Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Feithrin Nelson Terrace

Addysgwch bob plentyn fel pe bai'n blentyn i chi

Nelson Terrace 2

Nod y Cyfnod Sylfaen (cwricwlwm statudol i bob plentyn 3 i 7 oed yng Nghymru) yw annog plant i fod "yn greadigol ac yn llawn dychymyg a gwneud dysgu'n fwy pleserus". Rhoddir cyfleoedd i blant archwilio'r byd o'u cwmpas a deall sut mae pethau'n gweithio drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy'n berthnasol i'w cam datblygiadol. Cyflwynwyd y fframwaith ym mis Medi 2010 ond nid yw'r ddamcaniaeth y tu ôl iddo'n un newydd. Arloeswyd addysg feithrin awyr agored gan y chwiorydd McMillan (Margaret a Rachel) yn ôl ym 1914 pan agoron nhw'r Ysgol Feithrin a'r Ganolfan Hyfforddiant Awyr Agored gyntaf yn Deptford, dan y wireb: 'addysgwch bob plentyn fel pe bai'n blentyn i chi'. Erbyn 1937, roedd 96 o ysgolion dydd awyr agored ledled Prydain.

Yn ystod 2016, derbyniodd Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg fwndel o dudalennau i'w hadneuo, yn wreiddiol o lyfr lloffion, a oedd yn cynnwys toriadau a ffotograffau o bapurau newydd mewn cysylltiad â sefydlu Ysgol Feithrin Nelson Terrace Abertawe, a sut y rhedwyd yr ysgol yn ystod y cyfnod yr oedd ei harolygydd gyntaf, Miss Winifred Mary Brown, yn dal y swydd. Mae'r ffotograffau'n dangos y plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, ac mae'r toriadau papur newydd yn dangos y diddordeb a gafwyd yn yr ysgol fel yr un gyntaf a ddarparwyd gan Awdurdod Addysg yng Nghymru (E/S 21/3/2).

Adeiladodd ac agorodd Abertawe ei Hysgol Feithrin Awyr Agored gyntaf yn Nelson Terrace ym 1936. Roedd yr angen am athrawon arbenigol yn golygu y bu'n rhaid cael gafael ar athrawon o'r tu allan i'r ardal am y tro cyntaf. Penodwyd Miss Winifred Mary Brown (ganed 6 Awst 1909) o Ferthyr Tudful yn arolygydd. Roedd Miss Brown wedi hyfforddi am 3 blynedd yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Rachel McMillan, Deptford, a bu'n gweithio am gyfnod byr yn Nowlais cyn dod i Abertawe. Agorwyd Ysgol Feithrin Nelson Terrace yn swyddogol ar 7 Mai 1936 gan Katharine Bruce Glasier, ffrind personol i'r chwiorydd McMillan.

Roedd yr ysgol ar hen safle'r coleg hyfforddi ar Nelson Terrace (o dan Ganolfan Siopa'r Cwadrant heddiw). Fe'i dyluniwyd gan Mr Ernest E. Morgan (pensaer bwrdeistrefol Abertawe); hon oedd y drydedd ysgol feithrin fwyaf yn y wlad ac fe'i dyluniwyd i gymryd uchafswm o 160 o blant rhwng 2 a 5 oed. Amgylchynwyd yr ysgol gan wal derfyn garreg, gydag iard chwarae darmac fawr a thair llain o wair o faint da, a phwll tywod. Roedd y fynedfa ar ben Nelson Terrace ac roedd yn agor allan ar bedrongl lle'r oedd garej ar gyfer pramiau. Roedd ystafell dderbyn, ystafell staff, ystafell yr arolygydd ac ystafell y meddyg wrth y fynedfa hon. Roedd adain y gorllewin yn cynnwys ystafell chwarae ac ystafell fwyta fawr, cegin, pantri, ystafell ddosbarth fawr gydag ystafell gotiau a'r ystafelloedd glanweithiol a oedd yn cynnwys toiledau, basnau ymolchi, baddonau, cawodydd a phwll padlo bach. Roedd adain y dwyrain yn cynnwys tair ystafell ddosbarth, ac roedd ystafell storio ac ystafell gotiau ym mhob un ohonynt.

