Toglo gwelededd dewislen symudol

Amy Goodwin a Chorfflu Cynorthwyol Byddin y Merched

Cipolwg ar gyfraniadau a chyfeillgarwch merched yn y Fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae casgliadau Archif Menywod Cymru a gedwir gennym yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth am gyfraniadau merched trwy gydol hanes Cymru. Ymhlith y casgliadau hyn mae trysorfa o gofnodion yn ymwneud ag Amy Goodwin, a wasanaethodd fel llyfrifydd gyda Chorfflu Cynorthwyol Byddin y Merched (WAAC). Mae'r casgliad hwn yn cynnwys ffotograffau, gohebiaeth, rhaglenni, cartwnau, tystysgrifau a phapurau swyddogol eraill sy'n dogfennu gwasanaeth Amy Goodwin adeg y rhyfel ac sy'n cynnig cipolwg gwerthfawr ar brofiadau nifer o ferched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wedi'i sefydlu ym mis Ionawr 1917, crëwyd y WAAC i harneisio sgiliau merched i gefnogi ymdrech y rhyfel. Roedd llywodraeth Prydain wedi oedi cyn gadael i ferched wneud tasgau milwrol traddodiadol, gan adlewyrchu'r gred gyffredinol nad oedd gan ferched y galluoedd a'r gwytnwch angenrheidiol. Roedd y penderfyniad i ddatblygu'r WAAC wedi'i ysgogi gan gyfraddau uchel o anafiadau ymhlith milwyr Byddin Prydain ar Ffrynt y Gorllewin. Trwy ryddhau dynion o rolau gweinyddol a rolau eraill nad oeddent yn ymwneud â brwydro, roedd y WAAC wedi sicrhau eu bod nhw'n cael eu lleoli ar y rheng flaen. Fe'i gelwid hefyd yn Gorfflu Cynorthwyol Byddin y Frenhines Mary (QMAAC) o fis Ebrill 1918, ac roedd y corfflu gwirfoddol yn darparu llwybr i ferched arloesol gyfrannu trwy wneud gwaith clerigol, dyletswyddau mecanyddol, gyrru a swyddi cymorth eraill. Dyma oedd yr achos cyntaf o ferched, heblaw nyrsys, yn cymryd rhan mewn rolau o fewn y Fyddin Brydeinig.

Gadawodd Amy Goodwin Ysgol Sul Annibynwyr Saesneg Cefn i ymuno â'r WAAC ym mis Chwefror 1918. Hyfforddodd ym Mharc Cinmel yng Ngogledd Cymru cyn cael ei hanfon i gefnogi Lluoedd Alldeithiol America (AEF) yn Bourges, Ffrainc. Roedd ei ffrindiau yn ei hadnabod fel 'Mickie' yn ystod ei chyfnod gyda'r sefydliad, ac roedd dyletswyddau Goodwin gyda Swyddfa Cofnodion Canolog yr AEF yn cynnwys cofnodi gweithgareddau dynion oedd yn gwasanaethu yn yr AEF yn gywir. Bu aelodau QMAAC hefyd yn helpu i reoli'r system bost, gan gynnwys cydlynu'r cyfathrebu rhwng gwahanol adrannau rhyfel a thrin y llythyrau rhwng milwyr a'u perthnasau gofidus. Cynrychiolwyd llawer o grefftau eraill yn rhengoedd y QMAAC yn Bourges, gan gynnwys mecanyddion, weldwyr, stenograffyddion a chogyddion arbenigol. Fe wnaeth merched Prydain gynnal llawer o ddawnsfeydd a phartïon mewn cytiau hefyd yn Bourges, gan wella bywydau milwyr AEF a'u bywydau cymdeithasol eu hunain.

Cafodd Goodwin ei rhyddhau o'r QMAAC ym mis Gorffennaf 1919 cyn ymgartrefu yn Abertawe gyda'i gŵr, Haydn Morris. Diddymwyd corfflu merched y Fyddin Brydeinig ym mis Medi 1921. Erbyn iddo ddod i ben, roedd mwy na 57,000 o ferched wedi gwasanaethu gyda'r WAAC/QMAAC, yn amrywio o ran oedran o 18 i 40 oed. Er eu bod wedi'u cyfyngu i rolau cymorth, bu ymdrechion ymroddedig Goodwin ac aelodau eraill o WAAC yn help i herio stereoteipiau rhywedd oedd wedi hen ymwreiddio gan baratoi'r ffordd i genedlaethau'r dyfodol o ferched gymryd rhan weithredol yn y fyddin.

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024