Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhaglen Angori Cyflogadwyedd

Lansiodd Cyngor Abertawe Raglen Angori Cyflogadwyedd newydd, Llwybrau at Waith dan flaenoriaeth Pobl a Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae'r Rhaglen Angori Cyflogadwyedd newydd yn adeiladu ar lwyddiant prosiect 'Llwybrau at Waith' UKCRF i ddarparu ymagwedd amlasiantaeth gydlynol at gyflwyno darpariaeth cyflogadwyedd a sgiliau.

Bydd amryfal bartneriaid cyflwyno'n dod ag arbenigeddau ynghyd i ddarparu cynnig cefnogaeth fwy cyfannol i unigolion a chreu llwybrau at feysydd gwaith allweddol drwy ddarparu cefnogaeth cyflogadwyedd, sgiliau a hyfforddiant, sgiliau chwilio am swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau.

Mae partneriaid cyflwyno'n cynnwys:

  • Tîm Cyllid Allanol Cyngor Abertawe
  • Tîm NEET Cyngor Abertawe
  • Coleg Gŵyr Abertawe 
  • Y Wallich 
  • Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd 
  • Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru 
  • Tîm Cefnogi Lleiafrifoedd ac Ieuenctid Ethnig (EYST) Cymru 
  • Cefnogaeth Iechyd Meddwl i gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol 
  • Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA) 
  • Llamau 
  • Platfform 
  • MAD Abertawe 

Mae'r prosiect Llwybrau at Waith yn canolbwyntio ar fylchau yn y ddarpariaeth bresennol ac anghenion lleol i ategu darparwyr presennol drwy greu llwybrau cyflogadwyedd a gyflwynir gan weithwyr allweddol drwy ddarpariaeth:

  • cefnogaeth atal NEET mewn ysgolion uwchradd / UCDau
  • cefnogaeth ymgysylltu ar gyfer pobl ifanc NEET a'r rheini sy'n anweithgar yn economaidd
  • cefnogaeth cyflogadwyedd fanwl
  • cefnogaeth sgiliau a hyfforddiant
  • sgiliau digidol
  • gwirfoddoli, profion gwaith a lleoliadau gwaith â thâl
  • clwb swyddi'n gysylltiedig â chyflogwyr lleol
  • darpariaeth cyflogadwyedd arbenigol drwy gynllun grant trydydd parti

Y nod yw symud unigolion di-waith neu sy'n anweithgar yn economaidd drwy becyn pwrpasol o ymyriadau i mewn i'r farchnad lafur neu'n agosach ati.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 637112 neu e-bostiwch llwybraugwaith@abertawe.gov.uk.

Close Dewis iaith