Nelson Terrace 1

Roedd yr ysgol yn ymwneud yn bennaf ag iechyd ac nid addysg. Roedd rhai o'r disgyblion yn dod o gartrefi gorlawn ac roeddent yn gwerthfawrogi'r awyr iach a'r oriau a dreuliwyd yn gorffwys; roedd eraill yn unig blant ac roedd yn rhaid iddynt ddysgu dod yn fwy cymdeithasol, cymysgu gyda phlant eraill a rhannu eu teganau â nhw. Agwedd bwysig arall ar yr ysgol feithrin oedd dod i adnabod y mamau yn ogystal â'r plant; deall yr amodau gartref. Sefydlwyd clwb i famau gydag aelodaeth o dros 100. Byddent yn cyfarfod yn wythnosol am sgyrsiau, i wnïo ac ar gyfer dosbarth cadw'n heini. Cyflwynodd Miss Brown Urdd y Plant hefyd; clwb oedd hwn lle'r anogwyd cyn ddisgyblion i ymweld unwaith yr wythnos ar ôl iddynt adael i fynd i'r Ysgol Elfennol fel y gellid gwirio'u cynnydd.

Roedd yr holl gelfi, gan gynnwys teclynnau glanweithdra, yn rhai bychain fel eu bod yn addas i blant rhwng 2 a 5 oed. Roedd y gwelyau yn fach, yn ysgafn ac yn blygadwy fel y gallai'r plant eu symud eu hunain. Roedd ganddynt flancedi lliwgar a rhoddwyd peg anifail i bob plentyn i hongian ei het a'i got. Pan roeddent yn yr ysgol feithrin, rhoddwyd troswisgoedd lliwiau llachar i'r plant eu gwisgo. Dyma sut roedd diwrnod arferol yn yr ysgol feithrin:

Nelson Terrace 4 Welsh

Y nod oedd "y dylai darparu peint o laeth, dos o olew iau penfras, y cyfle i orffwys a chwarae yn yr awyr agored, a bwydydd addas yn ddyddiol wneud plant gwanllyd yn iach a phlant iach yn iachach." Y gobaith oedd y byddai hyn yn y pen draw yn addysgu'r plant ifanc am lendid, "anadlu a glanhau dannedd yn iawn" ac felly'n arbed arian a wariwyd ar wasanaethau meddygol yn yr ysgolion elfennol.

Gadawodd Miss Brown ei swydd ym 1939 ar achlysur ei phriodas â John D L Jones (Curad mewn Gofal yn Eglwys y Santes Agnes, Port Talbot o 1939 i 1946, a Ficer Baglan yn ddiweddarach, o 1946 i 1961) ar 6 Mai 1939 yn Eglwys Sant Andrew, Caerdydd. Derbyniwyd ei rhybudd o ymddiswyddo ar 11 Mawrth 1939 ac roedd yn effeithiol o 31 Mawrth 1939, 6 mis yn unig cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, difrodwyd yr ysgol gan fom a chafodd rhan o'r ysgol ei hatafaelu i'w defnyddio fel lloches cyrch awyr. Caeodd yr ysgol ei drysau ar safle Nelson Terrace ym 1969 a symudodd i Dyfaty. Ym 1975, daeth cyfnod Ysgol Feithrin Dyfaty fel ysgol ar wahân i ben, a daeth yn uned o fewn Ysgol Fabanod Dyfaty. Goroesodd yr ysgol feithrin am 39 mlynedd ond 41 o flynyddoedd yn hwyrach, mae ethos y chwiorydd McMillan yn parhau yn y Cyfnod Sylfaen.

Nelson Terrace 3

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024