Toglo gwelededd dewislen symudol

Elizabeth Roper o Gastell-nedd

Aelod o Gwmni Glowyr yn y 1730au neu'r 1740au

Elizabeth Roper of Neath

Yn hanner cyntaf y 18fed ganrif, roedd Ystâd y Gnoll yn cloddio'i phyllau glo drwy gontractau a ddisgrifiwyd fel "cwmnïau glowyr" y cawsant eu nodi gan enw'r prif löwr; enwyd y cwmnïau'n rheolaidd yng nghyfrifon yr ystâd ond dim ond ambell restr sydd ar gael o enwau'r glowyr unigol a oedd y rhan o'r timau hyn. Wrth ymchwilio i Ystâd y Gnoll, mi ddes i o hyd i restr o enwau glowyr. Er nad oes dyddiad ar y rhestr, mae gennym lun o ble'r oedden nhw'n gweithio, beth roedden nhw'n ei wneud a'r cwmni roedden nhw'n gweithio iddo.

Un cwmni nad yw'n ymddangos yn aml yn y cofnodion yw "Roper & Co", ond drwy lwc, mae'r rhestr sydd wedi'i hysgrifennu'n wael ond wedi'i gwnïo'n daclus at ei gilydd, yn rhoi enwau aelodau'r cwmni hwnnw da arweiniwyd gan Francis Roper, a oedd yn gweithio gyda dau ddyn arall, dau fachgen ac "Eliz:  Roper". Roedd Eliz yn dalfyriad ar gyfer Elizabeth. Disgrifiwyd Roper & Co fel cwmni a oedd yn gweithio "yn y lefel" heb unrhyw ddisgrifiad pellach.

Roedd Elizabeth yn gweithio yn y "banciau" lle mae'n ymddangos ei bod wedi gweithio yng nghwmni dyn arall. Cludwyd glo o ardal Cimla isaf mewn wagenni ar gledrau pren i lanfa ar afon Nedd. Gallai fod yn bwysig i'r glowyr reoli'r banc glo roedden nhw wedi'i osod ar y lanfa yn gywir oherwydd, ar adegau amrywiol, fe'u talwyd am y glo a werthwyd yn unig, a hynny naill ai i'r fasnach longau neu i gwsmeriaid eraill. Felly, roedd angen iddynt gadw cofnod o faint o'r glo a gloddiwyd ganddynt a oedd wedi'i werthu mewn gwirionedd mewn unrhyw fis penodol.

Mae'n debygol mai'r Francis Roper a restrir oedd tad Elizabeth. Cafodd ei bedyddio yn Eglwys St Thomas yng Nghastell-nedd ar 22 Awst 1724 a nodwyd ei bod yn ferch i Francis Roper. Mae'n bosib bod Roper, sy'n cael ei sillafu weithiau fel Ropier, yn un o'r glowyr o Swydd Amwythig y daeth Syr Humphrey Mackworth â hwy i'r ardal mewn ymgais i wella cynhyrchiant ei byllau glo. Roedd y teulu'n byw yn ardal Stryd y Dŵr yng Nghastell-nedd, mewn llety a ddarparwyd gan yr ystâd yn ôl pob tebyg.

Gall cymharu hyn â dyddiad bedydd un o'r bechgyn ddynodi bod y rhestr yn dyddio o'r 1730au neu'r 1740au cynnar ac mae'n debygol mai merch oedd Elizabeth, yn hytrach na menyw ifanc, pan oedd yn gweithio ar y banciau glo. Priododd â Samuel Raphael neu Raphael yn Eglwys Llanilltud Fach ar 13 Tachwedd 1750. Mae cofnodion dilynol yn awgrymu bod y pâr hefyd wedi byw yn Stryd y Dŵr a bod Samuel yn löwr. Nid yw'n ymddangos bod y pâr wedi cael unrhyw blant cyn marwolaeth Elizabeth ym 1775.

RISW/Gn 3/195

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024