Toglo gwelededd dewislen symudol

Achubwyr bywyd yr RNLI ar ddyletswydd ar benrhyn Gŵyr unwaith eto'r penwythnos hwn

​​​​​​​Bydd achubwyr bywyd yr RNLI a ariennir mewn partneriaeth â'r Cyngor yn ôl ar batrôl ar dri thraeth poblogaidd ym mhenrhyn Gŵyr ddydd Sadwrn yma.

Lifeguards at Langland

Lifeguards at Langland

Byddant ar batrôl ar draeth Langland, Bae Caswell a Bae y Tri Chlogwyn rhwng 10am a 6pm bob dydd yn ystod gwyliau ysgol y Pasg.

Meddai Vinny Vincent, goruchwyliwr achubwr bywydau arweiniol yr RNLI,"Rydym yn gyffrous i ddychwelyd i'r tri thraeth gwych hyn yng Ngŵyr."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae gennym arfordir o'r radd flaenaf - ac rydym am i breswylwyr ac ymwelwyr aros yn ddiogel. Mae ein cyllid ar gyfer achubwyr bywyd, a ddarperir gan elusen achub bywyd yr RNLI, yn un ffordd y gallwn amddiffyn pobl."

Meddai Aelod y Cabinet, Andrew Stevens, "Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos ag Achubwyr Bywydau medrus yr RNLI i sicrhau bod y pedwar traeth poblogaidd iawn hyn yn cael eu goruchwylio yn ystod y cyfnod prysuraf."

Anogir y rhai sy'n defnyddio traethau Abertawe eleni i wirio'r tywydd ac amodau'r môr ynghyd â gwefan yr RNLI i gael negeseuon diogelwch ar nofio mewn dŵr agored - www.bit.ly/OpenWaterRNLI

Close Dewis iaith