Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhaglen Dysgu a Datblygu'r Gwasanaethau Cymdeithasol

Rydym yn cynnig cyrsiau hyfforddiant am ddim i ddarparwyr gofal cymdeithasol a gomisiynir, aelodau o Bartneriaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol a thimau rheoli'r awdurdodau lleol i nodi beth yw'r anghenion hyfforddiant, ac rydym wedi cynllunio'r hyfforddiant o amgylch yr anghenion hyn.

Rydym hefyd yn cydweithio â Gofal Cymdeithasol Cymru a Gofalwn Cymru i rannu ein cyfleoedd hyfforddiant.

Ar hyn o bryd, rydym yn parhau i weithio ar gyflwyno ein dysgu mewn ffordd gymysg drwy sesiynau rhithwir, e-ddysgu a chyrsiau wyneb yn wyneb hanfodol. 

Darperir yr holl hyfforddiant am ddim.

Gweler y rhestr o gyrsiau presennol yma. (Word doc, 168 KB).

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth am ein cyrsiau, cysylltwch â'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a Hyfforddiant yn Social.ServicesTraining@abertawe.gov.uk

Os ydych chi'n chwilio am gwrs nad yw wedi'i restru fel un sydd ar gael, cysylltwch â Social.ServicesTraining@abertawe.gov.uk

Pwy all wneud cais am hyfforddiant?

Gall unrhyw un sy'n cyflawni dyletswyddau gofal cymdeithasol yn Abertawe wneud cais. Mae cyrsiau ar agor i ddarparwyr gofal cymdeithasol annibynnol a thrydydd sector: Staff o'r awdurdod lleol neu'r sector statudol, gofalwyr maeth, teulu sy'n ofalwyr di-dâl, y sawl sy'n derbyn taliadau uniongyrchol a'u cynorthwywyr personol.

Bydd manylion cyrsiau neu raglenni hyfforddiant yn cael eu hanfon drwy e-bost at bob partner ar ein rhestr bostio chwe wythnos cyn dyddiadau'r cwrs hyfforddiant. Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, e-bostiwch Social.ServicesTraining@abertawe.gov.uk

Sut ydw i'n cadw lle ar gyfer cwrs?

E-bostiwch Social.ServicesTraining@abertawe.gov.uk gan nodi'r manylion canlynol:

  1. Enwau staff a'u swyddi
  2. Timau a rolau 
  3. Cyfeiriad e-bost y person enwebedig

Dyrennir lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych wedi llwyddo i gael lle ar gwrs o fewn 5 niwrnod gwaith i dderbyn eich cais.
Darperir yr hyfforddiant hwn fel rhan o Bartneriaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol.

Swyddi gwag mewn gofal

Gwefannau cysylltiedig

Getting involved

Dod yn llysgennad - Gofalwn Cymru

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Mai 2025