Gostyngiad elusennol i ardrethi busnes
Mae elusennau a sefydliadau nid er elw yn gymwys i dderbyn gostyngiad o hyd at 100% ar eu hardrethi busnes.
Elusennau
Gall elusennau cofrestredig a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol cofrestredig gyflwyno cais am ostyngiad elusennol, sy'n ostyngiad o 80% gorfodol ar eich ardrethi.
Hefyd, mae gan y cyngor y disgresiwn i dalu tuag at yr 20% sy'n weddill o'ch bil trethi gyda chymorth trethi dewisol.
Sefydliadau nid er elw
Caiff sefydliadau nid er elw wneud cais am gymorth trethi dewisol a chael cymorth hyd at 100% ar eu bil trethi. Bydd lefel y cymorth a roddir yn dibynnu ar fath eich sefydliad.
Y math o sefydliadau a gaiff elwa ar hyn yw:
- clybiau a meysydd chwaraeon amatur
- canolfannau a neuaddau cymunedol
- canolfannau cymunedol lles ac addysgol
- sefydliadau ieuenctid
- grwpiau celfyddydau, cerddoriaeth, crefyddol, dyngarol
Cymorth trethi dewisol i elusennau a sefydliadau eraill
Sut i gyflwyno cais
Cais am ryddhad ardrethi busnes ar gyfer elusennau (PDF)
[417KB]
(mae'r ffurflen hon ar gyfer elusennau ac yn cynnwys cymorth elusennol gorfodol a dewisol)
Cais am gymorth trethi ar gyfer sefydliadau chwaraeon (PDF) [380KB]
Beth i'w anfon atom i gefnogi'ch cais am gymorth
Beth bynnag yw math eich sefydliad, pan anfonwch eich ffurflen gais atom, mae'n rhaid i chi gynnwys:
- copi o weithred yr ymddiriedolaeth neu brint o gyfansoddiad ysgrifenedig y sefydliad
- copi o'r cyfrifon diweddaraf oni bai eu bod ar gael ar-lein
- datganiad o fanylion y gweithgarwch a'r gwaith a wneir yn yr adeilad
Dychwelwch eich cais a'ch dogfennau ategol i'r:
Pennaeth Cyllid a Chyflwyno, Dinas a Sir Abertawe, Is-adran Ardrethi Busnes, Canolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN.