Trefnu digwyddiad a defnyddio mannau agored
Mae Abertawe'n croesawu ac yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a gallwn eu cefnogi mewn sawl ffordd wahanol.
Dyluniwyd y canlynol er mwyn eich helpu drwy'r broses ddigwyddiadau, o'r syniadau cychwynnol hyd at gyflwyno digwyddiad llwyddiannus, yn ogystal â gwybodaeth am ddefnyddio mannau agored y cyngor, trefnu ffotograffydd ar gyfer priodas yn ein parciau a gweithio gyda ni.
Trefnu digwyddiad yn Abertawe
Os ydych yn trefnu digwyddiad i'w gynnal ar dir y cyngor neu dir preifat, rhaid i chi sicrhau bod gennych ganiatâd i wneud hynny a dilyn y cyngor ar y tudalennau hyn.
Arweiniad i ddigwyddiadau cymunedol diogel a llwyddiannus
Ysgrifennwyd yr arweiniad hwn i ddarparu cyngor sylfaenol i drefnwyr digwyddiadau ar ystyriaethau amrywiol y dylid eu cynnwys yn y broses o gynllunio digwyddiad.
Cau ffordd ar gyfer digwyddiad
Os ydych yn bwriadu cynnal parti stryd neu ddigwyddiad tebyg, efallai y byddwch yn penderfynu cau'r ffordd am resymau diogelwch.
Trefnu parti stryd
Gall cynnal parti stryd fod yn gyfle i ffrindiau a chymdogion ddod ynghyd a dathlu achlysur arbennig gan gynnwys pen-blwyddi a digwyddiadau nodedig.
Marchnata digwyddiadau
Mae rhywbeth anhygoel yn digwydd yn ein dinas bob dydd, p'un a oes gennych ddiddordeb mewn cerddoriaeth, celf, bwyd neu hwyl yn yr awyr agored. Mae'r Tîm Gwasanaethau Diwylliannol yn cefnogi'r digwyddiadau hyn pryd bynnag y bo modd drwy ei lwyfannau marchnata Dewch i Fae Abertawe a Joio Bae Abertawe.
Arlwyo a stondinau masnach ar gyfer digwyddiadau
Oes gennych chi uned fwyd neu arlwyo, ydych chi'n berchen ar stondin masnach neu ydych chi'n gyflenwr ar gyfer y diwydiant ac am ddod i neu gefnogi digwyddiadau yn Abertawe?
Trefnu digwyddiad a defnyddio mannau agored
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fusnesau, unigolion neu grwpiau wedi'u trefnu i ddefnyddio mannau agored y cyngor i gynnal eu dosbarthiadau/grwpiau.
Ffotograffiaeth briodas mewn parciau a mannau agored
Gallwch wneud cais i gael tynnu eich lluniau priodas yn rhai o'n parciau a'n mannau agored hardd.
Cau ffyrdd ar gyfer digwyddiadau arbennig
Gorchmynion ar gyfer cau ffyrdd am hyd at dridiau, er mwyn cynnal digwyddiadau arbennig e.e. digwyddiadau rhedeg.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2021