Toglo gwelededd dewislen symudol

Plac Porffor i Amy Dillwyn

I gofio'r awdur a'r diwydiannydd

Amy Dillwyn and Pango

Lleoliad y plac: ar wal allanol o 'The Green Room Bar & Kitchen', ym Mharc Amy Dillwyn.  

Ganed Amy Dillwyn ym 1845, yn ferch i'r diwydiannwr Lewis Llewelyn Dillwyn. Pan fu farw ei thad ym 1892, etifeddodd Waith Sbelter Llansamlet, ynghyd â dyledion sylweddol. Ym myd masnach a diwydiant lle roedd dynion yn teyrnasu, gwnaeth y penderfyniad dewr i reoli'r cwmni ei hun, gan achub swyddi 300 o weithwyr. Er gwaethaf popeth, erbyn 1899, roedd wedi talu'r holl ddyledion ac roedd Dillwyn & Co yn ennill elw.

Roedd Amy yn cefnogi sawl achos lleol, gan gynnwys streic y gwniadwragedd yn siop Ben Evans, ac adeiladu Ysgol y Tlodion yn Abertawe. Roedd hefyd yn dadlau'n gryf dros sicrhau'r bleidlais i fenywod. Rhwng 1880 a 1892, cyhoeddodd chwe nofel. Mae themâu ffeministaidd yn ymddangos drwy gydol ei gwaith, yn ogystal â chyfiawnder cymdeithasol, cariad nas dychwelir a beirniadaeth o'r bonedd

Enwyd Parc Amy Dillwyn er anrhydedd iddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2024 a dadorchuddiwyd y plac porffor ar 7 Mawrth 2025. 

Nid yw'r plac hwn yn rhan o gynllun placiau glas Cyngor Abertawe. Cafodd y plac ei enwebu gan Archif Menywod Cymru a'i gomisiynu gan Gyngor Abertawe. Mae ymgyrch y Placiau Porffor wedi cael ei chreu i gydnabod menywod nodedig yng Nghymru yn well a chyflwyno plac iddynt i goffáu eu cyflawniadau a chadarnhau eu cyfraniad at hanes Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://purpleplaques.wales/   

Gosodwyd dau blac arall i gydnabod Amy Dillwyn yn West Cross gan Gymdeithas Amy Dillwyn. Mae un ar y wal wrth y fynedfa i Mumbles Nursing Home (a fu gynt yn Nhŷ Glyn, cartref Amy Dillwyn) ac mae'r llall gerllaw ar yr ymyl ger y trac beicio.

Amy Dillwyn plaque design


Sut i gyrraedd yno:

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Mawrth 2025