Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Pryd byddaf yn gwybod a fu fy nghais am le mewn dosbarth derbyn neu Flwyddyn 7 yn llwyddiannus ai peidio?

Wrth wneud eich cais ar-lein gofynnir i chi ddewis a ydych yn dymuno cael gwybod am ganlyniad eich cais drwy e-bost neu drwy lythyr.

Bydd angen i chi roi caniatâd i ni ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost. Defnyddir y cyfeiriad e-bost hwn at ddibenion derbyn yn unig yn unol â diogelu data. Os na fyddwch yn rhoi caniatâd, ni fyddwch yn derbyn eich cynnig drwy e-bost ond byddwch yn dal i allu gweld eich cynnig ar-lein (dim ond os gwnaethoch gais ar-lein drwy ein porth ymgeisio).

Os na wnaethoch gais gan ddefnyddio'r porth ar-lein a gwnaethoch gyflwyno cais papur, ni fyddwch yn cael gwybod drwy e-bost, ond anfonir llythyr drwy'r post atoch.

Ar gyfer ceisiadau Blwyddyn 7, bydd rhieni sydd wedi gwneud cais ar amser yn cael gwybod a yw eu plentyn wedi cael lle yn yr ysgol o'u dewis ai peidio ar 1 Mawrth 2024

Ar gyfer ceisiadau dosbarth derbyn, bydd rhieni sydd wedi gwneud cais ar amser yn cael gwybod a yw eu plentyn wedi cael lle yn yr ysgol o'u dewis ai peidio ar 16 Ebrill 2024.