Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddi Gwasanaethau Cymdeithasol

Swyddi a gyrfaoedd sy'n werth eu gwneud sy'n wirioneddol bwysig ac sy'n rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl o bob oed ledled Abertawe.

Old man and young children image

Yng Nghyngor Abertawe rydym yn falch o'n gweithlugwasanaethau cymdeithasol a phopeth y maent yn ei wneud ac mae ein cynnig yn cynnwys cyfleoedd i weithio'n hyblyg, cynllun pensiwn, hyfforddiant a llawer mwy.

Gallai eich profiadau bywyd a'ch angerdd i ofalu am bobl a'u helpu i gael y bywyd gorau posib eich helpu i ddod o hyd i swydd nawr.

Yr hyn sy'n bwysig i ni fel gwasanaeth gofalgar a chefnogol yw eich agwedd a faint rydych chi am ofalu ac yn gyfnewid am hynny, byddwn ni'n gofalu amdanoch chi a'ch gyrfa.

Gweler yr hysbysebion rôl isod i weld beth sydd ar gael. Mae gan bob un fanylion cyswllt rhywun y gallwch chi ei e-bostio neu ei ffonio i ddarganfod mwy.


Maethu

Os hoffech wybod mwy am faethu yn Abertawe, siaradwch â ni - ni yw Maethu Cymru Abertawe.

Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol

O £12.00 yr awr. Cyflogir Cynorthwyydd Personol Gofal Cymdeithasol i gefnogi unigolyn i fyw mor annibynnol â phosib. Mae amrywiaeth o swyddi ar gael yn ardal Abertawe i gefnogi unigolion o bob oed (gan gynnwys plant ac oedolion), cefndir a gallu.

Gweithiwr Cymdeithasol X 2 (dyddiad cau: 21/11/24)

£39,513 - £43,693 y flwyddyn (Gradd 9), ac ar gyfer newydd gymhwyso, £35,235 - £38,626 y flwyddyn (Gradd 8). Ni yw'r Tîm Gwaith Cymdeithasol Cymunedol, ac rydym yn gweithio gydag oedolion ifanc (17+), sy'n pontio o wasanaethau Plant a Theuluoedd ac oedolion a allai fod yn agored i niwed, sydd ag anableddau corfforol, sy'n niwroamrywiol, neu sydd ag anghenion cymhleth hirdymor, ac yn gymwys i gael cymorth gartref neu mewn gofal preswyl dros gyfnod hirach.

Therapydd Gwasanaeth Mabwysiadu (dyddiad cau: 26/11/24)

£47,754 - £48,710 pro rata y flwyddyn. Mae cyfle wedi codi ar gyfer swydd Therapydd Rhan Amser (18.5 awr) yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Bae Gorllewinol. Mae'r swydd yn gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2025 yn y lle cyntaf.

Cynorthwy-ydd Gofal Nos (dyddiad cau: 28/11/24)

£25,584 - £26,409 pro-rata y flwyddyn. Swydd cynorthwyydd gofal nos - 20 awr yng Nghartref Gofal Preswyl Hollies

Cysylltydd Rhanbarthol (dyddiad cau: 29/11/24)

£39,513 - £43,693 y flwyddyn. Mae'r rôl cysylltydd ranbarthol yn cael ei hariannu gan Gofal Cymdeithasol Cymru drwy grant blynyddol a ddyrannwyd i'r saith rhanbarth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n dod o dan ddarpariaeth Gofalwn Cymru, a lansiwyd yn 2019, i godi proffil ac ymwybyddiaeth gadarnhaol o yrfaoedd mewn gofal (gan gynnwys gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar, yn ogystal â gofal plant a chwarae).

Swyddog Gofal Preswyl i Blant (dyddiad cau: 03/12/24)

£31,067 - £34,314 y flwyddyn. Mae ein cartrefi preswyl yn darparu cymorth, arweiniad a gofal i blant a phobl ifanc rhwng 12 a 18 oed. Gall ein plant a'n pobl ifanc wynebu anawsterau ymddygiadol ac emosiynol a allai effeithio ar eu lles a'u diogelwch.

Gweithiwr Cymdeithasol - Uwch Weithiwr Cymdeithasol - Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol Arbenigol (dyddiad cau: 01/02/25)

£39,513 - £48,710 y flwyddyn. Yng Nghyngor Abertawe, mae ein tîm Cynllunio Gofal â Chymorth (SCP) yn mynd trwy gyfnod cyffrous o ddatblygiad. Gan gydnabod, yn ystod eu cyfnod mwyaf agored i niwed, bod teuluoedd eisiau ac angen ymarferwyr profiadol, medrus a rhagorol i'w cefnogi a'u harwain, rydym yn darparu cyfleoedd i'n gweithwyr cymdeithasol mwyaf profiadol barhau'n gadarn mewn rheoli achosion tra'n datblygu eu sgiliau eu hunain wrth gefnogi datblygiad ac ymarfer cydweithwyr.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Tachwedd 2024