Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect Angori Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir

Yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol, bydd y prosiect angori Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi adfywio trefi a phentrefi ar draws y sir, ac yn ategu at yr arian sydd eisoes ar gael trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Bydd y cynlluniau grant canlynol ar gael:

Prosiect Adeileddau Hanesyddol a Chronfa Dichonoldeb

Grantiau o £5,000 hyd at £450,000 i hwyluso prosiectau neu astudiaethau dichonoldeb a fydd yn golygu bod adeileddau hanesyddol rhestredig yn cael eu defnyddio eto at ddibenion buddiol. Bydd angen i'r holl gynlluniau gael eu cwblhau erbyn mis Rhagfyr 2024, felly bydd angen i brosiectau sy'n gofyn am gyllid grant mwy fod ar gam 3 RIBA o leiaf i wneud cais. Mae'n rhaid i ddefnydd terfynol o'r adeilad gynnwys arwynebedd llawr masnachol. Ni fydd cynlluniau preswyl yn unig a chynlluniau sy'n creu llety i fyfyrwyr yn gymwys. Bydd hyd at 100% o gyllid ar gael i gynlluniau cymunedol neu a arweinir gan yr awdurdod lleol, ond byddai arian cyfatebol yn fanteisiol. Bydd hyd at 70% o gyllid ar gael i ymgeiswyr o'r sector preifat sy'n destun rheolau Rheoli Cymorthdaliadau a thystiolaeth o fwlch dichonoldeb.

Bellach ar gau (Hydref 2023)

Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir

Grantiau cyfalaf gwerth hyd at £30,000 i gefnogi prosiectau creu lleoedd yn y sir ehangach, y tu allan i ganol y ddinas. Caiff canolfannau masnachol a chanolfannau ardal eu blaenoriaethu dros leoliadau eraill. Bydd y grant yn darparu cyllid ar gyfer adnewyddu eiddo masnachol gwag; gwelliannau i flaenau siopau (Grantiau Gwella Busnes); isadeiledd gwyrdd a phrosiectau man gwyrdd; cynlluniau teithio llesol ar raddfa fach a mannau cyhoeddus. Bydd deiliaid neu berchnogion eiddo masnachol, ymddiriedaethau a gyfansoddwyd yn gyfreithiol a chanddynt hanes da, yr awdurdod lleol a chynghorau tref/cymuned yn gymwys i wneud cais. Mae hyd at 70% o gyllid ar gael sy'n destun rheolau rheoli cymorthdaliadau.

Bellach ar gau (Ebrill 2024)

Yn ogystal â'r cynlluniau arian grant bydd y Prosiect Angori Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir hefyd yn darparu'r canlynol:

Gwelliannau ar raddfa fach i Bentrefi a Chanolau Trefi: arweiniodd yr awdurdod lleol welliannau glasu/isadeiledd gwyrdd a mannau cyhoeddus mewn trefi a phentrefi yn y sir. 

Gweithgareddau adfywio a arweinir gan dreftadaeth: gweithgareddau i gynyddu nifer yr ymwelwyr a chefnogi busnesau presennol mewn canolfannau ardal trwy gefnogaeth barhaus ar gyfer ymgyrchoedd Siopa'n Lleol a digwyddiadau lleol fel y Ffair Nadolig Fictoraidd yn Nhreforys. 

Llwybrau Treftadaeth - arian i gomisiynu ap ffonau clyfar a fyddai'n cynnig teithiau cerdded tywys ar lwybrau treftadaeth. 

Mannau Dros Dro: arian i gomisiynu cyflwyno prosiect mannau dros dro a fyddai'n defnyddio eiddo masnachol gwag yng nghanol y ddinas a chanolfannau ardal i ddarparu lle ar gyfer busnesau newydd i dreialu presenoldeb ar y stryd fawr am gost isel, a/neu gyflwyno gweithgareddau dros dro er mwyn ychwanegu bywyd a chynyddu nifer yr ymwelwyr i gefnogi busnesau sydd eisoes yn bodoli. 

Cyllido torfol: llwyfan cyllido torfol er mwyn galluogi grwpiau cymunedol lleol i godi arian ar gyfer prosiectau mewn cymunedau lleol ar draws Abertawe.

Darganfyddwch ragor am Gyllidol Torfol Abertawe a sut i gyflwyno cais am gyllid Cyllido torfol Abertawe

Astudiaethau Dichonoldeb Strategol: arian i gomisiynu astudiaethau dichonoldeb su'n cefnogi blaenoriaethau adfywio strategol ar draws Dinas a Sir Abertawe. 

Close Dewis iaith