Parc bach yn arwain y ffordd tuag at ddyfodol gwyrddach
Mae parc bach newydd Abertawe yn arwain y ffordd ymlaen wrth i'r byd fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae'r parc dros dro yng nghanol y ddinas newydd gael ei wella gyda phaneli gwybodaeth allweddol.
Mae miloedd o bobl yn ymweld â'r cyfleuster - sef y parc bach - rhwng eglwysi'r Santes Fair a Dewi Sant bob wythnos.
Mae'r paneli newydd yn esbonio pam ei fod mor bwysig i annog bioamrywiaeth lleol wrth i'r byd fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng natur.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, David Hopkins, "Mae ein datblygiadau mawr yng nghanol y ddinas - gan gynnwys y gwaith sydd ar ddod i wella Gerddi Sgwâr y Castell - yn adlewyrchu ein nod ar gyfer dinas gwyrddach a mwy bioamrywiol.
"Mae'r parc bach dros dro hwn yn arwain y ffordd ar gyfer bioamrywiaeth yng nghanol y ddinas. Mae'n dylanwadu ar brosiectau allweddol eraill ac yn cael ei ddefnyddio i dreialu amrywiaeth eang o blanhigion sy'n gyfeillgar i beillwyr ac atebion ar sail natur."
Crëwyd y gosodiad gan y cyngor mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
Mae'n cynnwys mwy na 40 o blanwyr pren â seddi sy'n rhan ohonynt.
Meddai Hamish Orborn o CNC, "Mae'r paneli gwybodaeth yn helpu pobl i weld sut mae dod â natur i'r ddinas yn ei gwneud yn lle gwell i fod, yn ogystal â bod yn dda ar gyfer bywyd gwyllt, lleihau llygredd a llifogydd a helpu i leihau newid yn yr hinsawdd a'n hamddiffyn rhagddo."
Lluniau: Parc dros dro Gogledd Abertawe Ganolog. Llun: Cyngor Abertawe