Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin - Prosiectau angori

Mae Cyngor Abertawe yn cynnal chwech prosiectau 'angori' ar themâu allweddol y rhaglen sy'n cyd-fynd â strategaethau corfforaethol a phartneriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys amrywiaeth o fesurau cymorth, gweithgareddau wedi'u comisiynu a chynlluniau grant trydydd parti.

Rhaglen Angori Cyflogadwyedd

Lansiodd Cyngor Abertawe Raglen Angori Cyflogadwyedd newydd, Llwybrau at Waith dan flaenoriaeth Pobl a Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Prosiect Angori Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir

Yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol, bydd y prosiect angori Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi adfywio trefi a phentrefi ar draws y sir, ac yn ategu at yr arian sydd eisoes ar gael trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Prosiect Angori Cefnogi Cymunedau

Cyllid grant ar gyfer prosiectau cymunedol/trydydd sector.

Y Fenter Angori Diwylliant a Thwristiaeth

Mae Abertawe yn gyrchfan arfordirol nodedig sy'n llawn creadigrwydd, yn gyforiog o hanes ac wedi'i amgylchynu gan harddwch naturiol. Mae'r fenter Angori Diwylliant a Thwristiaeth yn ymhelaethu ar flaenoriaethau strategol presennol a'i nod yw rhoi hwb i gyfoeth diwylliannol Abertawe, ei heconomi greadigol a'r sector twristiaeth.

Prosiect Angori Gwledig

Olynydd-brosiect i'r Rhaglen Datblygu Gwledig sy'n darparu cyllid ar gyfer datblygu cymunedol gwledig, gweithgareddau wedi'u seilio ar y newid yn yr hinsawdd a sero net a gweithgareddau busnes gwledig.

Prosiect Angori Cefnogi Busnes

Helpu busnesau i ddechrau a llwyddo trwy ddarparu arian grant. Yn ogystal â hyn, bydd yr angor hwn hefyd yn darparu gweithgareddau cefnogi busnes ac yn cefnogi busnesau i gyflawni carbon sero net, yn ogystal â chynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas trwy gynnal digwyddiadau.