James Arthur
Nos Iau 18 Gorffennaf Parc Singleton
![James Arthur](/image/17451/James-Arthur/standard.jpg?m=1719928331793)
Mae'r canwr/cyfansoddwr caneuon sydd wedi cyrraedd brig siartiau'r DU, James Arthur, wedi cyhoeddi ei fod yn dod â'i sioe haf i Abertawe'r haf nesaf, pan fydd yn dod i Barc Singleton ar 18 Gorffennaf, gyda gwesteion arbennig i'w cyhoeddi.
"Beth allai fod yn well na chanu fy nghaneuon yn yr awyr agored ym Mharc Singleton" gwena James Arthur, "I artist, does dim byd yn cymharu â bod yn gallu cysylltu â'ch cynulleidfa, yng ngoleuni'r lloer - mae'n dod ag awyrgylch gŵyl i'r perfformiad. Alla i ddim aros. Abertawe, dwi ar fy ffordd."
Gyda chefndir godidog Parc Singleton fel ei lwyfan, mae James yn addo noson anhygoel o ddawnsio a chaneuon byw dan sêr Cymru wrth iddo ddod a'r caneuon a gyrhaeddodd frig y siartiau i'r llwyfan byw. Wrth iddo ganu'r holl ffefrynnau gan gynnwys 'Impossible', 'Say You Won't Let Go' a 'You're Nobody Until Somebody Loves You', bydd ei gefnogwyr yn profi noson wedi'i rhannu â James Arthur a gwesteion arbennig, dan oleuni'r lloer, ac yn swatio yn harddwch tiroedd trawiadol Parc Singleton.