Gwybodaeth am y Gwasanaeth Rheoli Argyfyngau
Mae gennym ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 a deddfwriaeth arall i ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.
Rydym yn cydweithio â phartneriaid proffesiynol sefydledig a ddynodwyd fel ymatebwyr categori 1 a 2 (e.e. y gwasanaethau brys, adrannau'r llywodraeth ac awdurdodau lleol eraill) a sefydliadau eraill a nodwyd yn y Ddeddf er mwyn mynd i'r afael â phob agwedd ar y polisi mewn perthynas â'r canlynol:
- asesiad risg cymunedol
- cynllunio ar gyfer argyfyngau
- ymateb i argyfyngau
- rheoli parhad busnes (gan gynnwys hyrwyddo cyngor am reoli parhad busnes i fusnesau lleol a'r sector gwirfoddol)
- gwybodaeth i'r cyhoedd am asesiadau risg a chynlluniau
- rhoi trefniadau mewn lle i rybuddio a rhoi gwybod i'r cyngor
Mae ein gwaith hefyd yn cynnwys profi cynlluniau rheoli argyfyngau er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben. Rydym yn cymryd rhan mewn ymarferion byw ac ymarferion wyneb bwrdd, ac yn eu trefnu, sy'n dilyn sefyllfaoedd posib a allai effeithio ar Abertawe, ei chymunedau a darparu gwasanaethau'r cyngor.
Rydym yn gweithio gyda llawer o bartneriaid, gan gynnwys:
- Heddlu De Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
- Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru
- Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
- Y Swyddfa Dywydd
- Y Groes Goch Brydeinig
- cwmnïau cyfleustodau
Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth galw allan brys 24 awr.
Deddfwriaeth
Er mwyn caniatáu i ni gynnal ein dyletswyddau'n unol â deddfwriaeth statudol, rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau ar waith a'u bod wedi'u profi yn yr achos bod y peth gwaethaf yn digwydd.
Isod ceir y pedwar rheoliad statudol penodol sy'n disgrifio'r dyletswyddau y mae'n rhaid i ni lynu wrthynt:
- Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (Yn agor ffenestr newydd)
- Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015 (COMAH) (Yn agor ffenestr newydd)
- Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996 (Yn agor ffenestr newydd)
- Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd am Argyfwng a Gwybodaeth i'r Cyhoedd) 2001 (REPPIR) (Yn agor ffenestr newydd)