Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Fenter Angori Diwylliant a Thwristiaeth

Mae Abertawe yn gyrchfan arfordirol nodedig sy'n llawn creadigrwydd, yn gyforiog o hanes ac wedi'i amgylchynu gan harddwch naturiol. Mae'r fenter Angori Diwylliant a Thwristiaeth yn ymhelaethu ar flaenoriaethau strategol presennol a'i nod yw rhoi hwb i gyfoeth diwylliannol Abertawe, ei heconomi greadigol a'r sector twristiaeth.

Drwy'r fenter hon, rydym yn ceisio hyrwyddo lles cymunedol, meithrin cadernid economaidd a sicrhau dyfodol cyffrous i breswylwyr Abertawe a'r sawl sy'n ymweld â hi.

1. Cryfhau'r economi greadigol

Abertawe Greadigol 

Dod â phileri allweddol y clwstwr creadigol ynghyd â gweledigaeth gyffredin ar gyfer cryfhau economi greadigol Abertawe. Y ffocws fydd pleidio'r sector yn Abertawe, datblygu busnes a thalent, arloesedd, cyllid a buddsoddiad a mynediad at farchnadoedd. Bydd sefydlu Rhwydwaith Abertawe Greadigol yn gam cychwynnol strategaeth Abertawe Greadigol, gan gysylltu â chymuned o bobl broffesiynol wrth bleidio ac arddangos cynnig unigryw Abertawe.

Penwythnos y Celfyddydau a Diwylliant Abertawe

Cynhelir Penwythnos y Celfyddydau Abertawe, sy'n cynnwys tri digwyddiad gwahanol, o 4 i 6 Hydref 2024, yn ardal ddiwylliannol Abertawe.

Bydd y penwythnos yn cynnwys: 

  1. Rydym i gyd yn artistiaid: arddangosfeydd a gweithdai'r celfyddydau gweledol gydag orielau ar hyd y llwybr o'r môr i'r orsaf (o Orsaf Drenau Abertawe i'r Marina), lle cynhelir amrywiaeth o arddangosfeydd a gweithdai'r celfyddydau gweledol a fydd yn cynnig cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr ymgysylltu ag artistiaid lleol a rhyngwladol.
  2. 'Olympic Fusion': perfformiad a ganmolwyd yn rhyngwladol gan y Brodyr Matsena i gynnwys cyfuniad o ddawns, chwaraeon a ffilm. Bydd y perfformiad hwn yn cynnwys ymgysylltu â'r gymuned a chwaraeon.
  3. Gŵyl Ymylol Abertawe: Gŵyl Ymylol flynyddol Abertawe gyda phenwythnos yn llawn cerddoriaeth a chomedi fyw sy'n ychwanegu dimensiwn arall at gynigion diwylliannol y penwythnos.

Uchelgais Grand: Strategaeth Cynyrchiadau Theatr y Grand

Comisiynwyd Uchelgais Grand i barhau â'i waith i gynhyrchu cyfres o gynyrchiadau diddorol a'r nod o ehangu'r gynulleidfa yn Theatr y Grand wrth wneud y sector perfformiadau'n fwy hygyrch i gymunedau amrywiol Abertawe.

Strategaeth diwylliannol

Datblygu a gweithredu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cynnig diwylliannol integredig, gan gynnwys y celfyddydau a diwylliant, y diwydiannau creadigol, chwaraeon a hamdden, treftadaeth a thwristiaeth yn ein dinas a'n sir. Bydd y cynllun hwn yn cynnwys gosod nodau clir, nodi blaenoriaethau a mentrau arfaethedig â'r bwriad o hyrwyddo datblygiad diwylliannol, amrywiaeth a chynaliadwyedd i wella cydlyniant cymunedol, bywiogrwydd economaidd ac ansawdd bywyd cyffredinol i aelodau ein cymuned.

Strategaeth celfyddydau cyhoeddus SA1

Bydd y strategaeth yn gynllun gweithredu ar gyfer cyfoethogi ardal SA1 â phrofiadau artistig i gynnwys celfweithiau parhaol a dros dro. Drwy ddefnyddio mannau cyhoeddus, bydd y strategaeth yn meithrin amgylchedd dynamig sy'n dathlu creadigrwydd ac yn gwella ansawdd bywyd i breswylwyr ac ymwelwyr fel y'i gilydd.

2. Gwella Abertawe fel lle dymunol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef

  1. Marchnata Bae Abertawe fel lle i ymweld ag ef drwy ymgyrchoedd marchnata strategol ar hyd coridor yr M4 ac mewn canolfannau poblogaeth allweddol. Cefnogir hyn gan wefan 'Croeso Bae Abertawe' newydd i hyrwyddo Bae Abertawe, ei leoliadau, digwyddiadau a busnesau twristiaeth.
  2. Comisiynu gwelliannau penodol i leoliadau allweddol i ymwelwyr.
  3. Gweithio gyda rhanddeiliaid i gwblhau astudiaethau dichonoldeb strategol a fydd yn darparu cynlluniau tymor hir, wedi'u costio a'u blaenoriaethu ar gyfer gwelliannau posib i'n hisadeiledd twristiaeth, digwyddiadau a diwylliannol.
  4. Buddsoddi mewn gwella effeithlonrwydd ynni cyfleusterau hamdden allweddo.

3. Cefnogi cymunedau lleol

Drwy ymgysylltu â hwy a'u hannog i fod yn gyfrifol am asedau fel canolfannau cymunedol, parciau ac ystafelloedd newid; deall yr hyn sydd ei angen fel y gall hyn ddigwydd; a buddsoddi yn eu cynaliadwyedd tymor hir. 

Creu cyfleoedd i wirfoddoli'n lleol a darparu cefnogaeth sy'n caniatáu i'r gwirfoddolwyr hynny ddatblygu yn y rolau maent yn ymgymryd â hwy.

Ymholiadau: steve.hopkins1@abertawe.gov.uk neu andy.edwards@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith