Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Urddas Mislif yn y Gymuned 2024 / 2025

Mae cyllid ar gael gan Gyngor Abertawe drwy Grant Urddas Mislif yn y gymuned Llywodraeth Cymru, i sicrhau mynediad at gynhyrchion mislif, am ddim mewn modd hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol posib.

Bydd cynhyrchion mislif ar gael i'r rheini sy'n cael mislif, gan flaenoriaethu'r rheini o aelwydydd incwm isel a chymunedau lle nad ydynt yn cael eu gwasanaethu digon.

Pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais?

Cyrff cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu wirfoddol, y rheini ag amcanion elusennol a sefydliadau nid er elw preifat.

Meini prawf y gronfa

  • Bydd cynhyrchion mislif ar gael i fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif, gan flaenoriaethu'r rheini o aelwydydd incwm isel, am ddim mewn modd hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol posib.
  • Rhoddir blaenoriaeth i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael i gymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu digon, gan gynnwys y canlynol:
    • Cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifioedd Ethnig
    • Sipsiwn, Roma a Theithwyr
    • Ceiswyr lloches a ffoaduriaid
    • Pobl anabl
    • Cymunedau LHDTC+
    • Dioddefwyr cam-drin domestig
  • Mae'n rhaid i o leiaf 75% o'r cynhyrchion islif a brynir fod yn ecogyfeillgar, e.e. cynhyrchion ailddefnyddiadwy a/neu gynhyrchion heb blastig: Cynhyrchion mislif ecogyfeillgar

Adnoddau defnyddiol:

Cymru sy'n falch o'r mislif Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cymru-syn-falch-or-mislif

Mislif Fi: https://mislif-fi.cymru/

Addysg Cymru: Chwalu mythau am y mislif: https://hwb.gov.wales/repository/resource/686e315c-2f6c-428e-8425-2740bcf3da74/en

Gwariant cymwys a gwariant nad yw'n gymwys

Gwariant cymwys:

  • Cynhyrchion mislif;
  • bagiau gwaredu cynhyrchion mislif;
  • pyrsiau cario cynhyrchion / bagiau dwrglos i'w defnyddio gyda'r cynhyrchion ailddefnyddiadwy;
  • dillad i'w darparu os nad oes gan berson digartref ddillad glân ac mae gwaed o'r mislif wedi staenio / baeddu ei ddillad;
  • peiriannau dosbarthu cynhyrchion mislif;
  • Costau sy'n gysylltiedig â dosbarthu cynhyrchion i dderbynyddion, er enghraifft, postio i gyfeiriad cartref;
  • Hancesi sychu - gellir cynnig y rhain os bydd rhywun oddi cartref ac mae eu hangen at ddibenion hylendid yn unig. Holl hancesi - p'un a ydynt wedi'u labeli fel rhai bioddiraddadwy, rhai y gellir eu rhoi yn y tŷ bach neu rai ecogyfeillgar, dylid cael gwared arnynt yn y bin gwastraff cyffredinol. Ni ddylech fyth fflysio hancesi sychu.
  • Cyfathrebu a marchnata nad ydynt yn cael eu cynhyrchu'n ganolog fel gwasanaethau hysbysebu lleol, er enghraifft, tanysgrifiadau. Dylech osgoi'r angen am adnoddau wedi'u hargraffu lle bynnag y bo modd. Pwysig: Mae angen cytuno ar unrhyw gostau sy'n ymwneud â chyfathrebu a marchnata ymlaen llaw.
  • Hyfforddiant / addygs yn y gymuned (rhaid darparu cyfle i ddefnyddwyr fynd â chynhyrchion mislif adref gyda nhw i roi cynnig arnynt. I wneud ymholiad am gyfleoedd hyfforddiant lleol, cysylltwch â STOPP: stopp.campaign@gmail.com

Gwariant nad yw'n gymwys:

  • Costau storio ar gyfer cadw cynhyrchion mislif.
  • Poteli dŵr poeth, blancedi a gofal croen ar gyfer pobl ddigartref.
  • Cynhyrchion golchi cyffredinol gan gynnwys gel cawod, sebon, diaroglydd a chynhyrchion ar gyfer dannedd.
  • Hancesi hylendid nad ydynt yn ecogyfeillgar.
  • Biniau gwaredu cynhyrchion mislif.

Lefelau ariannu

Ar y cyfan, mae £65,000 o arian cyfalaf o'r grant Urddas Mislif yn y Gymuned ar gael ar gyfer Abertawe. Caiff pob cais ei asesu ar sail ei haeddiannau, fodd bynnag, o ystyried niferoedd blaenorol sefydliadau a gefnogwyd, rydym yn disgwyl ceisiadau am gyllid gwerth hyd at £2,000.

Os hoffech wneud cais am swm mwy o arian, neu os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno, e-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2025.

 

Dyddiadau cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun, 28 Gorffennaf 2024.

Gwnewch gais ar gyfer Grant Urddas y Misglwyf yn y Gymuned

Gwnewch gais ar-lein ar gyfer Grant Urddas y Misglwyf yn y Gymuned.

Cynhyrchion mislif ecogyfeillgar

Nid yw Llywodraeth Cymru na Chyngor Abertawe'n cefnogi unrhyw gynhyrchion neu gwmnïau penodol. Fodd bynnag, rydym wedi darparu rhestr o gwmnïau er gwybodaeth i chi sy'n nodi lle gallwch gael gafael ar gynhyrchion mislif ecogyfeillgar priodol.
Close Dewis iaith