Hwb Cyn-filwyr Abertawe
Lle Llesol Abertawe
Ar agor ddydd Sadwrn 21 Rhagfyr (parti preifat o 12 ganol dydd tan 4.00pm)
Ar agor ddydd Mawrth 24 Rhagfyr, o 10am tan ganol dydd
Ar agor ddydd Sadwrn 28 Rhagfyr, o 10am tan ganol dydd (pryd o fwyd ar y safle. Gwneir hyn mewn partneriaeth â Thŷ Matthew.)
Ar agor ddydd Mawrth 31 Ionawr, o 10.00am tan 1.00pm
Bydd Hwb Cyn-filwyr Abertawe'n symud i Christchurch, Neuadd Eglwys Garsiwn, 244 Oystermouth Road SA1 3TA ar 1 Ionawr 2025. Ni fyddwn yn gweithredu o San Helen mwyach.
Bydd Hwb Cyn-filwyr Abertawe'n cynnig pryd o fwyd ar y safle ddydd Sadwrn 4 Ionawr, o 10.00am tan 12.00pm, yn lleoliad newydd yr hwb (Christchurch (Neuadd Eglwys Garsiwn), 244 Oystermouth Road SA1 3TA). Gwneir hyn mewn partneriaeth â Thŷ Matthew.
Bydd gwasanaeth dros y ffôn ar gael pan fydd yr Hyb ar gau ac ar ôl dyddiau'r hyb tan 10.00pm ar ôl hynny. Mae croeso i chi adael neges. Gallwn gefnogi a chyfeirio os gallwn helpu o gwbl.
Ffoniwch 07916227411 neu 07894417590
Ar agor bob dydd Sadwrn 10.00am - 12.00pm, dydd Mawrth 10.00am - 1.00pm, ar gyfer brecwast (dydd Sadwrn), byrbrydau a sesiynau te a choffi.
Croeso cynnes i ystafell fawr gyda golygfa hardd o Fae Abertawe.
Mae ein hwb galw heibio yn cynnal boreau coffi lle gall cyn-filwyr sy'n agored i niwed a chyfranogwyr lleoedd diogel a chynnes ddod at ei gilydd mewn amgylchedd cyfforddus, heb fygythiad, sy'n caniatáu i'n gwirfoddolwyr arbenigol nodi'r bobl mwyaf diamddiffyn, gan gynnig strategaethau lles iddynt, a'u cyfeirio at therapïau a thriniaethau amgen.
- Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
- Mynedfa / lleoliad hygyrch
- Toiledau / toiledau hygyrch
- Mannau parcio ceir
- Gemau / gemau bwrdd
- Man awyr agored
- Mae lluniaeth ar gael
- mae te a choffi am ddim ar gael, a brecwast ar ddydd Sadwrn
- Dŵr yfed ar gael
- Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain
- Teledu
- Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
- mae'r Hwb yn gweithredu mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau lleol i ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl a lles a chyfeirio ar gyfer cyn-filwyr, eu teuluoedd a chyfranogwyr lleoedd diogel a chynnes.