Mae'r llwyfan yn barod ar gyfer Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe
Mae'r llwyfan yn barod ar gyfer Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni.
Mae'r ŵyl a gynhelir o 15 i 19 Mehefin yn cael ei threfnu gan Gyngor Abertawe, a bydd yn cynnwys artistiaid o'r radd flaenaf ac arddulliau jazz amrywiol.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'r ŵyl yn addo bod yn ddathliad eithriadol o dalent, creadigrwydd a phŵer jazz."
Y gyfres o gyngherddau:
- Hoop - Band saith aelod penigamp sy'n cyfuno ffync, roc a jazz. 15 Mehefin, 8pm, The Garage, Uplands.
- Band Mawr Llawn Sêr Laurence Cottle - Laurence Cottle yw un o brif gerddorion jazz a threfnwyr cerddorol y DU. 16 Mehefin, 8pm, Theatr Dylan Thomas.
- Pedwarawd Jazz Sipsiwn Daniel John Martin - Mae Daniel John Martin, sy'n byw ym Mharis, yn un o brif gitaryddion jazz sipsiwn Ewrop. 17 Mehefin, 2.30pm, Theatr Dylan Thomas.
- The Coalminers - band saith aelod sy'n cyfuno jazz traddodiadol ag elfennau gwerin a blŵs. 17 Mehefin, 8pm, Theatr Dylan Thomas.
- Iain MacKenzie - canwr ac ysgrifennwr caneuon jazz o'r Alban sy'n cael ei ganmol am ei lais pwerus. 18 Mehefin, 2.30pm, Theatr Dylan Thomas.
- Bydd HHH a Mo Pleasure yn creu sain bwerus ac egnïol er mwyn ysgogi'r gynulleidfa i ddawnsio. 18 Mehefin, 8pm, Theatr Dylan Thomas.
Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys:
- Gweithdy Jazz Cerdd Abertawe - gweithdy prynhawn i gerddorion ifanc (Gradd 5) trwy garedigrwydd Cerdd Abertawe a'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol i Gymru, 17 Mehefin, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
- Mordaith Jazz Copper Jack - mordaith 90 munud ar afon Tawe gyda cherddoriaeth jazz fyw gan gerddorion lleol o fri. 17 Mehefin, 2.30pm, Deuawd Louis ac Ella. 18 Mehefin, 2.30pm, Triawd Hoss a Norcross
- Bonansa Canu Cyrn ar y Cyd - bydd disgyblion blwyddyn 3 yn cael y cyfle i ddathlu eu cyflawniadau a gwneud cerddoriaeth, gyda chyfeiliant band mawr beiddgar, ddydd Llun 19 Mehefin.
Bydd hefyd tua 30 o berfformiadau am ddim yn ystod y penwythnos, gyda doniau lleol ynghyd ag artistiaid o bell yn chwarae mewn lleoliadau fel The Swigg, The Pump House, gwesty The Queen's, Riverhouse, Gwesty Morgan's a'r Clwb Llafur.
Meddai ymgynghorydd artistig yr ŵyl, Dave Cottle, "Mae gennym gerddorion a bandiau'n dod i Abertawe o UDA ac Ewrop, ynghyd â llawer o'r ensembles jazz gorau.
Tocynnau: joiobaeabertawe.com
Llun: Daniel John Martin - y disgwylir iddo chwarae yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe.