Toglo gwelededd dewislen symudol

Môr-ladron a phererindodau: Yr Arglwyddes Elizabeth Stradling o Gastell Sain Dunwyd

Llythyr hynod ddiddorol o'r 1460au

Elizabeth Stradling

Un o'r dogfennau mwyaf anarferol sydd gennym yw llythyr a ysgrifennwyd gan Syr Harry Stradling o Gastell Sain Dunwyd tra oedd ar bererindod i Rufain - at ei annwyl wraig Elizabeth. Mewn oes lle mae'r rhan fwyaf o'r cofnodion sydd wedi goroesi yn siarteri ffurfiol, mae'n anarferol cael dogfen bersonol o'r fath. Fe'i hysgrifennir yn iaith Chaucer ac mae'n anodd ei ddarllen, ond mae'n dangos gŵr ymroddedig a gwraig ddibynadwy.

Roedd Elizabeth yn weinyddwr cymwys a dibynadwy: yn ôl y stori, roedd môr-leidr arswydus o'r enw Colin Dolphin yn brawychu Môr Hafren o'i guddfan ar Ynys Wair. Un diwrnod, cymerwyd Syr Harry Stradling yn garcharor ganddo, a mynnodd bridwerth sylweddol amdano. Er mwyn talu, bu'n rhaid i Elizabeth oruchwylio gwerthiant rhai o'u tiroedd. Rhyddhawyd ei gŵr, ond diweddodd pethau'n wael i Colin y môr-leidr: Fe'i daliwyd gan Syr Harry a'i ddynion ym Mae Tresilian a chafodd ei ladd yn giaidd ganddynt.

Efallai fod hynny'n esbonio pam yr aeth ar bererindod: o gwmpas y 1460au gadawodd ei wraig yn gyfrifol am ei faterion ac aeth i Rufain i gael ei ollwng oddi wrth bechod gan y Pab. Pan oedd yno, ysgrifennodd lythyr adref at ei wraig Elizabeth - ac yn anhygoel, mae'n goroesi yn yr Archifau!

Dechreua gyda'r geiriau "F'annwyl wraig hoffus, fe'th gyfarchaf well fil o weithiau". Mae'n dweud er gwaethaf taith anodd ei fod wedi gallu croesi i Calais mewn pedair awr yn unig. Ar ôl treulio noson anghyfforddus o dan goeden, fe gyrhaeddodd Rufain ar ddydd Gwener y Groglith, ac yno am y tridiau nesaf mynychodd wasanaethau lle cyhoeddodd y Pab faddeuant Duw i'r dorf o bererinion. Gwelodd hefyd grair sanctaidd, y Fernagl, y lliain y dywedir i'r Santes Feronica ei defnyddio i sychu ael Crist ar y ffordd i'w groeshoeliad.

Cyn iddo fynd, gorfododd Elizabeth Harry i addo'n ddwys y byddai'n cael maddeuant am ei phechodau hithau hefyd. Mae'n ysgrifennu, "A hefyd, o ran dy ryddhau oddi wrth dy bechodau, bu'n waith caled ac yn gostus i'w gael..." Roedd yn ddogfen wedi'i selio â sêl blwm, a ymddiriedwyd ganddo i Tom Gethyn i ddod ag ef adref, "oherwydd po dlotaf yw dyn, gorau oll". Mae'n dweud "pe na bai wedi'i fwriadu ar gyfer iechyd dy enaid, ni fyddwn wedi ei brynu, oherwydd nid oes unrhyw beth arall wedi peri cymaint o drafferth i mi erioed."

Mae'n amlwg ei bod hi wrth y llyw yn ei absenoldeb, "Gan fy mod yn ymddiried ynot uwchlaw pawb". Mae buddsoddiadau i ymdrin â hwy a diwrnodau llys i'w cadw, ac mae hi i fod yn feistr da i Rees Du.

Mae'r anwyldeb a'r ymddiriedaeth rhwng y ddau yn amlwg drwy'r holl lythyr. Mae'n gorffen gyda "F'annwyl wraig hoffus, bydded i ti fod yng ngofal Iesu; bydd siriol, a gweddïa drosof fel yr ymddiriedaf innau i Dduw i weddïo drosot ti." Mae'r cyfeiriad ar y tu allan i'r llythyr yn darllen yn syml, "I'm hannwyl wraig hoffus, Elyzabethe Stradlyng."

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024