Helpwch i arwain Taith Hawliau Dynol Abertawe
Mae angen pobl i helpu i lywio ac arwain y cam nesaf o daith Dinas Hawliau Dynol Abertawe.


Yr amser hwn y llynedd datganodd Gyngor Abertawe a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe statws Dinas Hawliau Dynol.
Mae'n golygu bod partneriaid yn croesawu gweledigaeth o gymunedau bywiog, amrywiol, teg a diogel sydd wedi'u hadeiladu ar sylfeini Hawliau Dynol Cyffredin, lle mae pawb yn cyfrif.
Maent hefyd yn gweithio i roi ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau dynol ar waith ym mhopeth y maent yn ei wneud.
Mae panel rhanddeiliad yn cael ei sefydlu ac mae angen gwirfoddolwyr i helpu i sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â blaenoriaethau a nodwyd gan y cyhoedd, bod straeon da yn cael eu rhannu a bod y meysydd y mae angen eu gwella'n cael eu gwella.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru diddordeb mewn ymuno â'r panel rhanddeiliad, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/hawliaudynoleinpenderfyniadau