Prosiect EOTAS - cwestiynau cyffredin am goed ar y safle
Rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin yn ymwneud â'r coed ar safle'r prosiect.
Ai'r bwriad gwreiddiol oedd cael gwared ar y coed ar y ffin ogleddol?
Pa amodau a roddwyd ar y datblygiad fel rhan o'r caniatâd cynllunio gwreiddiol?
Pam y bu angen cael gwared ar y coed ar y ffin ogleddol?
Oes cynllun i blannu coed newydd ar y ffin ogleddol?
Sut caiff ffin y datblygiad ei diogelu?
Ble mae'r canclwm ar y safle ar hyn o bryd a beth yw'r cynllun rheoli i'w ddiwreiddio?
Pam y mae peiriannau malu coed yn cael eu defnyddio ar y safle?
Oes perygl y bydd y canclwm yn ymledu oherwydd eich bod yn defnyddio peiriant malu coed?
Oes unrhyw gynlluniau i osod CCTV ar y safle ac a fydd hwn yn dangos tir cyfagoes?
Ai'r bwriad gwreiddiol oedd cael gwared ar y coed ar y ffin ogleddol?
Na, roedd y coed yr ardal hon yn sefydledig ac nid oedd eu presenoldeb yn cael effaith andwyol ar ddatblygiad dylunio'r adeilad, felly nid oedd unrhyw reswm yn ystod y camau cynllunio cynnar i bryderu am y coed nac awgrymu y dylid cael gwared arnynt.
Pa amodau a roddwyd ar y datblygiad fel rhan o'r caniatâd cynllunio gwreiddiol? Rhif Cais Cynllunio 2007/2665.
Amod 6: Cyflwynir cynllun gwarchod coed i'r Adran Gynllunio a rhoddir yr awgrymiadau ar waith yn unol â'r cynllun.
Amod 20: Cyflwynir cynllun sy'n manylu ar ddiwreiddio canclwm Japan i'r Adran Gynllunio a gymeradwyir yn ysgrifenedig ac yna rhoddir y cynllun hwnnw ar waith.
Pam y bu angen cael gwared ar y coed ar y ffin ogleddol?
Mae llawer iawn o ganclwm i'r gogledd-ddwyrain o'r safle y mae angen cael gwared arno er mwyn symud ymlaen â'r gwaith parhaol, sy'n cynnwys ffyrdd, waliau cynnal, ffensys a thirlunio.
Bydd angen i'r contractwr gloddio trwy beli gwreiddiau'r coed ar y llethr gogleddol i gael gwared ar y canclwm. Pe bai'r gwaith hwn yn cael ei wneud â'r coed ar eu huchder gwreiddiol, byddai wedi cael effaith sylweddol ac andwyol ar eu sefydlogrwydd a gallai hynny gydag amser arwain at ladd y coed neu, yn fwy tebygol, ganiatáu i'r coed gael eu chwythu drosodd naill ai ar y cae cyfagos neu ar dai cyfagos. Byddai hyn yn amlwg yn risg diogelwch annerbyniol i'r tîm adeiladu, defnyddwyr yr ysgol a'r cymdogion yn y tymor byr a'r tymor hir.
Trwy brysgoedio'r coed i'r craidd disgyrchiant, maent yn cael eu lleihau'n sylweddol, sy'n golygu na fydd y tarfu ar beli'r gwreiddiau'n effeithio ar sefydlogrwydd y coed. Er eglurder, bydd angen i'r contractwr gloddio trwy beli gwreiddiau'r coed o hyd, ond mae'r risg a'r effeithiau o wneud hynny'n llawer is.
Oes cynllun i blannu coed newydd ar y ffin ogleddol?
Oes, caiff 19 o goed newydd eu plannu ar y ffin ogleddol yn ogystal â 10 rhywogaeth wahanol yn y gwrychoedd i hyrwyddo gwelliant ecolegol da, a chaiff cyll a drain gwynion eu cynnwys i hybu tyfiant gyflym. Bydd y 19 o goed yn cynnwys coed safonol trwm a choed pluog a chânt eu gosod i sgrinio'r Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD), heb ennill ar gartrefu neu erddi.
Adolygwyd y cynllun tirlunio mewn sesiwn adolygu bellach gyda Chynghorwyr y Ward ar 12 Mehefin 2020, a chafwyd ymateb da i'r cynllun. Bydd angen caniatâd y Swyddog Cynllunio ar gyfer dyluniad yn awr.
Sut caiff ffin y datblygiad ei diogelu?
Rhaid i bob datblygiad a gyflawnir gan yr awdurdod lleol gydymffurfio â Diogelu drwy Ddylunio, sef safon diogelwch a gymeradwyir gan yr heddlu. Bydd ffens 2.4m o uchder yn mynd o gwmpas ffin yr UCD. Caiff y ffens hon ei gosod ar waelod y llethr i fwyafu'r diogelwch a lleihau gwelededd y ffens o'r tai cyfagos. Ni fydd y llinell o goed yn rhan o ffin ddiogel yr UCD.
Ble mae'r canclwm ar y safle ar hyn o bryd a beth yw'r cynllun rheoli i'w ddiwreiddio?
Mae canclwm o fewn ffiniau'r datblygiad newydd ac ar safle Tŷ'r Cocyd. Bydd Adran Parciau Cyngor Abertawe'n ymgymryd â'r gwaith ar safle Tŷ'r Cocyd. Bydd angen cyfathrebu ymhellach â'r preswylwyr ynghylch trin y canclwm, a all fod wedi ymledu y tu hwnt i dir y cyngor.
Pam y mae peiriannau malu coed yn cael eu defnyddio ar y safle?
Lle bo'n bosib, mae'r boncyffion a dorrwyd wedi'u pentyrru i hybu gwelliant ecolegol trwy greu cynefinoedd. Mae'r canghennau a oedd yn rhy fach i'w pentyrru wedi cael eu hasglodi ar y safle, sy'n ddull cydnabyddedig o weithio wrth gynnal coed a gwrychoedd.
Oes perygl y bydd y canclwm yn ymledu oherwydd eich bod yn defnyddio peiriant malu coed?
Ni roddwyd unrhyw ganclwm drwy'r peiriant malu coed.
Dadlygrwyd y planhigyn yn y mannau lle gwnaed gwaith yn yr ardal hon.
Bydd yr ardal o ganclwm sy'n effeithio ar y gwaith parhaus ar y safle'n cael ei chloddio a gwaredir y planhigyn oddi ar y safle, a bydd unrhyw ganclwm sydd ar ôl ar y safle'n destun rhaglen driniaeth.
Mae arbenigwyr canclwm y contractwyr wedi cynnal arolwg pellach yn ddiweddar yn yr ardal honno ar y safle i gadarnhau faint o ganclwm sydd yno a bydd gwaith i waredu'r canclwm yn digwydd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 15 Gorffennaf 2020.
Oes unrhyw gynlluniau i osod CCTV ar y safle ac a fydd hwn yn dangos tir cyfagoes?
Caiff camerâu CCTV eu gosod yn ardaloedd awyr agored y safle a byddant yn ffilmio holl ardal yr UCD, ond bydd y camerâu'n canolbwyntio ar safle'r UCD a'i ffin.