Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb sector cyhoeddus newydd arfaethedig - cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin am y cynnig ar gyfer hwb sector cyhoeddus newydd.

Pam y mae angen hwb sector cyhoeddus yng nghanol y ddinas?

Mae angen i fwy o bobl fyw a gweithio yng nghanol y ddinas i gynhyrchu nifer yr ymwelwyr a'r gwariant sydd eu hangen i gefnogi masnachwyr presennol a denu siopau newydd a busnesau eraill yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn diogelu swyddi presennol ac yn helpu i greu swydd newydd i bobl leol.

Byddai datblygiad arfaethedig yr hwb sector cyhoeddus hefyd yn galluogi ailddatblygu safle'r Ganolfan Ddinesig ar lan y môr.

Pwy fyddai'n gweithio yn yr hwb sector cyhoeddus?

Byddai'r datblygiad newydd arfaethedig yn weithle i rai o staff y Cyngor gan gynnwys staff nad ydynt yn ymdrin â'r cyhoedd sy'n gweithio yn y Ganolfan Ddinesig ar hyn o bryd.

Byddai'n agos i 1,000 o weithwyr yn gweithio yn yr adeilad newydd. Byddai hyn hefyd yn cynnwys gweithwyr o sefydliadau eraill y sector cyhoeddus a thenantiaid eraill.

Beth am staff sy'n ymdrin â'r cyhoedd sydd yn y Ganolfan Ddinesig ar hyn o bryd?

Byddant yn symud i hwb gwasanaethau cyhoeddus Y Storfa sy'n cael ei adeiladu nawr yn hen siop BHS ar Stryd Rhydychen.

Bydd Y Storfa yn gartref i wasanaethau fel prif lyfrgell gyhoeddus y ddinas a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn ogystal â gwasanaeth Gyrfa Cymru Abertawe a Chyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot.

Cyhoeddir rhagor o denantiaid Y Storfa yn y misoedd sy'n dod.

Onid yw staff y Cyngor yn symud i'r datblygiad swyddfeydd newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin?

Nac ydyn. Datblygiad ar gyfer tenantiaid y sector preifat yn unig yw hwnnw.

Mae trafodaethau cyn-gosod gyda nifer o denantiaid posib mewn perthynas â'r datblygiad hwn yn mynd rhagddynt yn dda, a disgwylir cyhoeddiadau'n fuan.

Mae cynigion ar gyfer dau lawr a hanner yn yr adeilad bellach yn fyw, ac mae cryn ddiddordeb yn yr holl leoedd eraill.

Ai'r hwb sector cyhoeddus yn unig sy'n cael ei gynnig ar gyfer hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant?

Na. Mae ein partneriaid adfywio, Urban Splash, yn gweithio ar gynllun cyffredinol ar gyfer y safle.

Unwaith y caiff y cynlluniau eu gorffen, cânt eu darparu i'r cyhoedd fel y gallant roi adborth arnynt.

Beth sy'n digwydd gyda'r Ganolfan Ddinesig?

Mae Urban Splash yn parhau i weithio ar gynigion manwl ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig. Bydd y cynigion yn cael cyhoeddusrwydd ac fe'u darperir i'r cyhoedd er mwyn iddynt roi adborth arnynt unwaith y cânt eu cwblhau.

A yw acwariwm yn dal i fod yn rhan o'r cynlluniau ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig?

Mae Urban Splash yn dal i archwilio'r syniad. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud a bydd unrhyw gynigion manwl a gyflwynir yn y dyfodol ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Pam nad yw'r Cyngor yn gorffen cynlluniau sy'n mynd rhagddynt cyn dechrau ar rai eraill?

Os caiff ei gymeradwyo, bydd adeiladu'r hwb sector cyhoeddus yn rhan o gam nesaf y gwaith gwerth £1b i drawsnewid canol y ddinas.

Byddai'n cael ei adeiladu ar ôl i gynlluniau eraill sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd gael eu gorffen. Mae hyn yn cynnwys gwaith yn y maes parcio aml-lawr ac unedau manwerthu ar Cupid Way fel rhan o gynllun Bae Copr.

A fydd man gwyrdd fel rhan o'r cynnig hwn ac ailddatblygiad cyffredinol hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant?

Bydd. Bydd llawer o wyrddni newydd a mannau cyhoeddus wedi'u tirlunio'n rhan o'r cynlluniau.

Beth am y planhigion a'r cyfleusterau eraill sydd eisoes yn hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant?

Roedd y planhigion a'r cyfleusterau fel y ffrâm ddringo sydd yno nawr bob amser yn fesur dros dro, wrth ddisgwyl i'r safle gael ei adfywio yn y tymor hwy.

Mae'r planhigion a'r ffrâm ddringo'n gludadwy felly byddant yn cael eu symud i ardal arall yng nghanol y ddinas yn y pen draw.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Gorffenaf 2024