Marchnad Masnachwyr Ifanc
Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf, 10.00am - 4.30pm. Canol y ddinas.
![Young Traders Market heat winners 2024.](/image/18151/Young-Traders-Market-heat-winners-2024/standard.jpg?m=1721045427470)
Dewch i ganol y ddinas ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf ar gyfer diwrnod o adloniant byw a hwyl wrth i entrepreneuriaid ifanc gystadlu i ennill lle yn rownd derfynol Masnachwyr Ifanc y Farchnad NMTF.
Byddant yn profi eu sgiliau wrth iddynt gynnig bwyd a danteithion blasus, crefftau hyfryd ac anrhegion a wnaed â llaw!
Ariennir y digwyddiad hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Am raglen lawn a rhagor o wybodaeth, ewch i: http://www.swanseaindoormarket.co.uk/whats-on-2/young-traders-market-event/?lang=cy
![](/image/18151/Young-Traders-Market-heat-winners-2024/gi-responsive__100.jpg?m=1721045427470)