDesk@un.org
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru
Gwefan: Y Comisiwn yng Nghymru (equalityhumanrights.com) (Yn agor ffenestr newydd)
Am gyngor penodol:
Gwasanaeth Cefnogi a Chynghori ar Gydraddoldeb
Gwefan: Equality Advisory and Support Service (equalityadvisoryservice.com) (Yn agor ffenestr newydd)
Ffôn: 0808 800 0082
Ffôn testun: 0808 800 0084
Clinig y Gyfraith Abertawe
Mae'n cynnig cyngor cychwynnol am ddim am broblemau cyfreithiol wrth roi cyfle i'n myfyrwyr weithio ochr yn ochr â chyfreithwyr gweithredol i gynghori cleientiaid go iawn.
Gwefan: Swansea Law Clinic (swansea.ac.uk) (Yn agor ffenestr newydd)
E-bost: lawclinic@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 295387
Canolfan Gyfreithiol y Plant
E-bost: childrenslegalcentre@swansea.ac.uk
Cyfeiriad:
Technium Digidol,
Prifysgol Abertawe,
Parc Singleton Abertawe
SA2 8PP