Toglo gwelededd dewislen symudol

Rachel Ellen Jones, uwch-fferyllydd yn Ysbyty Abertawe

Hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i gymhwyso fel fferyllydd a drygist.

Rachel Ellen Jones

Welsoch chi'r fferyllwyr ar ein ffilm am nyrsys Ysbyty Abertawe? Mae'r sleid yn dangos dwy fenyw yn gweithio yn y fferyllfa, gyda dyn, prin yn weladwy, yn y cefndir. Yng nghanol y llun, ar y chwith, mae'r uwch-fferyllydd, Rachel Ellen Jones. Fel mae'n digwydd, hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i gymhwyso fel fferyllydd a drygist.

Fe'i ganed ym 1878 i deulu ffermio mawr yn Fferm Llechwedd, Llanwenog, ger Llanybydder. Roedd ei thad yn fridiwr defaid llwyddiannus ac er i un o'i brodyr ddod yn athro amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, hyfforddodd Rachel fel fferyllydd ac ar 13 Ionawr 1900 derbyniodd ei thystysgrif cymhwyso gan Gymdeithas Fferyllol Prydain Fawr.

Bu'n gweithio am gyfnod y tu allan i Gymru, gan gynnwys yng Nghaerwysg, cyn derbyn swydd fel rheolwr J. T. Davies, Chemists ar Walter Road yn Abertawe. Dechreuodd ei chysylltiad ag Ysbyty Abertawe ym 1916: i ddechrau, gofynnwyd iddi 'gynorthwyo'r ysbyty dros yr anhawster presennol drwy gyflenwi fferyllydd am ychydig oriau bob dydd', cyn cael ei phenodi'n ffurfiol fel fferyllydd y flwyddyn ganlynol. Parhaodd yn uwch-fferyllydd tan 1947.

Ar ei hymddeoliad daeth yn aelod gweithgar o Gymdeithas Gŵyr, gan wasanaethu ar wahanol adegau fel trysorydd ac is-gadeirydd. Bu farw ym 1970 yn 92 mlwydd oed, merch ryfeddol mewn ffordd dawel.

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Hydref 2024