Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Gwasanaeth ar y cyd ar gyfer Cynghorau Dinas a Sir Abertawe a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
O 2 Rhagfyr 2025 bydd y Gwasanaeth Archifau ym mreswylfa newydd yn Y Storfa ar Stryd Rhydychen, Abertawe. Darllenwch mwy am sut i gyrchu'n gwasanaeth.
Mae archifau Canolfan Ddinesig Abertawe'n cynnwys dogfennau, mapiau, ffotograffau a chofnodion am hanes Gorllewin Morgannwg, sy'n cynnwys Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ardaloedd Gŵyr a chymoedd Afan, Nedd ac Abertawe.
Dyma'r lle i ddysgu am eich ardal leol, olrhain eich hanes teulu, ymchwilio ar gyfer eich traethawd estynedig a llawer mwy. Mae ein staff cymwynasgar a gwybodus ar gael i'ch helpu gyda'ch ymchwil.
Rydym hefyd yn derbyn deunydd archifol gan y cyhoedd i ychwanegu at ein casgliadau ac i helpu i ddiogelu cofnodion treftadaeth ein hardal.
Gwasanaeth ar y cyd ar gyfer Cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yw'r Gwasanaeth Archifau.
