Ffotograffiaeth briodas mewn parciau a mannau agored
Gallwch wneud cais i gael tynnu eich lluniau priodas yn rhai o'n parciau a'n mannau agored hardd.
Mae gan Abertawe barciau a mannau gwyrdd hardd a fydd yn sicrhau bod eich diwrnod yn un arbennig iawn ac yn darparu cefndir syfrdanol ac unigryw ar gyfer lluniau diwrnod eich priodas.
Os ydych chi'n bwriadu tynnu lluniau o ddiwrnod eich priodas yn un o'n parciau neu'n mannau agored, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais isod, gan fod angen caniatâd i dynnu lluniau priodas ar unrhyw dir y mae Cyngor Abertawe'n berchen arno neu'n ei reoli.
Bydd angen talu'r ffi ymgeisio, sef £35 ynghyd â TAW ar ôl i'ch cais gael ei gymeradwyo. Er mwyn llogi tir y cyngor, bydd yn ofynnol i chi lofnodi cytundeb indemniad ac rydym yn argymell eich bod yn prynu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
Sylwer: Ni ddylid cadarnhau eich dyddiad/amser/lleoliad arfaethedig nes eich bod wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan y cyngor.
Cais am ffotograffiaeth priodasau Cais am ffotograffiaeth priodasau
Mae rhai o'n lleoliadau mwyaf poblogaidd ar gyfer ffotograffiaeth priodasau yn cynnwys y canlynol
- Cabanau traeth, Bae Langland
- Gerddi Botaneg, Parc Singleton
- Bae Bracelet
- Parc Brynmill
- Bae Caswell
- Gerddi Clun
- Parc Cwmdoncyn
- Theatr y Grand
- Parc Treforys
- Traeth a slip y Mwmbwls
- Traeth Llangynydd
- Castell Ystumllwynarth
- Barc Llewellyn
- Parc Ravenhill
- Traeth Rhosili
- Parc Singleton
- Amgueddfa Abertawe
- Bae y Tri Chlogwyn